Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Fformiwla Un yn ysbrydoli gwaith myfyriwr peirianneg

Rhan o asesiad terfynol y myfyrwyr peirianneg oedd dylunio a chreu stand ar gyfer ffôn symudol, a'r hyn a ysbrydolodd un ohonynt oedd ei ddiddordeb mewn rasio Fformiwla Un.

Yn yr aseiniad terfynol ar gyfer y modiwl gweithgynhyrchu haen-ar-haen, defnyddiodd myfyrwyr cwrs Diploma Estynedig BTEC mewn Peirianneg Gyffredinol ar gampysau Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli a Dolgellau dechnoleg argraffu 3D i droi eu dyluniadau'n standiau ar gyfer ffonau symudol.

Cawsant eu hysbrydoli gan amrywiaeth o ffynonellau i greu dyluniadau pwrpasol ar gyfer eu ffôn a'u hanghenion penodol eu hunain.

Roedd stand Daniel Pirie, sy'n astudio ar gampws Hafan ym Mhwllheli, yn edrych yn debyg i gan diod a'r ysbrydoliaeth oedd y cysylltiad rhwng Red Bull a chwaraeon moduro, yn enwedig F1.

Yn gynharach eleni, cynrychiolodd Daniel a'i gyd-fyfyrwyr Goleg Meirion-Dwyfor yn y gystadleuaeth F1 mewn ysgolion. Y 'Bwledi Piws' oedd enw eu tîm ac i ddathlu eu llwyddiant yn y gystadleuaeth, dyna oedd lliw'r stand a greodd Daniel ar gyfer ei ffôn.

Dywedodd Daniel: “Fy niddordeb mewn ceir F1 ac mewn dilyn y tîm Red Bull oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y stand ffôn.

“Ysbrydoliaeth arall oedd cymryd rhan yn y gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion yn gynharach eleni pan wnes i a'm cyd-fyfyrwyr gynrychioli Coleg Meirion-Dwyfor yn erbyn ysgolion eraill yng ngogledd Cymru fel aelodau o dîm y Bwledi Piws.

“Ein tîm ni enillodd y wobr am yr hunaniaeth tîm gorau, ac rydw i wedi defnyddio'r lliw piws yn fy nyluniad i ategu ein llwyddiant yn y gystadleuaeth honno.”

Yn ystod y tymor diwethaf mae'r holl fyfyrwyr wedi datblygu ystod o ddyluniadau ar gyfer standiau ffôn, ac wedi gwneud nifer o welliannau i brintiau prawf cyn creu eu standiau terfynol.

Meddai Emlyn Evans sy'n ddarlithydd ar gampysau Pwllheli a Dolgellau: “Mae ein myfyrwyr wedi bod yn defnyddio'r sgiliau maen nhw wedi'u datblygu yn y modiwl Dylunio ym maes Peirianneg a'r modiwl Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD) i ddylunio stand i'w ffôn symudol. Ar ôl dylunio ac argraffu gwelliannau, mae'r myfyrwyr i gyd wedi llwyddo i argraffu a chwblhau eu dyluniadau terfynol ar gyfer yr asesiad.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor ac yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.

Students on the BTEC Enhanced General Engineering course at Coleg Meirion-Dwyfor’s Pwllheli and Dolgellau campuses used 3D printing to make their designs a reality as part of their final assignment in the additive manufacturing module.

They took inspiration from a variety of sources to create bespoke designs for their own phone and their own specific needs.

Daniel Pirie, who studies at the Hafan campus in Pwllheli, created his to resemble a drinks can, having been inspired by Red Bull’s connection with motorsport and in particular F1.

Earlier this year, Daniel and fellow students had represented Coleg Meirion-Dwyfor as ‘Team Purple Bullets’ in the F1 in Schools competition, and to celebrate their success in that event he created his phone stand in the same colour scheme.

Daniel said: “My inspiration for the phone stand stems from my passion for F1 and following the Red Bull team.

“Another inspiration for the design came from my participation in the Formula 1 in schools competition this year where my colleagues and I represented Coleg Meirion Dwyfor in the annual North Wales F1 in schools competition as team Purple Bullets.

“Our team was awarded the best team identity in the competition, and I continued with the colour purple in my design to complement the team’s success in the competition.”

Over the last term, each student has developed a range of phone stand designs, and made several test prints and refinements in order to produce their final phone stands.

Emlyn Evans, lecturer at the Pwllheli and Dolgellau campuses, said: “Our students have been using the skills they have acquired in the Engineering Design Module and the CAD (Computer Aided Design) module in order to design their own personal mobile phone stand. After many design and printing improvements all students have successfully printed and finished their final designs ready for assessment.”

For more information on engineering courses at Coleg Meirion-Dwyfor and across Grŵp Llandrillo Menai, click here.