Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwerthwyr tai llwyddiannus yn arddangos gwaith celf myfyrwyr

Bydd gwerthwyr tai sydd wedi ennill sawl gwobr yn arddangos gwaith celf myfyrwyr mewn sawl un o'u canghennau, wedi iddynt greu argraff ar y beirniaid mewn cystadleuaeth ddarlunio flynyddol.

Comisiynwyd myfyrwyr y cwrs Sylfaen Astudiaethau Celf a Dylunio yng Ngholeg Llandrillo gan Williams Estates i gynhyrchu dyluniadau poster pwrpasol ar y thema ‘Does unman yn debyg i gartref’.

Bydd creadigaethau’r myfyrwyr yn cael eu harddangos yng nghanghennau’r gwerthwyr tai yn y Rhyl, Dinbych a Phrestatyn, lle bydd yn cael ei weld gan gannoedd o bobl sy'n symud tŷ – tra bod gwobrau ariannol hefyd ar gyfer y dyluniadau mwyaf trawiadol.

⁠Cafodd eu gwaith celf ei arddangos yn arddangosfa diwedd tymor y Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Llandrillo hefyd. Gallwch weld mwy o'r gwaith trawiadol sy'n cael ei ddangos yn yr arddangosfa ar TikTok and Instagram.⁠

Elgan Jones o Ddinbych enillodd y brif wobr o £100 yn y gystadleuaeth ‘Does unman yn debyg i gartref’ am y darn, ‘Fy ffenestr gysur’. Darlun o gath yn ymlacio wrth ffenest tŷ, gydag arwydd ‘wedi’i werthu’ y tu allan iddi.

Cyflwynodd Jason Williams, perchennog Williams Estates ⁠y wobr i Elgan yn arddangosfa diwedd tymor Coleg Llandrillo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos. ⁠ ⁠

Meddai Elgan wedyn: “Rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill y gystadleuaeth ‘Does unman yn debyg i adref’ gyda fy narn, ‘Fy ffenestr gysur’. Cefais fy ysbrydoli gan ffenestri hen faenordy, a Pwt, fy nghath.”

Roedd gwobrau o £50 yr un hefyd i Annélyse Boas, o Ruthun, a Lucy Morris, o'r Rhyl.

Dywedodd Lucy: "Fel un sy'n dyheu am fod yn ddarlunydd, roedd yn gyfle gwerthfawr iawn i weithio gyda busnes lleol i gael blas ar waith diwydiant.

"Prif ffocws fy narlun oedd arddangos hunaniaeth y brand drwy'r cynllun lliw a manylion eraill. Roeddwn i eisiau darlunio cwpl ifanc yn symud i dŷ oedd newydd ei werthu, er mwyn anfon neges uchelgeisiol ond realistig i gwsmeriaid Williams Estates. Ceisiais greu rhywbeth ffres, modern, a hawdd i hysbysebwyr ei ddefnyddio."

Dywedodd Annélyse: "Mae cartref yn fan lle mae pobl yn tyfu, yn caru, ac yn meithrin; lle sy'n cael ei gadw yng nghalonnau'r rhai a dreuliodd eu hamseroedd hapusaf yno. Dyma'r hyn yr oeddwn yn anelu at ei ddangos yn fy narlun; dechrau llawer o atgofion hyfryd a fydd yn aros am byth.”

Fel rhan o brosiect darlunio masnachol blynyddol mewn partneriaeth â Williams Estates, meddyliodd y myfyrwyr am restr o syniadau creadigol, cyn defnyddio camerâu digidol a chyfrifiaduron Apple iMac gyda meddalwedd digidol creadigol Adobe.

Yn ogystal â gweithio'n unigol ar eu gwaith trin digidol eu hunain, bu'n rhaid i'r myfyrwyr weithio gyda'i gilydd fel grŵp gyda'r cleient gan ddatblygu eu sgiliau gweithio fel tîm.

Meddai Jason Williams: "Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o brosiect darlunio masnachol Astudiaethau Sylfaen Celf a Dylunio Coleg Llandrillo, ac rwy'n edrych ymlaen bob blwyddyn at feirniadu'r darluniau gorffenedig. "Mae safon y gwaith creadigol bob amser yn ardderchog."

Dywedodd y tiwtor Dewi Owen Hughes: "Rydw i'n frwd dros fagu cysylltiadau gyda diwydiant, gan fy mod yn credu bod prosiectau gwaith realistig yn gwella profiadau ac o fantais i ddysgwyr Astudiaethau Sylfaen Celf a Dylunio Coleg Llandrillo wrth iddynt chwilio am waith yn y dyfodol.