Digwyddiadau CaMVA'n cynnig cyfle i fyfyrwyr ymgysylltu â chyflogwyr
Trefnwyd cyfres o ffeiriau swyddi ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ddiweddar yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gwrdd â chyflogwyr posib. Bu rhai'n ddigon ffodus i gael eu gwahodd i gyfweliadau am swyddi.
Cynhaliwyd digwyddiadau ar safleoedd y Grŵp yn Llangefni, Dolgellau, Pwllheli a Llandrillo-yn-Rhos gan roi'r cyfle i fyfyrwyr ddysgu pa sgiliau a nodweddion mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, a pha gyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Roedd y cyflogwyr yn dod o ystod eang o ddiwydiannau yn cynnwys peirianneg, gofal, twristiaeth, lletygarwch, arlwyo, llywodraeth leol, addysg a llawer rhagor.
Cynhaliwyd digwyddiad adeiladu penodol hefyd ar gampws y coleg yn Llangefni, yn ychwanegol i'r ffair swyddi cyffredinol a gynhaliwyd y diwrnod cynt.
Trefnwyd y digwyddiadau gan CaMVA, asiantaeth cyflogadwyedd a menter y Grŵp sy'n gweithio fel dolen gyswllt rhwng dysgwyr a chyflogwyr.
Dywedodd Julie Stokes-Jones, Swyddog Arweiniol Lleoliadau Gwaith gyda CaMVA bod y digwyddiad wedi bod yn un llwyddiannus. Dysgodd y myfyrwyr ragor am yr hyn mae cyflogwyr eisiau, a derbyniodd rai myfyrwyr wahoddiad i fynd i gyfweliadau.
Meddai: "Mae amrywiaeth o gyflogwyr wedi ymuno â ni o wahanol feysydd yn cynnwys maes gofal a pheirianneg, maes lletygarwch a gwestai ac o gymdeithasau tai. Roedd rhai cyflogwyr yn cynnig prentisiaethau ac eraill yn cynnig gwaith tymhorol.
Roedd yn ddefnyddiol iawn i'r myfyrwyr a ddaeth i'r digwyddiad, trefnodd y cwmni gofal ' Gofal Seibiant' gyfweliad gydag un o'r myfyrwyr y diwrnod canlynol i drafod gwaith ychwanegol dros benwythnosau.
Gwnaeth nifer geisiadau i Zip World yn ystod digwyddiadau Dolgellau a Phwllheli. Roedd Adra yn cynnig prentisiaethau ac aeth nifer o fyfyrwyr i'w gweld.
Mae'r ffair yn cynnig cyfle i bobl ifanc gwrdd â chyflogwyr wyneb yn wyneb, rhoi wyneb i'r enw fel petai, a allai fod o fantais wrth gyflwyno CV yn ddiweddarach. Rhyngweithio personol â chyflogwyr, dyna sy'n bwysig."
Dywedodd y myfyrwyr bod y ffeiriau swyddi o gymorth wrth iddynt ystyried eu dewisiadau gyrfa ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Jacob Ashall, sy'n dilyn cwrs Lefel 3 mewn Gosod Trydan: "Roedd yn ddefnyddiol iawn i mi. Mi wnaethon nhw egluro pa swyddi sydd ar gael a'r gwahanol lwybrau gyrfa y gallwn eu dilyn, ac mi ges i gyfle hefyd i drafod ambell beth gyda chyflogwyr posib.”
Meddai Yuliia Batrak, sy'n dilyn cwrs Lefel 1 mewn Lletygarwch ac Arlwyo: "Roedd yn gyfle da iawn i siarad gyda phobl sy'n rhedeg gwestai a gweld pa swyddi sydd ar gael.
Roedd yn ddefnyddiol iawn i gael y cyfle i siarad gyda chyflogwyr yma yn y coleg, doedd dim angen i ni deithio er mwyn siarad â nhw. Mae gen i ddiddordeb mewn gwneud cais am swydd mewn dau westy ac mi ges i sgwrs gyda nhw."
Roedd y ffeiriau hefyd yn ddefnyddiol i gyflogwyr, roedd cyfle i rannu gwybodaeth am brofiad gwaith, prentisiaethau a swyddi gyda dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai a chyfle hefyd i'w hysbrydoli wrth iddynt ystyried y dyfodol.
Meddai Chris Waddell, swyddog recriwtio mewnol gyda Akari Care: "Mae'r rhai ddaeth draw am sgwrs wedi dangos diddordeb amlwg ac wedi gofyn llawer o gwestiynau.
Mi fyddwn ni'n anfon gwybodaeth at y rhai a nododd eu manylion cyswllt a bydd cyfweliad yn cael ei drefnu i un myfyriwr yn un o'r cartrefi.
Rydym yn gyfrifol am bedwar cartref gofal yng Ngogledd Cymru, dau yn Y Rhyl a dau yn Llanrwst. Mae dod i ddigwyddiadau fel hyn yn cynnig cyfle gwych i siarad gyda phobl ifanc sy'n ceisio penderfynu beth i'w wneud yn y dyfodol, ac efallai'n ystyried dilyn gyrfa ym maes gofal.
Mae'n gyfle i'r gosod ar lwybr gyrfa fydd o fudd iddyn nhw ac yn helpu pobl eraill hefyd."
Dywedodd Kasia Williamson, rheolwr gwella ac ymgysylltu gyda Read Construction: "Roedd Read Construction yn falch o gefnogi'r ffeiriau swyddi er mwyn hyrwyddo gyrfaoedd yn y diwydiant adeiladu ac ymgysylltu â myfyrwyr lleol a chynnig lleoliadau gwaith.
Roedd yn gyfle gwych i siarad gyda myfyrwyr am yr ystod eang o yrfaoedd yn y diwydiant a chynnig ysbrydoliaeth i'r genhedlaeth nesa o weithwyr.”
Cefnogir CAMVA gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r Warant i Bobl Ifanc.
I gael rhagor o wybodaeth am CaMVA (dysgwyr) cliciwch yma ac i gyflogwyr cliciwch yma.
Am ragor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.