Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newyddion

Y newyddion diweddaraf o Goleg Llandrillo, Menai, Meirion-Dwyfor a Busnes@LlandrilloMenai.

Myfyrwyr ac athrawon yn cymryd rhan yn The School Food Showdown

Blas o’r diwydiant lletygarwch i ddisgyblion

Fel rhan o'r Cynllun Talent Twristiaeth, daeth bron i 500 o ddysgwyr ynghyd i wylio cogyddion proffesiynol wrth eu gwaith, i greu seigiau eu hunain a chymryd rhan mewn heriau coginio

Dewch i wybod mwy
Digwyddiad Cwrdd â'r Cyllidwr’

Datgloi Cyfleoedd: ‘Digwyddiad Cwrdd â'r Cyllidwr’

Dewch i weld sut y gall eich cwmni elwa ar Gyllid Newydd gan Lywodraeth y DU sydd wedi'i gynllunio'n benodol i ddiwallu anghenion busnesau gogledd Cymru.

Dewch i wybod mwy
Y darlithydd Paul Griffith o Goleg Llandrillo yn rhoi cynnig ar feic trydan yn India

Darlithydd o'r coleg yn teithio i India i rannu ei wybodaeth am gerbydau trydan

Yn ddiweddar, dychwelodd Paul Griffith o Telangana a Karnataka lle'r oedd yn ymchwilio i brinder sgiliau yn y diwydiant cerbydau trydan

Dewch i wybod mwy
Llong yr Island Reach yn Harbwr Conwy

Aelod o'r Senedd yn canmol y dysgwyr am eu gwaith ar long feddygol

Ymwelodd Sam Rowlands â’r Island Reach sydd wedi cael ei hadnewyddu gan wirfoddolwyr, yn cynnwys rhai o’r myfyrwyr peirianneg forol o Goleg Llandrillo

Dewch i wybod mwy
Mared Griffiths o Goleg Meirion-Dwyfor yn chwarae dros Gymru.

Mared ar drywydd y gemau rhagbrofol gyda Charfan Cymru

Mae'r fyfyrwraig o Goleg Meirion-Dwyfor yn paratoi i ennill ei chap cyntaf a chwarae i dîm hyn merched Cymru yn erbyn Croatia a Kosovo.

Dewch i wybod mwy
Y disgyblion ysgol gyda Chris Rowlands, y rheolwr allforio yn ffatri DMM yn Llanberis

Dysgwyr yn anelu'n uchel gyda thaith i ffatri offer dringo

Aeth disgyblion ysgol sy'n dilyn cwrs Lefel 2 mewn Peirianneg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor i ymweld â ffatri DMM yn Llanberis, tref sy'n ganolbwynt i weithgareddau awyr agored

Dewch i wybod mwy
Joshua Griffith gyda'i waith celf buddugol, 'Biomorph #1'

Joshua yn ennill gwobr Kyffin Williams i fyfyrwyr

Mae gwaith y dysgwr o Goleg Menai bellach yn cael ei arddangos ochr yn ochr â gwaith yr arlunydd enwog Syr Kyffin Williams yn Oriel Môn yn Llangefni

Dewch i wybod mwy
Y cyfarwyddwr celf, Ant O'Donnell, yn siarad â myfyrwyr Datblygu Gemau ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos

Artist gemau Lego a Marvel yn ysbrydoli’r myfyrwyr

Ymwelodd Ant O'Donnell, sy’n gyfarwyddwr celf i ddwy stiwdio ddatblygu ffyniannus, â Choleg Llandrillo i siarad â myfyrwyr sy’n dilyn y cwrs Datblygu Gemau

Dewch i wybod mwy
Deio Owen, y cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor

Ethol Deio yn Llywydd Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru

Cyhoeddwyd mai’r cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor fydd y Llywydd newydd yng Nghynhadledd flynyddol Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth

Dewch i wybod mwy
Linda

Cyn-bennaeth yn cael ei Hurddo gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Ddydd Mawrth 19 Mawrth, yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Bangor, cafodd Linda Wyn ei hurddo'n Gymrawd er Anrhydedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ei chyfraniad oes tuag at addysg cyfrwng Cymraeg.

Dewch i wybod mwy

Pagination