Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

'Dysgu Hedfan' yn ennill Gwobr Gymunedol Iris

Cipiodd y ffilm, a grëwyd gan fyfyrwyr Coleg Menai fel rhan o It’s My Shout, y wobr yn yr Ŵyl ffilm LHDTC+ yng Nghaerdydd

Mae 'Dysgu Hedfan', ffilm a wnaed gan fyfyrwyr Coleg Menai, wedi ennill y Wobr Gymunedol yng Ngŵyl Ffilm LHDTC+ Gwobr Iris.

Mae'r ffilm yn adrodd hanes Erin (a chwaraeir gan Gwenno Evans), sy'n tyfu adenydd wrth iddi ddatblygu teimladau tuag at ei ffrind gorau Alaw (Ffion Jones).

Fe'i cynhyrchwyd fel rhan o ⁠It’s My Shout 2024, cydweithrediad blynyddol sy'n galluogi talent addawol o bob cwr o Gymru i greu dramâu unigryw ar gyfer y BBC ac S4C.

Mae Coleg Menai wedi gweithio gyda It’s My Shout ⁠ers dros ddegawd, gyda'r myfyrwyr yn creu un ffilm Gymraeg ac un ffilm Saesneg bob blwyddyn.

Myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio sy'n serennu yn y ffilmiau, tra bod dysgwyr y Cyfryngau Creadigol a Chelf a Dylunio yn gyfrifol am y ffilmio, dylunio'r setiau, y coluro a'r dyletswyddau tu ôl i'r llenni eraill.

Cafodd 'Dysgu Hedfan' sydd â Gwenno a Ffion yn serennu ochr yn ochr â dysgwyr eraill, ei chyfarwyddo gan Juliette Manon a’i hysgrifennu gan Megan Angharad Hunter. Cafodd ei dangos ar S4C a'i blatfform ieuenctid, Hansh, ac mae ar gael i'w gwylio ar YouTube.

Bydd yn cael mwy o sylw mewn gwyliau ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt ar ôl ennill Gwobr Gymunedol Gwobr Iris, ar gyfer ffilmiau a grëwyd gan bobl nad ydynt yn broffesiynol, grwpiau ar lawr gwlad, a'r rhai nad ydynt wedi'u hariannu'n llawn.

Lluniau: Kieran Samuel, Lisa Meleri Williams a Selina Copestake

Meddai Paul Edwards, Rheolwr y Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Menai: “Rydym yn gyffrous ac yn falch iawn o fod yn rhan o Dysgu Hedfan, ac yn falch iawn dros ein dysgwyr a weithiodd mor ddiwyd ar y ffilm. Mae'r wobr hon yn dyst i'w gwaith caled.

“Mae ennill y wobr hon hefyd yn dangos gwerth ein perthynas ag It's My Shout. Fyddai'r llwyddiant hwn ddim yn bosibl heb It's My Shout, S4C a'r BBC, a'r ffordd maen nhw wedi ein cefnogi ni dros y blynyddoedd.

“Mae’n bleser mawr gweld ffilmiau’n cael eu creu yng Ngogledd Cymru gan ddysgwyr ifanc sydd newydd ddechrau ar eu gyrfaoedd. Mae cael y gydnabyddiaeth hon yn wych iddyn nhw ac yn fan cychwyn gwych i'w gyrfaoedd.”

Ar adeg y ffilmio, roedd cast Dysgu Hedfan yn astudio Celfyddydau Perfformio Lefel 3 yng Ngholeg Menai ym Mangor. Mae Ffion bellach yn astudio Theatr Gerdd Lefel 4 yn y coleg, tra bod Gwenno yn ail flwyddyn ei chwrs gradd drama ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd ffilmiau It’s My Shout eleni eu dangos am y tro cyntaf ar gampws Bangor ddydd Mercher, Hydref 22. Myfyrwyr Coleg Menai oedd yn serennu ac yn gweithio y tu ôl i'r llenni ar Pants ac Esblygiad, a fydd yn cael ei ddarlledu ar y BBC ac S4C yn y dyfodol agos.

Wyt ti eisiau gweithio yn y diwydiant Celfyddydau Perfformio? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau o Lefel 1 hyd at Lefel 4 (Tystysgrif Addysg Uwch). Dysgwch ragor yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date