Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dean a Kazia yw 'Consurwyr Llwyfan y Flwyddyn' y DU

Cyn-fyfyrwyr o Goleg Llandrillo, sy'n perfformio fel Raymond a Cannon, yn ymddangos yn y West End am y tro cyntaf ar ôl ennill gwobr genedlaethol

Mae cyn-fyfyrwyr o Goleg Llandrillo, Dean Raymond a Kazia Cannon, wedi cael eu henwi'n 'Consurwyr Llwyfan y Flwyddyn' gan yr International Brotherhood of Magicians (IBM).

Gan berfformio fel Raymond a Cannon, fe ddaethon nhw i'r brig mewn cystadleuaeth gyda chystadleuwyr o bob cwr o'r DU i ennill y wobr fawreddog yng nghynhadledd y British Ring Magic IBM. Enillodd Dean hefyd Dlws Rovi am hud agos gyda chardiau.

Astudiodd Dean, o Landudno, a Kazia, o Ddolgarrog, y Celfyddydau Perfformio ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos o 2014 i 2016.

Daeth y ddau yn ôl at ei gilydd ar ôl bod yn y brifysgol gan ddatblygu eu sioe hud a lledrith. Maent wedi ddychwelyd i'r DU yn ddiweddar ar ôl treulio tymor yn perfformio yn House of Illusion byd-enwog Sbaen.

Yn gynharach y mis hwn fe wnaethon nhw hefyd ymddangos ar lwyfan y West End yn Llundain am y tro cyntaf, gyda mwy o sioeau wedi'u trefnu yn dilyn eu cydnabyddiaeth ddiweddar.

“Mae’n wobr fawreddog iawn,” meddai Kazia pan ddaeth yn ôl i’r coleg i gynnal dosbarth meistr sgiliau syrcas i fyfyrwyr presennol.

“Rydyn ni wedi gweithio’n galed iawn amdano. Fe wnaethon ni gystadlu ochr yn ochr â llawer o gonsuriwyr eraill a chawsom farciau ar bethau fel cyflwyniad, sgil a pherfformiad. Felly, mae dod yn gyntaf yn gamp a hanner.

“Mae wedi agor drysau i ni, gan gynnwys yn y West End. Mae ennill y wobr hon wedi bod yn hwb wych i’n gyrfa ac mae ar fin ein galluogi i fynd yn hyd yn oed pellach. Mae wedi bod yn wirioneddol bwysig.”

Mae Kazia wedi perfformio yn y Blackpool Tower Circus ac mewn nifer o gynyrchiadau theatr, tra bod Dean wedi gweithio fel actor ar y teledu ac mewn ffilmiau a hysbysebion, yn ogystal â mewn pantomeim.

Dechreuon nhw berfformio fel consurwyr yn y Magic Bar Live yn Llandudno, gan yna symud ymlaen i berfformio mewn lleoliadau ledled y wlad.

Ond cafodd y ddau eu hysbrydoli'n gyntaf pan oeddent yn astudio Celfyddydau Perfformio Lefel 3 gyda'n gilydd yng Ngholeg Llandrillo.

“Mae yna lawer o elfennau comedi rhyngof fi a Dean,” meddai Kazia. “Mwynhau ein hunain ydyn ni yn y bôn, fel roedden ni'n ei wneud pan oedden ni yma (yn y coleg).

“Rydyn ni'n cael llawer o hwyl gyda'n gilydd - yn enwedig wrth fyrfyfyrio a gwneud llawer o bethau gwahanol. Mae’r 10 neu 12 mlynedd diwethaf wedi ein harwain i'r West End. Fe wnaethon ni ddechrau rhywbeth yma a'i ddatblygu'n fwy ac yn fwy.”

Mae Kazia yn credu bod y set eang sgiliau a ddatblygodd yn y coleg wedi bod yn sylfaen berffaith ar gyfer ei gyrfa yn y celfyddydau perfformio.

“Mi ddysgodd gymaint o elfennau gwahanol i mi yn ychwanegol i ganu, dawnsio ac actio arferol,” ychwanegodd.

“Gwnaeth y coleg fy ngwthio i wneud yn siŵr bod gen i set o sgiliau ychwanegol. Maen nhw'n pwysleisio pwysigrwydd dysgu am yr ochr dechnegol - goleuo, sain, rheoli llwyfan. Dyna wnaeth fy nenu i ddod yma, oherwydd doeddwn i ddim eisiau cael fy nghyfyngu.

“Mae’r cyfleusterau’n dda iawn - mae stiwdio mawr gwych sy’n gallu cael ei ddefnyddio fel theatr hefyd, fel y gallwch chi wneud llawer o theatr, rhoi cynnig arni o flaen cynulleidfaoedd a gweld beth sy’n gweithio.

“Roedden ni hefyd yn ffodus iawn bod ganddyn nhw ofod ymarfer mawr, er mwyn adeiladu propiau, creu popeth a rhoi set at ei gilydd. Fel y gallwch weld sut mae'r pethau hyn yn dod at ei gilydd a gweld os ydych chi ar y trywydd cywir.

“Ac wrth gwrs mae’r darlithwyr yn galonogol iawn. Hyd yn oed 10, 12 mlynedd yn ddiweddarach, maen nhw'n dal yn galonogol iawn, ac eisiau ein cefnogi os oes angen unrhyw beth arnom ni.”

Ychwanegodd Kazia mai’r rhinwedd bwysicaf a ddatblygodd yn y coleg oedd hyder: “Os siaradwch chi ag unrhyw un o’r darlithwyr oedd yma pan ddechreuais i, roeddwn i'n ddistaw ac yn swil dros ben. ⁠

“Ond erbyn diwedd fy ail mlwyddyn, roeddwn i’n hyderus iawn, iawn. Fe wnes i ddysgu cymaint o sgiliau gwahanol yn ystod fy amser yma, ond y peth pwysicaf a ddysgais oedd hyder."

Cyngor Kazia i fyfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol yw “gwnewch y mwyaf o’r coleg”, gan ychwanegu: “Bachwch ar bob cyfle sy’n dod, oherwydd does wybod pa gyfle fydd yn eich galluogi i fynd ymhellach ac yn rhoi hyd yn oed mwy o gyfleoedd i chi.”

Mae cyrsiau Celfyddydau Perfformio Grŵp Llandrillo Menai yn meithrin sgiliau amrywiol, gan gynnwys actio, cyfarwyddo, ysgrifennu sgriptiau, perfformio corfforol a pharatoi ar gyfer clyweliadau. Dysgwch ragor yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date