Ffilmiau myfyrwyr yn cael dangosiad cyntaf arbennig
Yn dilyn dangosiad arbennig ar gampws Bangor bydd Pants ac Esblygiad, dwy ffilm a gynhyrchwyd gan ddysgwyr Coleg Menai fel rhan o It’s My Shout 2025, yn cael eu dangos ar y BBC ac S4C
Cafodd ffilmiau’r myfyrwyr o Goleg Menai eu dangos am y tro cyntaf mewn digwyddiad arbennig ar gampws Bangor, cyn cael eu dangos ar y BBC ac S4C.
Roedd y carped coch allan ym Mharc Menai ar gyfer It’s My Shout 2025 a dangosiad wyth drama unigryw oedd wedi cael eu cynhyrchu gan bobl ifanc dalentog o bob cwr o Gymru.
Cwmni cynhyrchu annibynnol sy'n darparu hyfforddiant i bobl yng Nghymru sy'n awyddus i gael profiad o'r diwydiant ffilmiau yw It's My Shout.
Bob blwyddyn mae'n cynhyrchu dramâu byr i BBC Cymru Wales ac S4C, gan gynnig cyfleoedd i ysgrifenwyr a chyfarwyddwyr newydd, ac i bobl ifanc sydd â'u bryd ar weithio yn y diwydiant.
Mae Coleg Menai wedi gweithio gydag It’s My Shout ers dros ddegawd, gyda'r myfyrwyr yn creu un ffilm Gymraeg ac un ffilm Saesneg.
Myfyrwyr y Celfyddydau Perfformio sy'n serennu yn y ffilmiau, tra bod dysgwyr y Cyfryngau Creadigol a Chelf a Dylunio yn gyfrifol am y ffilmio, dylunio'r setiau, y coluro a'r dyletswyddau tu ôl i'r llenni eraill.
Cafodd criw eleni weld eu ffilmiau gorffenedig Pants ac Esblygiad am y tro cyntaf nos Fercher.
Mae Pants, a gyfarwyddwyd gan Elin Gwyn ac a ysgrifennwyd gan Neil Williams yn ffilm arswyd ddoniol sy'n chwarae ar amser wrth i ferch ifanc yn ei harddegau deithio'n ôl i atal ei ffrind gorau rhag cael ei llofruddio mewn parti.
Lluniau: Wisdom Okeyan a Jac Birch
Ysgrifennydd a chynhyrchydd ar ei liwt ei hun yw Elin sydd wedi gweithio'n rheolaidd ar Pobol y Cwm, Rownd a Rownd a Deian a Loli, ond dyma'r tro cyntaf iddi gyfarwyddo ffilm.
Dywedodd Elin: “Roedd myfyrwyr Coleg Menai'n arbennig – yn gwbl broffesiynol ac yn llawn brwdfrydedd ac ymroddiad drwy gydol y gwaith ffilmio. Mi wnaethon nhw ymroi'n llwyr i bob rhan o'r broses. Gobeithio iddyn nhw fwynhau'r profiad gymaint â fi, oherwydd roedd hi'n wirioneddol wych eu gweld nhw'n gweithio gyda'r fath egni a diddordeb.
“Mae It’s My Shout yn gwneud cyfraniad anhygoel wrth helpu pobl i gael cyfleoedd yn y diwydiant ffilmiau. I mi, roedd yn gyfle gwych i roi cynnig ar gyfarwyddo am y tro cyntaf, a chael gwneud hynny gyda thîm a chriw cynhyrchu hynod gefnogol.
“Mae myfyrwyr Coleg Menai'n lwcus iawn oherwydd doedd yna ddim cyfleoedd fel hyn i'w cael pan oeddwn i'n dechrau arni!”
Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd Esblygiad gan Hedydd Ioan a ddechreuodd ei yrfa yn y theatr yn 2019 pan gafodd brentisiaeth mewn Sain, Goleuo a Llwyfannu drwy Grŵp Llandrillo a Chwmni'r Frân Wen.
Yn y ffilm mae disgybl chweched dosbarth yn wynebu dewis anodd am ei dyfodol pan gaiff lythyr rhyfedd yn ei gwahodd i barti.
Lluniau: Wisdom Okeyan a Kyle Owen
Dyma'r ail dro i Hedydd weithio gydag It’s My Shout, ar ôl iddo gynhyrchu dwy o ffilmiau Coleg Menai'r llynedd.
Dywedodd: “Dw i wrth fy modd yn ffilmio, ysgrifennu a chyfarwyddo, felly mae cael gwneud hynny'n lleol ac yn y Gymraeg gydag It’s My Shout a Choleg Menai yn gyfle perffaith i mi.
“Dyma'r tro cyntaf i rai o'r myfyrwyr berfformio ar y teledu neu mewn ffilm, ac mi wnaethon nhw fwynhau'r profiad yn fawr. Felly hefyd y myfyrwyr oedd yn gweithio'r tu ôl i'r camera – yr hyfforddeion sain, myfyrwyr yr adran gelf – roedd pawb yn llawn brwdfrydedd ac yn gweithio'n galed. Roedd yr holl beth yn wych.
“Dw i'n wirioneddol hapus efo'r hyn rydyn ni wedi'i gynhyrchu. Rydyn ni wedi bod yn gweithio ar y ffilm yn yr ystafell olygu a rŵan mae'r rhan gyffrous yn digwydd – sef ei dangos hi i'r myfyrwyr a'i rhannu hi efo'r byd mawr y tu allan.”
Dywedodd Lisa Jones, Arweinydd Rhaglen y cwrs Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio: “Rydyn ni'n ddiolchgar iawn am y bartneriaeth gydag It’s My Shout ac am y profiadau gwerthfawr mae'n ei rhoi i'n myfyrwyr ni bob blwyddyn.”
Dywedodd Roger Burnell, sefydlydd a chyfarwyddwr creadigol It's My Shout: “Rydyn ni'n falch o'n partneriaeth hir a hynod lwyddiannus â Choleg Menai.
“Mae'r ffilmiau rydyn ni'n eu gwneud gyda Choleg Menai i BBC Cymru ac S4C yn adlewyrchu safon y dalent yn y coleg a'r creadigrwydd sydd ar gael yng ngogledd Cymru. Mae It's My Shout a'r darlledwyr yn awyddus i barhau i ddatblygu'r berthynas yn y dyfodol.”
Mae cyrsiau Celfyddydau Perfformio Grŵp Llandrillo Menai yn meithrin sgiliau amrywiol, gan gynnwys actio, cyfarwyddo, ysgrifennu sgriptiau, perfformio corfforol a pharatoi ar gyfer clyweliadau. Dysgwch ragor yma.