Elizabeth a Grace ar y serennu ar lwyfan cynhadledd genedlaethol
Sgwrsiodd y prentisiaid RWE, sy'n hyfforddi yng Ngholeg Llandrillo, â phanel o arbenigwyr yn y diwydiant ar lwyfan yn ystod cynhadledd 'Dyfodol Ynni Cymru 2025' yng Nghasnewydd
Rhoddwyd lle amlwg i ddau o brentisiaid tyrbinau gwynt RWE Coleg Llandrillo yn ystod cynhadledd 'Dyfodol Ynni Cymru 2025'.
Mae Grace Dennehy ac Elizabeth Sharpe ymhlith carfan o brentisiaid o bob cwr o'r DU sy'n astudio yng nghyfleuster hyfforddi tyrbinau gwynt RWE ar gampws y coleg yn y Rhyl.
Fe'u gwahoddwyd i siarad am brentisiaethau yng nghynhadledd 'Dyfodol Ynni Cymru', a drefnwyd gan RenewableUK Cymru ac a gynhaliwyd yng nghanolfan ICC Cymru yng Nghasnewydd.
Y siaradwyr gwadd oedd y Prif Weinidog Eluned Morgan a Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio. Cyflwynodd y ddwy araith rymus ar bwysigrwydd prosiectau ynni glân a gwyrdd yng Nghymru, i Gymru, a gan weithlu Cymreig.
Ymunodd panel o arbenigwyr addysg y diwydiant, Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru â Grace ac Elizabeth ar y llwyfan yng Nghasnewydd, i drafod sut mae prentisiaethau a sgiliau yn chwarae rhan hanfodol wrth greu Cymru werdd a llewyrchus.
Teitl y sesiwn oedd, ‘What do we want? Jobs! When do we want them? Now!' ac roedd yn gyfle i Grace ac Elizabeth siarad am eu taith i ddod yn brentisiaid tyrbinau gwynt, a sut roedd y sector addysg bellach wedi agor eu llygaid i'r angen am sgiliau arbenigol trwy brentisiaethau.
Dywedodd Grace: “Mae cynhadledd 'Dyfodol Ynni Cymru' wedi bod yn uchafbwynt i mi eleni. Roedd yn gyfle anhygoel i siarad â chwmnïau eraill sy'n gweithio yn y sector ynni adnewyddadwy a gweld sut rydyn ni i gyd yn gwneud ein rhan mewn gwahanol ffyrdd i helpu'r amgylchedd.
“Roedd cael y cyfle i siarad a rhannu ein profiadau am brentisiaethau a chyfleoedd gyrfa yn wych, dw i wrth fy modd yn clywed gan bobl iau sy’n dechrau yn y maes. Roedd yn gyfle gwych i rwydweithio a dysgu mwy am feysydd gwahanol ym maes ynni adnewyddadwy.”
Meddai Elizabeth: “Roedd mynychu'r gynhadledd yn brofiad gwych, mi ges i gyfle i rwydweithio a meithrin hyder o fewn meysydd proffesiynol.
“Dw i ddim yn hyderus wrth siarad yn gyhoeddus a dweud y gwir, hyd yn oed o flaen fy nosbarth! Ond roedd y gynhadledd yn slic iawn ac mi wnes i synnu fy hun gyda pha mor hyderus roeddwn i'n gallu ateb y cwestiynau a osodwyd.”
James Lord oedd yn cadeirio'r drafodaeth ar y llwyfan rheolwr sgiliau a gwerth cymdeithasol RenewablesUK. Gofynnodd gwestiwn heriol iawn i'r ddau brentis: 'Beth ddylai'r panel o arbenigwyr ei wneud i sicrhau bod pobl ifanc yn sylweddoli faint o gyfleoedd gwych sydd ar gael yn y sector ynni adnewyddadwy?'
Atebodd Grace ac Elizabeth ar unwaith fod angen codi proffil prentisiaethau, gan ddechrau drwy rannu cyngor ag ysgolion, disgyblion a rhieni. Hefyd, awgrymodd y ddwy bod gan y cyfryngau cymdeithasol ran fawr i'w chwarae wrth godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o'r cyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael.
Dywedodd Damian Woodford, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Llandrillo: “Atebodd Grace ac Elizabeth gwestiynau gyda hyder ac enillon nhw barch y gynulleidfa a’r panel ar unwaith. Dangosodd y ddwy eu brwdfrydedd a'u hangerdd yn ystod trafodaethau, rhywbeth sy'n nodweddiadol iawn yn ein prentisiaid RWE.
“Dysgodd y bobl ifanc oedd yn gwrando ar hanes eu llwybrau at ddod yn brentisiaid tyrbinau gwynt sut y gall pobl ifanc o gefndiroedd gwahanol, sy'n meddu ar y penderfyniad a’r ddawn i ddysgu sgiliau galwedigaethol newydd, fod yn llwyddiannus yn y sector ynni adnewyddadwy.
“Dylai Grace ac Elizabeth fod yn falch o’u cyfraniad i’r gynhadledd, a deall pa mor werthfawr oedd eu mewnbwn fel pobl ifanc sy’n dechrau ar lwybr gyrfa pwysig iawn. Maen nhw'n llysgenhadon gwych i Grŵp Llandrillo Menai a RWE."
Dywedodd Luke Skeffington, Arbenigwr Hyfforddiant Alltraeth RWE: “Mae Grace ac Elizabeth yn enghreifftiau gwych i bobl ifanc sydd eisiau chwarae eu rhan yn nhaith ynni adnewyddadwy Cymru a’r DU.
"Mae ynni adnewyddadwy yn sector sy'n tyfu'n gyflym, gyda rhagolygon y bydd degau o filoedd o swyddi'n cael eu creu yn y blynyddoedd i ddod. Wrth i'r sector dyfu, mae Grace, Elizabeth a'u cydweithwyr mewn sefyllfa dda i adeiladu gyrfaoedd cynaliadwy.”