Hugo yn ennill Gwobr Arlwyo flynyddol Clwb Rotari y Rhyl
Dewiswyd y myfyriwr o Goleg Llandrillo a'r cogydd uchelgeisiol ar gyfer yr anrhydedd diolch i'w ymroddiad i ddysgu a'i frwdfrydedd dros ei grefft
Mae'r myfyriwr o Goleg Llandrillo, Hugo Loh, wedi ennill Gwobr Arlwyo flynyddol Clwb Rotari y Rhyl ar gyfer 2025.
Mae'r clwb wedi noddi gwobr i'r myfyriwr lletygarwch mwyaf eithriadol o ardal y Rhyl ers dros 30 mlynedd, gyda'r enillydd yn cael ei enwebu gan ddarlithwyr yn y coleg.
Ar ôl cael ei ddewis fel enillydd eleni, cyflwynwyd y tlws i Hugo, ynghyd â gwobr o £150 a roddwyd gan y Clwb Rotari, yn ystod cinio gwobrwyo yng Nghlwb Golff y Rhyl.
Mae Hugo yn ei ail flwyddyn ar Gwrs Diploma Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.
Yn ogystal â choginio bwyd cain i westeion ym mwyty Orme View y coleg, mae hefyd yn gweithio yn y siop tecawê Tsieineaidd Hei Hei yn y Rhyl, ac mae ei fryd ar agor ei fwyty ei hun.
Ar ôl cael ei gyflwyno â'i wobr, dywedodd Hugo: “Ro'n i’n synnu, ond yn hapus, fy mod i wedi ennill. Mi aethon ni i'r Clwb Golff, a chael cinio dau gwrs, ac mi roddodd Mike Garner (darlithydd lletygarwch) araith amdanaf i. Roedd o'n ddiwrnod braf.”
Arbenigedd Hugo yw bwyd Asiaidd, er ei fod yn gobeithio cyfuno dylanwadau o'i gwrs coleg i greu ei arddull unigryw ei hun.
“Mae’r cwrs yn anhygoel,” meddai. “Dw i eisiau bod yn gogydd ac agor fy mwyty fy hun rhyw ddydd. Dw i'n coginio o hyd, gartref, ac yn y gwaith. Dw i wedi bod yn hoff o fwyd Asiaidd erioed, yn enwedig bwyd Tsieineaidd. Mae'r diddordeb yn deillio o fy rhieni, felly dyna dw i wedi'i wneud erioed. Yn y coleg maen nhw'n dysgu bwydydd Ffrengig felly mi hoffwn i wneud cymysgedd o'r ddau.”
Dywedodd y darlithydd lletygarwch, Mike Garner: “Enwebwyd Hugo ar ôl llawer o drafodaeth gan y tîm addysgu lletygarwch, cafodd ei ddewis o blith cystadleuaeth gref.
“Chwaraeodd ei ymroddiad i ddysgu, a’i barodrwydd i dreulio amser yn ymchwilio i’r seigiau y bydd yn rhaid iddo eu cynhyrchu yn y bwyty a’r gegin ymarfer, ran yn y penderfyniad yn bendant.
“Mae parodrwydd Hugo i helpu ei gyfoedion a gwneud pa bynnag waith sydd ei angen, ochr yn ochr â’i frwdfrydedd dros fod yn y gegin, wedi cyfrannu at ennill y bleidlais o’i blaid hefyd.
“Mae Hugo yn gogydd ifanc talentog sydd â brwdfrydedd dros ddysgu ei grefft. Bydd yn mynd yn bell. Rydyn ni'n edrych ymlaen at flasu seigiau yn ei fwyty ei hun ymhen ychydig flynyddoedd.”
Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant lletygarwch? Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig amrywiaeth o gyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel Gradd, yn ogystal â phrentisiaethau, cyrsiau NVQ a hyfforddiant penodol i weithwyr. Dysgwch ragor yma.