Lewis a Kenan yn ennill gwobrau rhifedd cenedlaethol
Cafodd dysgwyr Grŵp Llandrillo Menai eu cydnabod gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru am wella eu sgiliau rhifedd
Mae myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai, Lewis Cahill a Kenan Davies-Zorlu, wedi ennill gwobrau cenedlaethol am ddatblygu eu sgiliau mathemateg.
Mae Lewis, o Abergele, a Kenan, o Gaergybi, ill dau wedi derbyn Gwobrau Gwella Llythrennedd Ariannol gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru (WLCOW).
Mae'r ddau yn astudio Peirianneg Lefel 3, gyda Lewis yn mynychu Coleg Llandrillo yn y Rhyl, tra bod Kenan yng Ngholeg Menai yn Llangefni.
Enillodd Lewis £500 gan WLCOW i'w helpu gyda'i astudiaethau ar ôl iddo gael gradd C mewn TGAU Mathemateg yr haf hwn.
Tra roedd yn astudio Peirianneg Lefel 2 y llynedd, bu’n gweithio gyda’r tiwtor sgiliau Cheryl Stewart ar wella ei sgiliau rhifedd – gan ennill y radd angenrheidiol i symud ymlaen i’r cwrs Lefel 3.
Dywedodd ar ôl ennill gwobr WLCOW: “Dw i'n falch iawn bod fy nhiwtoriaid wedi credu ynof i i wneud yn dda ar y cwrs. Roedden nhw'n andros o help ac yn dda am esbonio popeth.
“Dw i'n edrych ymlaen at gwblhau fy nghwrs Lefel 3 y flwyddyn nesa', ac ar ôl hynny dw i'n gobeithio ymuno â’r RAF neu ddod o hyd i swydd neu brentisiaeth ym maes peirianneg.”
Dywedodd ei diwtor, Cheryl: “Mae Lewis wedi gwneud llawer o gynnydd. Mae o wedi dyfal barhau a chredu yn ei hun, a phan ddaeth y canlyniadau mi gafodd radd C. Wnaeth o ddim rhoi'r gorau iddi pan fod pethau'n anodd, a bellach mae o'n hedfan.
“Mae clywed ei fod wedi ennill y wobr yn gwneud fy niwrnod. Ro'n i wrth fy modd yn gwybod bod y pwyllgor wedi cydnabod cyflawniadau a brwydrau rhywun, a dw i'n siŵr y bydd hynny o gymorth mawr iddo yn ei astudiaethau o hyn ymlaen.”
Llwyddodd Kenan hefyd i symud ymlaen i'r cwrs Lefel 3 ar ôl datblygu ei allu mathemateg tra roedd yn astudio Lefel 2.
Dyfarnwyd £100 iddo gan WLCOW ar ôl iddo gyflawni Cymhwyso Rhif Lefel 2 ar ei ymgais gyntaf dan arweiniad y tiwtor sgiliau Dafydd Alun Roberts, ar ôl pasio Cymhwyso Rhif Lefel 1 y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Kenan: “Dw i’n hoffi mathemateg beth bynnag ond mae gwella fy sgiliau wedi fy helpu ar fy nghwrs. Roedd y gefnogaeth gan fy nhiwtor yn wych - fe helpodd fi i ddysgu pethau do'n i ddim wedi gallu eu gwneud o'r blaen.”
Dywedodd Dafydd: “Mae wedi bod yn bleser mawr addysgu Kenan dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae'n awyddus i ddysgu ac mae wedi gwneud cynnydd da iawn yn ei sgiliau rhifedd yn y coleg, tra hefyd yn datblygu ei wybodaeth academaidd a'i annibyniaeth. Mae'n bleser ei ddysgu, mae'n fy nghadw ar flaenau fy nhraed yn gyson gyda chwestiynau perthnasol a heriol yn y ddosbarth.
“Dw i'n llongyfarch Kenan am ei holl waith caled wrth ennill y wobr hon, a dw i'n siŵr y bydd yn cyflawni ei uchelgais o gymhwyso fel peiriannydd yn y dyfodol agos.”
Mae WLCOW wedi ymrwymo i helpu pobl ifanc ledled Cymru i ddatblygu eu doniau a'u sgiliau drwy ei raglen wobrwyo flynyddol o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i fyfyrwyr mewn ysgolion, prifysgolion a cholegau technegol, yn ogystal ag i brentisiaid a phobl ifanc yn y lluoedd arfog.
Cafodd ei sefydlu yn 1993 fel Urdd Lifrai Cymru, i hyrwyddo addysg, y celfyddydau, gwyddoniaeth a thechnoleg yng Nghymru. Yn 2013 cyflwynwyd Siarter Frenhinol i’r Urdd ac fe’i hailenwyd yn Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru.