Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Llandrillo a Betsi Cadwaladr yn dathlu dysgwyr Ymarfer Gofal Iechyd 2025

Cynhaliwyd digwyddiad yn Venue Cymru yn ddiweddar i ddathlu cyflawniadau academaidd dros 50 o weithwyr cymorth gofal iechyd sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cynhaliodd Coleg Llandrillo a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ddigwyddiad i ddathlu dysgwyr Addysg Uwch Ymarfer Gofal Iechyd 2025 ddydd Gwener (24 Hydref).

Roedd y digwyddiad yn Venue Cymru yn nodi cyflawniadau academaidd mwy na 50 o weithwyr cymorth gofal iechyd sydd wedi cwblhau'r ⁠Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Gofal Iechyd.

Mae’r rhaglen yn deillio o bartneriaeth strategol gryf ac ymroddedig rhwng Coleg Llandrillo, Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor ac mae wedi’i chomisiynu a’i chefnogi gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

Mae'r rhaglen yn datblygu gwybodaeth a sgiliau'r dysgwyr i lefel uwch, gan alluogi Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd cyflogedig i gyflawni dyletswyddau lefel uwch yn eu swyddi a'u grymuso i wneud cais am ystod ehangach o rolau sy'n ymestyn eu cyfrifoldebau.

Mae llawer o bobl yn dilyn gyrfa yn y byd nyrsio, ac mae'r rhaglen yn rhoi'r potensial iddynt symud ymlaen yn uniongyrchol i ail flwyddyn y radd Baglor mewn Nyrsio (BN) ym mhob sefydliad addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt.

Ymhlith y siaradwyr yn nigwyddiad Venue Cymru oedd:

  • Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo
  • Mandy Jones, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio BIPBC
  • Martin Riley, Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg, Comisiynu ac Ansawdd ar gyfer AaGIC
  • Hayley Lloyd, Arweinydd Rhaglen Ymarfer Gofal Iechyd Coleg Llandrillo
  • Myfyrwyr Addysg Uwch Ymarfer Gofal Iechyd, Eugene Saunders a Tanya Symons

Dywedodd Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo: "Rwy'n hynod falch o'r rhaglen. Mae cyfradd llwyddiant o 93%, unwaith eto, yn gyflawniad rhagorol sy'n adlewyrchu ymroddiad ein staff academaidd a staff cymorth, ymrwymiad ein myfyrwyr, a chryfder arweinyddiaeth gydweithredol.

“Mae cyflawniadau’r garfan hon, gyda llawer yn symud ymlaen o rolau galwedigaethol i gymwysterau addysg uwch, wedi dangos penderfyniad rhyfeddol. Mae arweiniad hanfodol mentoriaid yn y gweithle, a chefnogaeth ein partneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru wrth wraidd eu llwyddiant.

“Gyda’n gilydd rydym yn meithrin sgiliau a hyder o lefel uwch er mwyn rhagori, gan godi ansawdd gofal a chreu llwybrau clir a chynaliadwy ar gyfer dilyniant yn y dyfodol a dyheadau gyrfa.

“Mae’r cyflawniad rhagorol hwn yn amlygu pŵer cydweithio ac effaith drawsnewidiol dysgu gydol oes.

Meddai Martin Riley: “Roedd yn ysbrydoledig gweld y dysgwyr yn graddio a chlywed hanesion eu siwrne addysg.

“Mae’r unigolion hyn wedi’u gwreiddio yn y gymuned leol ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn y gwasanaethau y maent yn gweithio ynddynt. Maent yn llawn cymhelliant, yn arloesol ac yn gwella gofal diogel ac o safon i gleifion. Mae AaGIC yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai a BIPBC i gynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddatblygu ein gweithlu o Weithwyr Cymorth Iechyd gwerthfawr.”

Mae rhaglen Ymarfer Gofal Iechyd Lefel 4 wedi tyfu'n sylweddol ers 2013, pan ddechreuodd gydag un garfan o wyth myfyriwr. Mae AaGIC bellach yn comisiynu Coleg Llandrillo i gyflwyno'r rhaglen i fwy na 180 o weithwyr cymorth gofal iechyd ar draws gofal iechyd, gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru a ledled Cymru gyfan drwy ddysgu o bell.

Mae'r dysgwyr yn mynychu campws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos am ddiwrnod yr wythnos am gyfnod o flwyddyn wrth weithio ar yr un pryd. Mae’r cwrs dwys yn cyfuno profiad seiliedig ar waith ac astudiaeth lefel uwch, sy’n cynnwys asesiad academaidd yn y coleg ac asesiad o fewn y gweithle gan staff GIG sydd â chymwysterau clinigol.

Roedd ymgeiswyr llwyddiannus rhaglen eleni yn llawn canmoliaeth, gyda Keyley Davies yn dweud: “Mae’r cwrs hwn yn trawsnewid hunan-amheuaeth yn hunan-gred. Mae tiwtoriaid yn feithringar ac wedi ymrwymo'n ddwfn i ddatblygu ymarferwyr proffesiynol.

“Mae ymdeimlad cryf o gymuned yn ffurfio ymhlith myfyrwyr a staff, gan greu amgylchedd cefnogol, tebyg i deulu. Mae'n gwrs gwych i'ch paratoi ar gyfer eich camau nesaf yn eich gyrfa yn y maes gofal iechyd.”

Dywedodd Elaine Thomson: “Mae cwblhau'r rhaglen Lefel 4 mewn Ymarfer Gofal Iechyd wedi bod yn daith a chyflawniad mawr i mi. Ar y dechrau, roedd yn ymddangos fel her academaidd galed, ond sylwais y gallwn gyflawni fy nod, a does dim teimlad mwy anhygoel na hynny.”

Meddai Carmen Griffiths: “Ymarfer Gofal Iechyd Lefel 4 wedi’i gwblhau! Rydw i'n ddiolchgar am y daith, yn falch o'r cynnydd rydw i wedi'i wneud, ac yn barod i wneud gwahaniaeth. Rydw i wedi dysgu cymaint, ac mae wedi rhoi’r hyder i mi gymryd cam mawr tuag at ddyfodol cyffrous!”

Dywedodd Melanie Aspinall: “Nid dim ond dysgu sgiliau i mi wnaeth y cwrs hwn, rhoddodd hyder i mi yn yr hyn y gallaf ei wneud nesaf.”

Roedd y rhai oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn cynnwys ymgeiswyr llwyddiannus eleni, eu gwesteion a'u mentoriaid yn y gweithle, uwch gynrychiolwyr o BIPBC, Llywodraeth Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, cydweithwyr o Brifysgol Bangor a Wrecsam, a staff y Coleg sy'n gysylltiedig â'r rhaglen.

Cafodd derbynwyr y gwobrau gyfle i fwynhau rhwydweithio a chinio bwffe blasus wedi’i weini gan staff Venue Cymru hefyd.

Grŵp Llandrillo Menai sy'n cynnig yr amrywiaeth fwyaf eang o gyrsiau addysg bellach ac uwch yng ngogledd Cymru. Dysgwch ragor am ein cyrsiau ⁠yma.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date