Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Yuliia ac Evan yn dathlu llwyddiant EuroSkills yn y Senedd yn Llundain

Gwahodd myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai i San Steffan ar ôl cystadlu gyda Team UK yng nghystadleuaeth sgiliau fwyaf mawreddog Ewrop yn Nenmarc

Yn ddiweddar, cafodd Yuliia Batrak ac Evan Klimaszewski, myfyrwyr o Grŵp Llandrillo Menai gyfle i ymweld â'r Senedd yn Llundain i ddathlu llwyddiant Team UK yn EuroSkills 2025.

Dewiswyd Yuliia ac Evan ill dau gan WorldSkills UK i gymryd rhan yn EuroSkills - cystadleuaeth sgiliau fwyaf mawreddog Ewrop - yn Herning, Denmarc ym mis Medi.

Enillodd Yuliia, dysgwr o Goleg Llandrillo, Fedal am Ragoriaeth yn y gystadleuaeth Gwasanaeth Bwytai - a ddyfarnwyd am berfformiadau rhagorol uwchlaw'r meincnod rhyngwladol.

Yuliia gyda'r AS, Gill German

Mae'r ferch 19 oed o Fae Colwyn, a symudodd gyda'i theulu o Kyiv yn dilyn goresgyniad Rwsia o Wcráin yn 2022, yn astudio Goruchwylio ym maes Gweini Bwyd a Diod Lefel 3 ar gampws Llandrillo-yn-Rhos.

Gwnaeth Evan, sy'n astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Gyffredinol ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, gystadlu yng nghystadleuaeth Prototeipio Electroneg yn Herning, gan ennill sgôr uwch nag a gafodd mewn unrhyw gystadleuaeth neu dasg hyfforddi flaenorol.

Ynghyd â gweddill Team UK EuroSkills, gwahoddwyd Evan a Yuliia i ddathliad o'u cyflawniadau yn y Senedd yn Llundain.

Hefyd yn bresennol roedd Geraint Rowlands, darlithydd peirianneg yng Ngholeg Menai a rheolwr hyfforddiant electroneg ar gyfer WorldSkills UK, yn ogystal â Mike Garner, darlithydd lletygarwch yng Ngholeg Llandrillo sydd wedi hyfforddi Yuliia ar gyfer nifer o gystadlaethau sgiliau.

Noddwyd y digwyddiad gan Helen Hayes AS, a chafodd ei gynnal gan Shane Chowen, golygydd FE Week. Daeth â chystadleuwyr, rheolwyr hyfforddi, rhieni, cefnogwyr, ASau a gwesteion arbennig ynghyd i gydnabod sgil, ymroddiad a phenderfyniad Team UK.

Dyma oedd ail ymweliad Yuliia â Thŷ'r Cyffredin, ar ôl iddi fynychu derbyniad tebyg ar ôl ennill medal aur yn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills UK 2023.

Meddai: “Roedd y digwyddiad yr wythnos hon gymaint yn fwy gyda holl gystadleuwyr Team UK o'r EuroSkills, a'r holl athrawon, rhieni a chyflogwyr yn mynychu hefyd. Roedd yn fraint bod yno.”

Yn gwmni i Yuliia yn y digwyddiad yn San Steffan roedd ei mam Liudmyla, a gafodd ei chrybwyll mewn un o'r areithiau ar ôl i swyddogion y Llywodraeth gofio ei chefnogaeth ddiysgog i'w merch yn Herning.

Meddai Yuliia: “Roedd fy mam yn gwylio o ddechrau’r gystadleuaeth yn Herning hyd at yr eiliad olaf, gan aros ger y stondin lle’r oeddwn i’n cystadlu. Gwnaeth rhai o'r swyddogion a oedd yn siarad yn y digwyddiad adnabod fy Mam ar ôl ei gweld yno, ac fe wnaethon nhw esiampl ohoni yn eu hareithiau pan oedden nhw'n siarad am gefnogaeth y rhieni a'r athrawon, a oedd yn foment braf.”

Gwnaeth y Gweinidog Sgiliau, Jacqui Smith longyfarch y cystadleuwyr ar eu perfformiadau rhagorol, gan ddweud: “Da iawn i holl gystadleuwyr y DU yn EuroSkills. Mae pob un ohonoch wedi gwneud ein gwlad yn falch, gan arddangos y sgiliau Prydeinig gorau ar draws ystod o grefftau a phroffesiynau.”

Gwnaeth Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK, hefyd ganmol y tîm am eu hymrwymiad a'u gwydnwch, gan ddweud: “Mae’n wych dathlu cyflawniadau Team UK heddiw. Rydym yn hynod falch o'r tîm cyfan a ddangosodd ymrwymiad, penderfyniad a gwydnwch dros dridiau o gystadlu brwd yn EuroSkills Herning.”

Mae Yuliia ac Evan ill dau yng ngharfan hyfforddi'r DU sy'n cystadlu am leoedd yn WorldSkills 2026, 'Gemau Olympaidd Sgiliau' byd-eang. Cynhelir WorldSkills 2026 yn Shanghai, Tsieina o 22 i 27 Medi y flwyddyn nesaf.

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date