Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Agoriad Swyddogol Canolfan Hyfforddi Busnes@LlandrilloMenai ym Mharc Busnes Llanelwy

Mae agoriad swyddogol canolfan hyfforddi newydd Busnes@LlandrilloMenai ym Mharc Busnes Llanelwy yn dynodi pennod newydd gyffrous i ddatblygiad sgiliau, twf busnesau, ac arloesedd yng ngogledd Cymru.

Yn y lansiad heddiw (5 Tachwedd), daeth rhanddeiliaid, cyflogwyr a phartneriaid lleol at ei gilydd i ddathlu agor y ganolfan newydd ac i archwilio'r cyfleoedd amrywiol sydd ar gael yno i fusnesau ac unigolion fel ei gilydd.

Ochr yn ochr â chanolfan bresennol Busnes@LlandrilloMenai ym Mharc Menai, Bangor, bydd y safle newydd yn Llanelwy yn cynnig hyfforddiant pwrpasol, cyfleoedd datblygu proffesiynol, a chymorth i fusnesau i recriwtio, cadw, a gwella sgiliau eu gweithwyr, tra hefyd yn grymuso unigolion i ddatblygu eu gyrfaoedd.

Yn ogystal, bydd busnesau'n gallu elwa ar ddarpariaeth hyfforddi arbenigol ym maes sgiliau gwyrdd, gan gynnwys ynni adnewyddadwy, ôl-osod, effeithlonrwydd ynni, datgarboneiddio ac arloesedd digidol.

Meddai Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol yng Ngrŵp Llandrillo Menai,

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn agor canolfan newydd ym Mharc Busnes Llanelwy. Trwy ehangu fel hyn rydyn ni'n dangos ein hymrwymiad i fodloni'r galw lleol cynyddol am hyfforddiant ac i ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar unigolion i lwyddo yn y farchnad swyddi ddynamig bresennol.

“Mae'r ddarpariaeth sydd ar gael drwy Busnes@LlandrilloMenai i gefnogi busnesau a'u gweithwyr yn helaeth, ac yn cynnwys Prentisiaethau, Cyfrifon Dysgu Personol, a rhaglenni arbenigol fel EGNI a CIST. Bydd ein lleoliad newydd yn cryfhau ein cysylltiadau â chyflogwyr lleol, gan helpu busnesau ac unigolion ledled gogledd Cymru i ddysgu, tyfu a llwyddo.”

Y siaradwr gwadd yn y lansiad oedd Dafydd Hardy, aelod o fwrdd Busnes@LlandrilloMenai a gŵr busnes lleol, a phwysleisiodd fod buddsoddi mewn pobl a sgiliau yn allweddol os am sicrhau twf cynaliadwy.

Meddai Dafydd Hardy,

“Rydyn ni'n falch iawn o gefnogi lansiad Busnes@LlandrilloMenai ym Mharc Busnes Llanelwy. Bydd y ganolfan newydd hon yn chwarae rhan bwysig wrth gryfhau economi'r rhanbarth, gan helpu busnesau i groesawu datblygiadau cynaliadwy ac arfogi unigolion â'r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr yn awr ac yn y dyfodol.”

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date