Mae'r gwaith o godi Canolfan Ragoriaeth newydd ym maes Peirianneg ar gampws Grŵp Llandrillo Menai ar Ffordd Cefndy yn y Rhyl wedi dechrau.
Newyddion Coleg Llandrillo
Mae dau deithiwr brwd ar fin cadw eu pasbortau am y tro wrth iddynt ddechrau gyrfaoedd fel swyddogion yr heddlu, wedi iddynt raddio o'r cwrs gradd BSc cyntaf i'w gynnal mewn Plismona Proffesiynol yng Ngholeg Llandrillo.
Roedd bonllefau, conffeti'n tasgu a sesiwn dynnu lluniau'n wynebu timau o fyfyrwyr a lwyddodd yn ddiweddar i ddod yn rhydd o 'ystafell ddianc' i'r byd go iawn!
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi dyfarnu'r Cytundeb ar gyfer cam nesaf y datblygu strategol ar eu Campws yn Rhyl i gwmni adeiladu o Ogledd Cymru sydd wedi hen ennill ei blwyf sef WYNNE Construction. Bydd y Prosiect mawr cyffredinol £12m yn cynnwys ystod eang o gyfleusterau hyfforddi sydd ar flaen y gad - gan integreiddio peirianneg fecanyddol, trydanol a meddalwedd TG.
Mae dau gogydd ifanc addawol o Goleg Llandrillo wedi ennill eu lle yn rownd derfynol un o gystadlaethau coginio mwyaf y Deyrnas Unedig. Maent gam i ffwrdd o ennill y tlws, amrywiaeth o wobrau sy'n ymwneud â'r maes coginio, a chyfle i gael profiad gwaith gyda'r cogydd enwog, Rick Stein!
Yn ogystal â chipio teitl Dysgwr y Flwyddyn Cymru, mae mam i ddau o Lan Conwy wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth ar lefel y Deyrnas Unedig!
Mae dau aelod o staff a chwe myfyriwr o adran Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Llandrillo yn edrych ymlaen at achlysur cofiadwy, ar ôl cael eu dewis i fynd i Lundain i'r 'Parti Platinwm yn y Palas' ym Mhalas Buckingham i ddathlu 70 mlynedd y Frenhines ar yr orsedd.
Mae 80 o fyfyrwyr o adran Sgiliau Byw'n Annibynnol Coleg Llandrillo wedi bod yn brysur yn trwsio beiciau a roddwyd i'r coleg fel y medran nhw a'u cyd-fyfyrwyr nad oes ganddyn nhw feic gael un a mwynhau beicio!
Derbyniodd rhai o brentisiaid diweddaraf Cymru ym maes technoleg tyrbinau gwynt eu tystysgrifau'n ddiweddar, ar ôl cwblhau'n llwyddiannus flwyddyn gyntaf eu hyfforddiant yn yr unig Ganolfan Hyfforddi ym maes Tyrbinau Gwynt yng Nghymru, sydd wedi'i lleoli ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.
Mae cyn-fyfyrwraig Lefel A o Goleg Llandrillo wedi cael ei swydd ddelfrydol ym maes rheoli cyllid yn y GIG.