Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaethau

Mae Prentisiaethau'n dod yn llwybr mwyfwy poblogaidd at yrfa lwyddiannus. Wrth ddilyn prentisiaeth, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan ennill cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a meithrin sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gwaith. Bydd hyn i gyd yn eich helpu i sefyll allan yn y farchnad swyddi.

P'un a ydych yn berson ifanc 16-19 oed neu'n berson 20 oed neu drosodd, mae’n bosib fod amryw o ddewisiadau, a fydd yn caniatáu i chi ddatblygu'ch gwybodaeth a'ch sgiliau wrth weithio, ar gael i chi.

Beth ydy prentisiaeth?
Mae prentisiaeth yn swydd sy'n cynnwys hyfforddiant a chymwysterau. Rydych chi'n cael cyflog tra rydych chi'n gweithio a dysgu.

Fel prentis byddwch yn cael:

  • Profiad ymarferol: Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol medrus, gan ennill sgiliau a phrofiad ymarferol.
  • Hyfforddiant: Yn dibynnu ar eich prentisiaeth, byddwch yn cwblhau eich hyfforddiant mewn coleg, mewn canolfan hyfforddi, neu ar-lein, ac yn cyfarfod â'ch asesydd yn rheolaidd.
  • ⁠Gwaith Cyflogedig: Mae prentisiaid yn ennill cyflog wrth iddyn nhw ddysgu.
  • Hyd: Mae'n cymryd rhwng 1 a 4 blynedd i gwblhau prentisiaeth, yn dibynnu ar yr alwedigaeth.
  • Tystysgrifau:⁠ Ar ôl cwblhau'r brentisiaeth, byddwch yn cyflawni cymhwyster neu drwydded a gydnabyddir gan y diwydiant — er enghraifft, dod yn drydanwr, plymwr neu gogydd ardystiedig.

Sut mae prentisiaeth yn gweithio?
Mae prentisiaeth yn gweithio trwy gyfuno profiad gwaith â hyfforddiant, gan ganiatáu ichi ennill cyflog wrth ddysgu a hefyd ennill cymhwyster cydnabyddedig.

1. Dod o Hyd i Gyflogwr

Rydych chi'n gwneud cais am brentisiaeth yn union fel y byddech yn gwneud cais am swydd. Os cewch eich derbyn, rydych chi'n dod yn weithiwr i'r cwmni - ond hefyd yn brentis.

2. Ennill Cyflog wrth Ddysgu

  • Rhaid i chi fod wedi'ch cyflogi rhwng 16 a 40 awr yr wythnos
  • Byddwch yn cael eich talu am eich amser yn y gwaith ac am unrhyw amser a dreuliwch yn y coleg neu gyda'ch asesydd.
  • Byddwch yn dysgu sgiliau ymarferol, penodol i'r diwydiant yn y gweithle.

3. Hyfforddiant

Mae prentisiaid yn derbyn hyfforddiant ochr yn ochr â'u swydd. Gall hyn fod yn y gweithle, ar-lein, neu drwy gael eich rhyddhau am ddiwrnod i fynd i un o'n campysau. Mae hyn yn cynnwys gwaith theori, diogelwch a gwybodaeth dechnegol.

4. Cynnydd ac Asesu

  • Byddwch yn cael eich asesu drwy gydol eich prentisiaeth
  • Byddwch yn cwblhau aseiniadau, profion, neu arddangos sgiliau lle bo angen.
  • Bydd eich cynnydd yn cael ei adolygu o leiaf bob wyth wythnos gyda'ch asesydd a'ch cyflogwr.

5. Cwblhau a Chymhwyso

  • Byddwch yn derbyn tystysgrif neu drwydded a gydnabyddir gan gyflogwyr yn eich diwydiant
  • Gallwch weithio fel crefftwr neu weithiwr proffesiynol cymwysedig

Deg rheswm dros fod yn brentis

1. I gael troedle yn y maes yr hoffech chi weithio ynddo
Gyda Phrentisiaeth, cewch hyfforddiant yn y maes yr ydych chi am weithio ynddo. Chewch chi ddim o’ch gwrthod am fod yn ddibrofiad; yn hytrach, byddwch yn datblygu eich gyrfa o’r diwrnod cyntaf un.

2. I roi cynnig ar rywbeth cwbl newydd
Nid dim ond mewn swyddi traddodiadol fel adeiladu a pheirianneg mae Prentisiaethau ar gael. Mae dros 120 o wahanol fathau o swyddi ar gael, felly gallwch roi cynnig ar rywbeth sy’n wastad wedi mynd â’ch bryd neu rywbeth na fyddech erioed wedi meddwl am ei wneud o’r blaen.

3. I gael profiad o’r byd gwaith
Allwch chi ddim deall y byd gwaith go iawn tan y byddwch yn rhan ohono. Gyda Phrentisiaeth byddwch chi’n cael profiad o fod yn berson sy’n gweithio a byddwch yn dysgu sut i fynd ati i reoli eich amser.

4. I gael gweithio gyda gweithwyr profiadol
Bydd eich cydweithwyr yn brofiadol a llwyddiannus yn eu maes a byddwch yn dysgu llawer trwy fod yn neu cwmni.

5. I gael ymuno â’r gweithle fel gweithiwr go iawn sy’n cael gwyliau cyflogedig a dyddiau i astudio
Byddwch yn un o weithwyr cyflogedig y busnes yn ystod eich Brentisiaeth, ac o ganlyniad cewch fwynhau manteision nad ydynt at gael trwy gynlluniau profiad gwaith.

6. I wella eich cyflogadwyedd
Bydd y profiad, y cymwysterau a’r sgiliau y byddwch yn eu cael o Brentisiaeth yn eich gwneud chi’n berson llawer mwy cyflogadwy. Byddwch chi’n teimlo’n fwy hyderus wrth fynd ati i chwilio am waith.

7. I fod yn annibynnol
Trwy ennill arian, a dechrau yn y byd gwaith, byddwch yn dod yn fwy annibynnol a hunangynhaliol.

8. I gael profiad i’w roi ar eich CV
Bydd Prentisiaeth yn edrych yn dda ar eich CV. Mae’n dangos bod gennych chi brofiad, sgiliau priodol a’ch bod yn barod i weithio.

9. I ennill cymwysterau
Yn ogystal â phrofiad, byddwch chi’n ennill cymwysterau cydnabyddedig sy’n cyfateb yn union i anghenion eich cyflogwr. Bydd y cymwysterau’n fanteisiol i’ch gyrfa yn y tymor byr a’r tymor hir.

10. I ennill cyflog
Mae prentisiaid yn cael y lleiafswm cyflog cenedlaethol. Felly, yn ogystal ag ennill sgiliau, profiad a chymwysterau, byddwch chi’n ennill cyflog da hefyd.

Cwestiynau Cyffredin

Oes yna derfyn o ran oedran?
Nac oes — OND – ar raglenni Prentisiaeth, rhoddir blaenoriaeth i bobl ifanc 16–19 oed neu weithwyr sy'n newydd yn y swydd.

Prentisiaethau Adeiladu yng Ngrŵp Llandrillo Menai:

  • Wedi cael cymhwyster ôl-16 Lefel 1 neu Lefel 2 mewn Adeiladu neu'ch bod wedi cael o leiaf flwyddyn o brofiad mewn sgiliau bywyd ar ôl gadael addysg orfodol.
  • Meini prawf mynediad y Brentisiaeth.

Pwy gaiff wneud cais am brentisiaeth?
Gall unrhyw un sydd dros 16 oed, sy'n byw yng Nghymru ac sydd ddim mewn addysg lawn amser, wneud cais

Ble bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal?
Cewch eich rhyddhau i dreulio dyddiau astudio ar un o safleoedd y coleg neu byddwch yn dilyn rhaglen Dysgu Agored/o Bell, os yw'r ddarpariaeth yn y gweithle yn unig..

Sawl awr sy'n rhaid i brentis weithio?
Rhaid i Brentis gael ei gyflogi am o leiaf 16 awr yr wythnos.

Faint mae'r cyflogwr yn ei dalu i'r prentis?
Rhaid i brentis gael yr isafswm cyflog cenedlaethol. I gael gwybod beth yw'r isafswm hwn, ewch i wefan www.direct.gov.uk neu ffoniwch linell gymorth ACAS ar 0300 123 1100..

Pa gymwysterau sy'n gynwysedig?
Bydd hyn yn dibynnu ar y llwybr y mae'r dysgwr yn ei ddilyn, ond mae'r rhan fwyaf o fframweithiau Prentisiaethau'n cynnwys NVQ, Tystysgrif Dechnegol a Sgiliau Hanfodol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'r adran ar lwybrau penodol ar y wefan neu anfonwch neges i’n cyfeiriad ebost cyffredinol.

Faint o amser fydd hi'n ei gymryd i gwblhau'r brentisiaeth?
Mae'n cymryd rhwng 12 a 24 mis i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen, yn dibynnu ar y llwybr a ddilynir. Pan fydd prentis yn cofrestru ar gynllun hyfforddi, caiff wybod erbyn pryd y disgwylir iddo orffen.

Oes raid i sefydliad fod o faint penodol?
O ran dysgwyr sy'n dilyn prentisiaeth, nid oes cyfyngiadau ar faint y sefydliad sy'n cyflogi.

Pa gefnogaeth gaiff cyflogwr?

  • Help i recriwtio prentisiaid
  • Arweiniad yn ystod rhaglen brentisiaeth y dysgwyr
  • Adolygiadau ar Gynnydd y Prentis bob yn ail fis

Sut mae dod o hyd i brentis?
Os nad oes gennych weithiwr sy'n dymuno dilyn cynllun prentisiaeth, gallwch gysylltu â'r Swyddogion Lleoliadau Gwaith yn y Coleg. Yn aml, bydd gennym restr o ddysgwyr sy'n chwilio am gyflogwyr i'w cefnogi ar Brentisiaethau. Mae Gwasanaeth Paru Prentisiaethau hefyd ar gael drwy Gyrfa Cymru – gweler eu gwefan: www.careerswales.com

Person yn adeiladu wal frics

Twf Swyddi Cymru+

Rydym ni yn un o reolwyr asiant ar gyfer Twf Swyddi Cymru+, rhaglen sydd wedi ei ariannu gan Llywodraeth Cymru i greu miloedd o swyddi bob blwyddyn i bobl ifanc trwy Gymru.

Dewch i wybod mwy
Myfyriwr yn defnyddio cyfrifiadur

Prentisiaethau Gradd

Mae prentisiaethau gradd yn cynnig llwybr gwahanol i'r un addysg uwch academaidd arferol. Maent yn cyfuno gwaith llawn amser ag astudio'n rhan-amser.

Dewch i wybod mwy
Pobl yn defnyddio gliniadur

Prentisiaeth Uwch

Drwy ddilyn rhaglen Prentisiaeth Uwch, gallwch weithio tuag at ennill cymhwyster lefel 4 neu 5 seiliedig ar waith ochr yn ochr â chymhwyster uwch, fel Gradd Sylfaen neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC), a fydd yn ehangu'ch gwybodaeth.

Dewch i wybod mwy

Oeddech chi'n gwybod?

Gall prentis ddisgwyl ennill rhwng £77,000 - £117,000 mewn enillion ychwanegol dros oes.

Dywedodd 86% bod eu prentisiaeth yn codi en hunan hyder.