Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cydlynydd Sgiliau'r Coleg yn cyrraedd y nod!

Mae cydlynydd sgiliau Coleg sydd hefyd yn saethydd brwd, wnaeth wireddu breuddwyd oes o fod yn bencampwraig genedlaethol saethyddiaeth, wedi gafael yn ei bwa saeth unwaith eto i helpu Cymru ennill medal arian ym mhencampwriaeth timau'r Deyrnas Unedig yn ddiweddar.

Roedd Rhona Halliday-Noden, y cydlynydd sgiliau hanfodol galwedigaethol ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, yn rhan o dîm Cymru wnaeth hawlio'r ail safle ym Mhencampwriaeth Saethyddiaeth Ewrop y Gymanwlad - a elwid yn 'Euronations' yn flaenorol - a gynhaliwyd gan Gymdeithas Saethyddiaeth yr Alban yn Kilmarnock.

Yn dilyn cyfri'r sgorau yng nghategorïau’r dynion a'r merched dyfarnwyd y fedal arian i Gymru, a gynrychiolwyd gan ei thîm mwyaf erioed. Ymhlith y categorïau roedd rhai'r bwa saeth sylfaenol ('barebow'), cyfunol i ddynion, cyfunol i ferched, bwa saeth atro a bwa saeth atro i ferched.

Mae'r bencampwriaeth yn profi sgiliau'r saethyddion gorau o Gymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Dywedodd Rhona, o Lan Conwy: “Ro'n i wrth fy modd yn cael fy newis fel aelod o dîm Cymru eto. Roedd y tywydd yn berffaith, dim gwynt na heulwen. Cefais fy newis ar gyfer y bencampwriaeth o fri hon ar ôl cyflawni'r tair sgôr uchaf yn 2022 i fod ar y brig i ennill fy lle."

Ganwyd Rhona yn yr Alban cyn symud i Fryste ac yna i Gilgwri ac yna i Ogledd Cymru 14 mlynedd yn ôl.

Cymhwysodd yn fwäwr ('bowman') - y ddynes gyntaf o'i chlwb i wneud hynny.

Roedd Rhona yn 16 oed pan gychwynnodd ar y gamp saethyddiaeth. Dysgodd y grefft yn sydyn iawn a chafodd ei dewis i gynrychioli ei sir ond rhoddodd y gorau iddi yn 20 oed. Ail-gydiodd yn y gamp ychydig dros bedair blynedd yn ôl. Wrth drafod pam y gwnaeth ailafael ynddi, dywedodd: "Pasiodd fy mab ei brawf gyrru. Doedd dim rhaid i mi ei ddanfon o gwmpas y lle, felly roedd gen i amser i ddychwelyd at fy nghariad cyntaf.


Rhai misoedd ar ôl dychwelyd at y gamp cyhoeddodd Cymdeithas Saethyddiaeth Cymru bod Rhona wedi cael ei dewis i dîm oedolion Cymru i gymryd rhan yng nghystadleuaeth Euronations yn Swydd Nottingham. Yn ystod y flwyddyn honno, gosododd wyth record Cymdeithas Saethyddiaeth Gogledd Cymru a deg record Cymdeithas Saethyddiaeth Cymru, yn ogystal ag ennill medal efydd ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymru.

Yn 2020 enillodd Rhona deitl Pencampwraig Cenedlaethol Cymru yng nghystadleuaeth dan do cenedlaethol Cymru yng nghanolfan Chwaraeon Cymru, Gerddi Soffia, Caerdydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a gynigir ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl ewch i: www.gllm.ac.uk neu, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk