Y Gwaith Adeiladu'n Dechrau ar Ganolfan Beirianneg gwerth £12m ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl
Mae'r gwaith o godi Canolfan Ragoriaeth newydd ym maes Peirianneg ar gampws Grŵp Llandrillo Menai ar Ffordd Cefndy yn y Rhyl wedi dechrau.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Grŵp Llandrillo Menai, bydd y prosiect £12 miliwn yn darparu cyfleoedd i bobl yr ardal feithrin y sgiliau angenrheidiol i gael gyrfaoedd llwyddiannus yn y sector peirianneg.
Daeth aelodau o uwch dîm rheoli a llywodraethwyr Grŵp Llandrillo Menai, aelod o Senedd Cymru ac arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ynghyd yr wythnos hon i lansio'r achlysur. Mae disgwyl i'r ganolfan gael ei chwblhau erbyn diwedd 2023 fel y gall yr addysgu ddechrau yno'n gynnar yn 2024.
Bydd y cyfleuster tri llawr newydd yn 2,886m² ac yn cynnwys gwerth dros £2m o'r offer hyfforddi arbenigol diweddaraf – o ystafelloedd dylunio gyda chymorth cyfrifiaduron i beiriannau prototeipio 3D a pheiriannau torri metel diwydiannol mawr a reolir gan gyfrifiaduron.
Mewn partneriaeth â'r cwmni rhyngwladol RWE Renewables, sy'n rheoli nifer o safleoedd ynni adnewyddadwy ym Mhrydain, bydd y datblygiad newydd yn cynnwys sefydliad newydd ar gyfer Technoleg Ynni Adnewyddadwy. Nodwedd amlwg o'r adeilad fydd neuadd dri llawr ar raddfa ddiwydiannol i wasanaethu a chynnal a chadw Tyrbinau Gwynt.
Meddai Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo: "Bydd y datblygiad newydd yn gwella campws Coleg Llandrillo yn y Rhyl yn sylweddol. Bydd yn darparu amgylchedd o'r radd flaenaf i ddysgwyr yr ardal allu dysgu a hyfforddi gan ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf. Bydd hyn yn fanteisiol tu hwnt iddynt ac yn eu galluogi i ddilyn gyrfaoedd sy'n talu'n dda mewn meysydd fel cynhyrchu ynni, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch.
"Fy ngweledigaeth ar gyfer y ganolfan yw ei bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda diwydiant er mwyn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl i gefnogi twf economaidd ac arloesedd yn y sector ar draws Gogledd Cymru."
Meddai Carolyn Thomas MS, Aelod Rhanbarthol o'r Senedd: "Mae'n wych bod yma heddiw i weld pa mor dda mae'r prosiect yn dod yn ei flaen. Mae'r broses wedi bod yn un hir ac rydw i wedi ei chefnogi o'r cychwyn cyntaf. Mae'n gyfleuster pwysig iawn o ran darparu hyfforddiant i bobl Gogledd Cymru ym maes ynni adnewyddadwy."
Meddai Simon Moreton, Cyfarwyddwr Masnachol yn Wynne Construction: "Mae'n newyddion ardderchog fod Grŵp Llandrillo Menai'n ehangu ei ddarpariaeth ym maes yr amgylchedd adeiledig ar ei gampws yn y Rhyl, ac rydym yn hynod o falch ein bod wedi ennill y contract yn dilyn ein llwyddiant wrth ddarparu camau blaenorol y prosiect."
Ychwanegodd Jason McLellan, Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych: "Mae'n wych y bydd gennym ni'r cyfleuster i roi i bobl leol y sgiliau perthnasol i weithio ar brosiectau pwysig y dyfodol yng Ngogledd Cymru a thu hwnt."
Nododd Dr Griff Jones, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Grŵp Llandrillo Menai: "Ein bwriad pennaf yw cael y cyfleusterau gorau i'n holl ddysgwyr ar draws pob campws – o Ddolgellau i'r Rhyl."