Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dau o Raddedigion y Cwrs Plismona yng Ngholeg Llandrillo yn Dechrau Gyrfaoedd Newydd ar ôl Dychwelyd o'r UDA ac Awstralia!

Mae dau deithiwr brwd ar fin cadw eu pasbortau am y tro wrth iddynt ddechrau gyrfaoedd fel swyddogion yr heddlu, wedi iddynt raddio o'r cwrs gradd BSc cyntaf i'w gynnal mewn Plismona Proffesiynol yng Ngholeg Llandrillo.

Graddiodd Mollie Edwards a Jess Sutherland - o Lanrwst a Phorthaethwy, yr haf hwn, ac maent bellach yn edrych ymlaen at ddechrau eu gyrfaoedd gyda Heddlu Gogledd Cymru yn yr hydref.

Dyma stori Jess: "Fis Hydref, yn 38 oed, rydw i ar fin dechrau fy rôl newydd fel Cwnstabl gyda Heddlu Gogledd Cymru!

"Gadewais Ogledd Cymru pan o'n i'n 17 oed a symud i Boston, Massachusetts. Flwyddyn yn ddiweddarach, ro'n i'n ffodus o gael cyfle i weithio mewn cyfleuster cywirol i bobl ifanc. Gwnes i wir fwynhau gweithio gyda throseddwyr ifanc a phenderfynais mai dyma'r llwybr gyrfa ro'n i eisiau ei ddilyn. Gweithiais yno am nifer o flynyddoedd gan ddatblygu llawer o sgiliau ac ennill sawl cymhwyster; o ddiogelu pobl sy'n agored i niwed i hyfforddiant achubwr bywyd.

"Mae gen i ddwy ferch sy'n 16 a 10 oed - ganwyd y ddwy yn yr Unol Daleithiau. Yn 2017, penderfynais adael America a dychwelyd i Ogledd Cymru gyda'm merched. Ar ôl treulio blwyddyn yn ymgartrefu yma unwaith eto, penderfynais fy mod i eisiau dilyn gyrfa mewn plismona, ond sylweddolais yn fuan y byddai'n rhaid i mi gael gradd os o'n i am wireddu fy mreuddwyd o ddod yn swyddog yr heddlu.

"Es i i Goleg Llandrillo a chwrdd â'r tiwtor plismona Dewi Roberts, a roddodd yr holl wybodaeth yr oedd ei hangen arnaf. Cymerais ei gyngor a chofrestrais ar y cwrs gradd Plismona Proffesiynol cyntaf i'w gyflwyno gan Goleg Llandrillo a Phrifysgol Bangor.

"Ro'n i'n nerfus iawn am ddychwelyd i addysg yn 35 oed, ond dydw i ddim wedi difaru. Roedd bod y myfyriwr hynaf yn y dosbarth ychydig yn anghyfforddus i ddechrau. Ond yn ffodus, diflannodd y teimladau hynny'n fuan gan fod fy nghyd-fyfyrwyr a'r darlithoedd yn wych. Roedd y cymorth a gefais drwy gydol fy nhair blynedd yn rhagorol. Yn ystod y cyfnod hwn, gwnes hefyd ddod yn Gwnstabl Arbennig gyda Heddlu Gogledd Cymru, gan wasanaethu yn ardal Bangor rhan fwyaf.

"Mynychais fy seremoni raddio'r haf hwn. Wrth i mi wisgo fy nghap a'm gŵn wedi fy amgylchynu gan fy nwy ferch a'm teulu, sylweddolais mai hwn oedd diwrnod balchaf fy mywyd. Graddiais â gradd 2:1 ac rydw i bellach yn edrych ymlaen at yrfa ym maes plismona gyda Heddlu Gogledd Cymru."

Parhaodd Mollie, ei chyd-fyfyriwr a theithiwr brwd arall, â’i stori hithau: "Cwblheais gwrs BTEC Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo yn 2014, gan ennill gradd Rhagoriaeth. Ystyriais gwblhau'r radd Plismona bryd hynny, ond penderfynais fynd i weithio am ychydig er mwyn arbed arian i fynd i deithio. Teithiais ar fy mhen fy hun am 15 mis ledled Awstralia, de ddwyrain Asia, America a Chanada. Dychwelais adref wedyn i weithio mewn meddygfa, cyn penderfynu gwneud cais am le ar gwrs Gradd Plismona Proffesiynol newydd sbon (ar y pryd) y Coleg, a ddechreuodd ym mis Medi 2019.

"Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ar y cwrs, penderfynais ymgeisio i fod yn Gwnstabl Arbennig gyda Heddlu Gogledd Cymru. Cefais fy nerbyn, a bues i'n gweithio yn ardal de Gwynedd. Gwnaeth y profiad hwn roi dealltwriaeth gwerthfawr i mi o blismona gweithredol.

"Yn ddiweddar, graddiais o'r cwrs gradd Plismona Proffesiynol gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Rydw i ar hyn o bryd yn mynd drwy'r broses o ymuno gyda Heddlu Gogledd Cymru fel Cwnstabl, a gobeithio y byddaf yn dechrau ar yr hyfforddiant ym mis Hydref 2022.

"Rydw i wedi cael fy nghefnogi'n llawn drwy gydol fy siwrne gan gynrychiolwyr o Goleg Llandrillo, Prifysgol Bangor a Heddlu Gogledd Cymru ac rydw i'n awr yn edrych ymlaen at ddechrau fy ngyrfa ym maes plismona."

Dywedodd Dewi Roberts sy'n diwtor ar y cwrs gradd mewn Plismona Proffesiynol yng Ngholeg Llandrillo: "Dysgais Mollie ar lefel BTEC a hefyd ar y cwrs gradd. Roedd hi'n fyfyriwr gwych ac mae ganddi'r rhinweddau i fod yn swyddog yr heddlu rhagorol. Cyfarfyddais â Jess pan ddaeth i drafod ei hopsiynau o ran ennill gradd fel y gallai ddod yn swyddog yr heddlu. Roedd Jess hefyd yn fyfyriwr o'r radd flaenaf, ac mae holl staff yr adran yn dymuno'r gorau iddynt yn y dyfodol."

Ychwanegodd Dr Tim Holmes o Brifysgol Bangor: "Cyfarfyddais â Jess a Mollie pan ddechreuodd y ddwy ar y cwrs gradd ac ymweld â'r brifysgol am y tro cyntaf. Ar ôl hynny, dysgais theori troseddegol a seiberdroseddu i'r ddwy yn ystod ail flwyddyn y cwrs gradd. Dangosodd y ddwy ddealltwriaeth frwd o droseddeg a'r heriau sy'n gysylltiedig â phlismona'r gymdeithas. Roedd eu hagwedd gadarnhaol a rhagweithiol tuag at eu hastudiaethau'n braf i’w gweld yn enwedig gan fod rhaid iddynt ddygymod ag astudio yn ystod cyfyngiadau Covid. Rydw i'n dymuno'r gorau i'r ddwy wrth iddynt ddechrau eu gyrfaoedd."

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Plismona yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk