Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Enillydd Gwobr Dysgwr y Flwyddyn Cymru'n Dod yn Ail yn Rownd Derfynol y Deyrnas Unedig!

Yn ogystal â chipio teitl Dysgwr y Flwyddyn Cymru, mae mam i ddau o Lan Conwy wedi dod yn ail yn y gystadleuaeth ar lefel y Deyrnas Unedig!

Enillodd Lorna Hughes, cyn-fyfyrwraig o Goleg Llandrillo, y wobr Mynediad i Addysg Uwch (AU), sef 'Dysgwr y Flwyddyn am Gyflawniad Academaidd Rhagorol'. Fe'i cyflwynwyd iddi, ynghyd â gwobr ariannol, gan Victor Morgan, rheolwr Mynediad i Addysg Uwch yn Agored Cymru, y corff dyfarnu i ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Fel mater o drefn, mae enillydd y wobr hon bob blwyddyn yn gymwys i ymgiprys am y wobr ar lefel y Deyrnas Unedig, sef Gwobr Keith Fletcher. Enwyd Lorna'n ail yn y gystadleuaeth hon, gan ddod o fewn trwch blewyn i guro Charlotte Triolaire o Goleg Lancaster a Morecambe. Roedd hon yn gamp aruthrol o ystyried bod pob Asiantaeth Dilysu Mynediad (AVA) yn Lloegr, yn ogystal ag yng Nghymru, wedi enwebu dysgwyr ar gyfer y wobr hon a oedd yn agored i rai o bob cwr o'r Deyrnas Unedig.

Unwaith eto, a hithau bellach yn ei hunfed flwyddyn ar ddeg, denodd y gystadleuaeth genedlaethol hon a gynhelir er cof am Keith Fletcher, a arferai weithio i Goleg Agored Rhanbarth y De Orllewin ac a oedd ar dân dros Fynediad i AU, griw o ymgeiswyr rhagorol.

Dywedodd Victor Morgan: "Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, ond yn enwedig i Lorna. Mae'r gamp hon yn glod i'r ddysgwraig, ac i aelodau'r tîm Mynediad i AU yng Ngholeg Llandrillo am ddarparu amgylchedd a phrofiadau sy'n ei gwneud yn bosibl i'w dysgwyr ffynnu.

"Bob blwyddyn, byddwn yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau anhygoel y myfyrwyr Mynediad i Addysg Uwch drwy gyflwyno gwobrau i'r goreuon. Yn aml, bydd y dysgwyr wedi goresgyn heriau sylweddol er mwyn ennill y cymwysterau a gwireddu eu breuddwyd o fynd ymlaen i addysg uwch. Rhydd ein gwobrau gyfle i gydnabod a gwobrwyo dysgwyr ysbrydoledig am eu hymroddiad i ddysgu."

Bellach, mae Lorna, sy'n hanu o'r Alban, y byw yng Nglan Conwy gyda'i gŵr, ei dwy ferch sydd yn eu harddegau a llu o gathod a chŵn!

Doedd Lorna ddim eisiau bod yn nyrs erioed. A dweud y gwir, astudiodd Ieithoedd yn y Brifysgol a bu'n gyfieithydd am nifer o flynyddoedd. Ond, ar ôl dod yn fam a gofalu am ei thad, sylweddolodd Lorna yr hoffai ddilyn gyrfa mewn maes arall, sef nyrsio.

Credai ei bod yn rhy hwyr ac nad oedd fawr o obaith y byddai'n cael ei derbyn ar gwrs prifysgol. Fodd bynnag, wrth i'w phlant dyfu a dod yn fwy annibynnol, cryfhaodd ei hawydd i fod yn nyrs. "Ro'n i'n dweud a dweud wrthyf fy hun mai rŵan oedd yr amser, neu 'fyddwn i byth yn rhoi cynnig arni a byth yn gwybod a fyddwn yn llwyddo", meddai Lorna.

Felly, cofrestrodd ar y cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn ei choleg lleol, sef Coleg Llandrillo. Ychwanegodd Lorna: "Ro'n i wrth fy modd ar y cwrs Mynediad yn Llandrillo, ac roedd fy nhiwtor, Holly, mor gefnogol ac chalonogol. Ar y pryd, roeddwn yn hanner cant oed ac yn meddwl bod fy oedran yn rhwystr, ond helpodd Holly fi i sylweddoli nad oedd hynny'n wir o gwbl."

Cafodd Lorna ragoriaeth yn ei holl unedau a'i henwi'n Ddysgwr Mynediad y Flwyddyn Coleg Llandrillo. Fe'i derbyniwyd ar y cwrs Nyrsio Oedolion ym Mhrifysgol Bangor: "Mi wnes ddechrau dilyn fy nghwrs gradd fis Medi 2021 ac rydw i mor falch ‘mod i wedi cwblhau'r cwrs Mynediad gan ei fod wedi fy mharatoi'n dda iawn ar gyfer bywyd academaidd. Rŵan, rydw i'n mwynhau fy nghwrs gradd a'm lleoliadau nyrsio ac yn edrych ymlaen at yrfa'n nyrsio ar ddiwedd y tair blynedd," meddai Lorna.

Dywedodd tiwtor Lorna, Holly Maxwell, a enwebodd Lorna ar gyfer y wobr yn y lle cyntaf: "Roedd Lorna'n fyfyrwraig ardderchog ar y cwrs Mynediad i AU ym maes Gofal Iechyd. Daeth i fod yn gynrychiolydd y cwrs a rhoddodd gefnogaeth academaidd ac emosiynol i'w chyd-fyfyrwyr pan gawsant eu gorfodi i weithio ar-lein oherwydd COVID-19. Roedd gwaith Lorna'n ardderchog ac roedd safon y gwaith hwnnw wastad yn benigamp."

Mae'r rhaglen Mynediad i Addysg Uwch yn agor y drws i fynd ymlaen i brifysgol ac mae Coleg Llandrillo wedi bod yn cynnig y rhaglen hon ers bron i 30 mlynedd. Mae’n rhaglen hyblyg sydd wedi'i llunio ar gyfer oedolion nad ydynt wedi ennill llawer o gymwysterau yn yr ysgol ond sy'n dymuno paratoi ar gyfer astudio ar lefel prifysgol.

I gael rhagor o wybodaeth am raglenni Mynediad i Addysg Uwch yng Ngholeg Llandrillo, ewch i www.gllm.ac.uk neu ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk