Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Penodi cyn-fyfyriwr yn Arweinydd Rhaglen yn y Coleg lle buodd yn astudio!

Mae cyn-fyfyriwr wedi cael ei benodi yn Arweinydd Rhaglen Addysg Uwch ym maes y Cyfryngau yn y coleg lle buodd yn astudio.

Mae James Lehart newydd gael ei gyhoeddi fel Arweinydd Rhaglen newydd ar gyfer cyrsiau Cyfryngau lefel prifysgol ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos .

Fe wnaeth James, a gyfaddefodd ei fod yn “tangyflawni yn yr ysgol”, ragori yn y coleg yn ddiweddarach yn ei fywyd, gan gwblhau Lefelau 1-6 yng Ngholeg Llandrillo yn llwyddiannus, gan gynnwys gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf!

Sawl blwyddyn ar ôl gadael yr ysgol, dychwelodd i addysg yn 2008, gan gwblhau Diploma ym maes Rhaglenni Digidol yn y coleg. Ar ôl cwblhau’r Diploma, cymerodd amser i ffwrdd o addysg unwaith yn rhagor, gan benderfynu “dechrau o’r newydd yn iawn i roi trefn ar fy mywyd” chwe blynedd yn ddiweddarach.

Yn 2015, cofrestrodd ar gwrs Lefel 3 BTEC yn y Cyfryngau, a chafodd ei roi ar lwybr carlam ar ôl blwyddyn yn unig i ddilyn cwrs gradd BA (Anrh) mewn Cyfryngau Creadigol yn y coleg.

Penderfynodd James wedyn ei fod am fynd i ddysgu, felly cofrestrodd ar gwrs Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) a derbyniodd leoliad yn adran Cyfryngau’r coleg. Dywedodd: "Hanner ffordd drwy flwyddyn gyntaf y cwrs TAR, cefais swydd fel darlithydd yn adran Cyfrifiadura a Chyfryngau'r coleg. Felly, des i’n ddarlithydd yn 2020 yn ystod y pandemig.”

Ychwanegodd: "Rwy'n teimlo'n gyffrous am yr her newydd hon. Mae fy mywyd yn dyst i’r dywediad ‘mae gwaith caled yn talu ar ei ganfed yn y pen draw’.”

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau yng Ngholeg Llandrillo, ewch i www.gllm.ac.uk neu ffoniwch y tîm Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk