Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr cwnsela cyntaf y Coleg yn dathlu eu llwyddiant

Bu myfyrwyr cwnsela o Gampws y Rhyl Coleg Llandrillo yn dathlu eu llwyddiant yn ddiweddar fel y garfan gyntaf i gwblhau'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Cwnsela.

Bu myfyrwyr cwnsela o Gampws y Rhyl Coleg Llandrillo yn dathlu eu llwyddiant yn ddiweddar fel y garfan gyntaf i gwblhau'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Cwnsela.

Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch mewn Cwnsela yn rhaglen ran-amser dros ddwy flynedd, sy'n cael ei dilysu a'i dyfarnu gan Brifysgol Bangor. Mae'n rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i fyfyrwyr fedru mynd ymlaen i gofrestru a gweithredu fel Cwnselwr Proffesiynol gyda Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain.

Cyflwynwyd eu tystysgrifau i'r myfyrwyr yn y digwyddiad dathlu gan yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu ac Addysgu Prifysgol Bangor. Mynychwyd y digwyddiad gan gyflogwyr lleol a staff Coleg Llandrillo fu'n rhan o arwain a darparu'r rhaglen hefyd.

Dywedodd un o'r myfyrwyr cwnsela llwyddiannus, Sophie:

"Dw i wir wedi mwynhau'r cwrs hwn. Dw i'n meddwl mai'r peth mwyaf ydi'r cynnydd yn fy hyder, ac mae hynny oherwydd strwythur y cwrs - yr heriau byw'n iach; amrywiaeth yr asesiadau a'r llwyth gwaith a'r rhyngweithio a'r cymorth gan fy nhiwtoriaid a fy nghyd-fyfyrwyr. Hefyd dw i'n teimlo'n gyffyrddus iawn ar gampws y Rhyl. Dydi o ddim mor fawr â rhai sefydliadau, sy'n gwneud iddo deimlo'n fwy personol. Rydw i wedi cael cymorth ardderchog gan y gwahanol adrannau pan oedd angen hynny, fel y llyfrgell a'r adrannau cyllid a gweinyddiaeth."

Meddai myfyriwr arall llwyddiannus, Sally:

"Mae gwneud y cwrs Lefel 4 yng nghampws y Rhyl wedi bod yn brofiad positif iawn, yn bersonol ac yn broffesiynol. Roedd y gefnogaeth gan y darlithwyr a'r tîm ehangach heb ei ail. Mae gan y campws gyfleusterau rhagorol ac awyrgylch cynnes a chroesawus. Rwy'n teimlo'n lwcus iawn bod y cymhwyster hwn ar gael yn lleol i mi a fy mod yn teimlo'n rhan o gymuned wrth fynd ar y daith hon. Roedd hynny'n amhrisiadwy i mi o ran cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.”

Mae'r Dystysgrif Addysg Uwch ym maes Gofal Cymdeithasol wedi'i dylunio ar gyfer y rhai sy'n gweithio yn y sector Gofal Cymdeithasol sy'n dymuno ehangu eu gwybodaeth er mwyn gwella eu hymarfer a datblygu eu gyrfa. Nodwyd bod bwlch yn y ddarpariaeth cyrsiau addysg uwch yn ardal y Rhyl ac mae'r cyrsiau hyn yn cyd-fynd ag anghenion y sector a chyflogwyr yn yr ardal.

Mae'r ddarpariaeth cyrsiau cwnsela yn parhau i dyfu - gyda champws y Rhyl yn cynnig cyrsiau o Lefel 2 i Lefel 5 erbyn hyn a nifer y lleoliadau profiad gwaith yn ardal y Rhyl yn cynyddu hefyd.

Yn ogystal â'r ddarpariaeth gwnsela mae campws y Rhyl yn cynnig rhagor o gyfleoedd ar gyfer datblygiad yn y sector iechyd. Mae'r cwrs poblogaidd Tystysgrif Addysg Uwch ym maes Gofal Cymdeithasol yn rhaglen sy'n esblygu. Bellach mae'n llawn cynnwys arloesol newydd sy'n cyd-fynd ag anghenion cyflogwyr lleol, sy'n cynorthwyo i gefnogi cyflogadwyedd a gwella ansawdd y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn lleol.

Dywedodd yr Athro Nichola Callow, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu ac Addysgu Prifysgol Bangor:

"Mae gan Brifysgol Bangor bartneriaeth gref a llewyrchus â Grŵp Llandrillo Menai. Fel rhan o'r bartneriaeth hon rydym ni wedi datblygu cyfres o gyrsiau Addysg Uwch sy'n cyfoethogi ein darpariaeth ddysgu hyblyg ac yn sicrhau cyfleoedd i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym ni'n falch iawn o gynnig y cyrsiau Cwnsela ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng nghampws y Rhyl. Mae cynyddu'r mynediad i Addysg Uwch yn y maes hwn yn bwysig, nid yn unig o safbwynt ehangu mynediad ond hefyd o ran mynd i'r afael â'r anghenion sgiliau yn y rhanbarth. Rydym ni wrth ein boddau â llwyddiant y ddarpariaeth ac yn edrych ymlaen at weld effaith gadarnhaol y cyrsiau hyn ar ranbarth Gogledd Cymru a'n poblogaeth."

Dywedodd Paul Flanagan, Pennaeth Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Addysg Uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai:

"Rydym wrth ein bodd gyda llwyddiant ein dysgwyr addysg uwch yng nghampws y Rhyl. Mae ein rhaglenni Lefel 4 lleol wedi'u dylunio'n benodol i ddarparu cyfleoedd i ddenu dysgwyr o amrywiaeth o gefndiroedd a'r rhai nad ydynt yn cael eu cynrychioli'n ddigonol mewn addysg uwch yn arferol. Trwy ddarparu cyfleoedd Addysg Uwch yn lleol rydym ni'n gwneud gwahaniaeth go iawn yn y cymunedau rydym ni'n eu gwasanaethu. Edrychaf ymlaen at barhau ein partneriaeth strategol gref â Phrifysgol Bangor. Mae gennym ni gynlluniau i ehangu ein darpariaeth lwyddiannus yn y dyfodol agos."

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau Cwnsela ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gampws y Rhyl, yn cynnwys ein rhaglenni Addysg Uwch, ewch i: www.gllm.ac.uk/degrees