Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr y Coleg yn paratoi ar gyfer y Parti Platinwm yn y Palas

Mae dau aelod o staff a chwe myfyriwr o adran Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Llandrillo yn edrych ymlaen at achlysur cofiadwy, ar ôl cael eu dewis i fynd i Lundain i'r 'Parti Platinwm yn y Palas' ym Mhalas Buckingham i ddathlu 70 mlynedd y Frenhines ar yr orsedd.

Y prif reswm dros ddewis y coleg yw oherwydd iddo dderbyn yn 2011 'Wobr Pen-blwydd Jiwbilî Ddiemwnt y Frenhines ar gyfer Addysg Uwch ac Addysg Bellach' am "Ddarparu rhagoriaeth o safon fyd-eang ym maes lletygarwch ar bob lefel". Coleg Llandrillo oedd yr unig goleg yng Nghymru i dderbyn yr anrhydedd, ac un o ddim ond tri choleg yn y Deyrnas Unedig!

Y cogyddion ifanc fydd yn mynd yr wythnos nesaf yw: Cai Williams o Ddinbych, Rhian James (Cyffordd Llandudno), Aaron Sherrington (Llandrillo-yn-Rhos), Heather Spencer (Llanfairfechan), Pippa Taylor (Bodelwyddan) ac Alex Cawley (Llanrwst).

Bydd y cyngerdd 'Parti Platinwm yn y Palas' yn dod â rhai o sêr adloniant y byd at ei gilydd i berfformio ym Mhalas Buckingham. Mae'r digwyddiad yn cynnwys sêr y byd cerddoriaeth byd-eang gyda cherddorfa fyw, yn ogystal ag actorion o nifer o ffilmiau a rhaglenni teledu adnabyddus.

Bydd y thema'n parhau gydag un o fyfyrwyr y Coleg ar y cwrs addurno cacennau'n creu cacen dathlu'r jiwbilî platinwm ar gyfer ei hasesiad terfynol!


www.gllm.ac.uk