Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyrwyr yn Ceisio Dianc!

Roedd bonllefau, conffeti'n tasgu a sesiwn dynnu lluniau'n wynebu timau o fyfyrwyr a lwyddodd yn ddiweddar i ddod yn rhydd o 'ystafell ddianc' i'r byd go iawn!

Treuliodd myfyrwyr sy'n dilyn cwrs gradd sylfaen mewn Trefnu Digwyddiadau ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos fisoedd yn creu ystafell ddianc yn rhan o'u cwrs.

Yn wreiddiol, gofynnwyd iddynt greu rhywbeth hwyliog ar gyfer y myfyrwyr, i helpu i ddod â phawb ynghyd ar ôl y cyfnod heriol diweddar. Gwnaethant benderfynu creu ystafell ddianc y gellid ei gosod unrhyw le ar y campws ̶ rhyw fath o 'ddihangfa' i ysgogi ffrindiau i ryngweithio ac i roi hwb i les y myfyrwyr.

Galwyd yr ystafell yn 'Colour Crisis' ̶ roedd yn ddu a gwyn bron i gyd, ac eithrio rhan binc a oedd yn allweddol er mwyn i'r cystadleuwyr ddianc. Roedd y profiad yn dechrau gyda recordiad fideo o feistr y gêm yn egluro'r her gyffredinol, a oedd yn cynnwys saith gêm heriol yn amrywio o ddatrys cod Morse i ddatrys rhigymau cymhleth ... yng nghanol sbotoleuadau a cherddoriaeth sinistr.

Ar ôl cwblhau gêm yn llwyddiannus, roedd y rhai a oedd yn cymryd rhan yn cael llythyren o fysellfwrdd cyfrifiadur. Ar ôl casglu’r holl lythrennau bysellfwrdd, roedd yn rhaid iddynt ddatrys ble i fynd ar y bysellfwrdd qwerty i ganfod cyfrinair y cyfrifiadur. Yna, roedd hwn yn agor bocs enfawr a oedd yn cynnwys dros ddeg ar hugain o allweddi, ond dim ond un oedd yn ffitio clo'r drws pinc ac yn mynd i'w galluogi i ddianc!

Wedi i'r tîm ddianc, roedd bonllefau, conffeti'n tasgu a sesiwn dynnu lluniau'n eu hwynebu. Roedd ganddynt un awr i gwblhau'r dasg. Gallent ofyn am gliwiau gan feistr y gêm, ond roedd pob cliw yn ychwanegu munud at eu hamser cyffredinol. Yn ogystal â dianc, y nod oedd hawlio’r wobr drwy fod y grŵp cyflymaf i gael eu traed yn rhydd.

'L5 Escapes' yw enw'r cwmni y mae'r myfyrwyr wedi'i sefydlu. Y myfyrwyr mentrus, sydd ar ail flwyddyn y cwrs gradd sylfaen mewn Rheoli Digwyddiadau, oedd Adam Owen o Gonwy, Kai Davies (Llanddulas), Jess Alexander (Cyffordd Llandudno) a Phil Lynes (Caernarfon).

Dywedodd Claire Jones, darlithydd a chydlynydd y cwrs: "Mi gymerodd sawl darlith/wythnos i'r tîm greu'r ystafell, gan ymchwilio i'r farchnad er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gwneud y dewisiadau gorau ar gyfer y dasg. Yn ogystal, roedd yn rhaid iddyn nhw wneud sawl peth arall, yn cynnwys cael gafael ar y defnyddiau, paentio'r set, creu gemau, cynnal profion i weld faint o amser y byddai'r dasg yn ei gymryd, a gosod goleuadau a synau deinamig. Roedd hyn i gyd yn rhan o'u hasesiad cyffredinol a bydd yn galluogi'r myfyrwyr i ychwanegu profiad ymarferol at eu CVs pan fyddant yn cwblhau'r cwrs ac yn chwilio am waith yn y diwydiant."

Ar y diwrnod, wynebodd dros ddeugain o fyfyrwyr yr her, ac roedd pawb yn unfryd fod y profiad wedi bod yn un cadarnhaol iawn: "Gwnaeth y myfyrwyr a oedd yn trefnu ymdrin â'r dasg mewn ffordd broffesiynol iawn; yn sicr, mi wnaethon nhw ddod â hwyl a chyffro i'r campws!"; "Roedd hwnna'n wych!"; "Roedd yn dda gallu cael hwyl efo fy ffrindiau coleg, ac roedd ar y campws ac yn rhad ac am ddim!"; ac "Dw i ar ben fy nigon ar ôl hwnna!"

Mae'r cwrs gradd sylfaen mewn Rheoli Digwyddiadau wedi'i seilio ar un diwrnod astudio'r wythnos, felly mae i'r dim i rai sydd am ennill gradd ond sydd ag ymrwymiadau eraill hefyd. Mae'n gwrs academaidd (wedi'i ddilysu gan Brifysgol Bangor) ond mae'n cynnwys cyfleoedd galwedigaethol i gael profiad ymarferol mewn sawl agwedd ar y diwydiant: o gigiau cerddoriaeth fyw a seremonïau gwobrwyo cenedlaethol, i ddigwyddiadau addysgol a chynadleddau.

I gael rhagor o wybodaeth am y radd sylfaen mewn Rheoli Digwyddiadau a gynigir yng Ngholeg Llandrillo, ffoniwch dîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk