Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Newyddion

Darllenwch y straeon newyddion diweddaraf

Ela yn sefyll yn yr arena gyda'i gwobr

Myfyriwr chwaraeon o Fôn yn chwifio'r faner dros Gymru a Choleg Menai ym Mhencampwriaethau Prydain

Yn ddiweddar, cipiodd i Ela Haf Williams deitl pencampwr Tymblo a Foltio ym Mhencampwriaethau Gymnasteg Cymru yng Nghaerdydd. Bydd Ela'n mynd ymlaen i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Prydain ar 3 Mai yn Stoke on Trent.

Dewch i wybod mwy
Y chwe myfyriwr yn sefyll o flaen y Darian gyda Marc

Gogoniant y Grand Slam: Sêr Academi Bêl-droed Grŵp Llandrillo Menai yn dod â Tharian y Canmlwyddiant Adref i Gymru

Chwaraeodd chwe seren ifanc o Grŵp Llandrillo Menai ran allweddol yng nghystadleuaeth bêl-droed ryngwladol Tarian y Canmlwyddiant (SAFIB) 2026 . Gyda buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ar 23 Ebrill, enillodd tîm dan 18 Ysgolion Cymru'r grand slam – a chodi’r Darian dros Gymru am y trydydd tro mewn pum mlynedd wedi iddynt ennill pob gêm.

Dewch i wybod mwy
Marc gyda'i fedal Marathon Llundain

Tiwtor o adran Chwaraeon Coleg Menai yn rhedeg Marathon Llundain i godi arian i'r Gymdeithas Strôc

Ddeng mlynedd ar ôl cael strôc a newidiodd ei fywyd, trodd Marc Williams garreg filltir bersonol yn sialens i godi arian i wasanaethau gwella ar ôl cael strôc.

Dewch i wybod mwy
Y tîm o Ysgol Tir Morfa gyda'u tlws

Myfyrwyr chwaraeon Coleg Llandrillo yn trefnu Her Panathlon

Yn ddiweddar, trawsnewidiwyd neuadd chwaraeon campws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos yn ganolfan o egni a chynhwysiant ar gyfer Her Panathlon 2026.

Dewch i wybod mwy
Malan yn chwarae ei gitâr

Malan yn Dychwelyd i Goleg Menai ar gyfer Sesiwn Radio Cymru

Yng Ngholeg Menai'n ddiweddar cafodd cylch ei gau wrth i'r myfyrwyr groesawu Malan, y gantores jazz a phop, yn ei hôl i recordio sesiwn arbennig i Radio Cymru.

Dewch i wybod mwy
Dau fachgen yn eistedd mewn lori dân

Campysau'r Coleg i gynnal diwrnodau hwyl i'r gymuned

Ddydd Sadwrn 9 Mai, bydd Grŵp Llandrillo Menai yn agor ei ddrysau i groesawu cannoedd o bobl i'w ddiwrnodau hwyl i'r gymuned.

Dewch i wybod mwy
Mae Molly, Millie ac Oskar yn sefyll gyda'u gwobrau

Cipio'r wobr Aur: Myfyrwyr Coleg Llandrillo yn Sicrhau Buddugoliaeth yng Nghystadleuaeth Commis y Flwyddyn y Gogledd-orllewin

Yn ddiweddar, enillodd triawd o fyfyrwyr talentog cyrsiau lletygarwch ac arlwyo Coleg Llandrillo'r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Cogydd Commis y Flwyddyn Association Culinaire Française (ACF) Northwest.

Dewch i wybod mwy
Rebecca yn derbyn ei medal.

Anrhydeddu Rebecca Day gyda Medal Arian gan Gwmni’r Brethynwyr

Mae Grŵp Llandrillo Menai yn falch o ddathlu llwyddiant Rebecca Day, aelod o staff sydd wedi derbyn Medal Arian gan Gwmni’r Brethynwyr am ei hymchwil arloesol ar ddwyieithrwydd mewn unigolion sydd â Syndrom Rett.

Dewch i wybod mwy
Yuliia a Madeleine yn eu crysau-t WorldSkills.

Gwireddu breuddwyd: dau o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai wedi'u dewis i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn WorldSkills Shanghai 2026

Ym mis Medi eleni, bydd Yuliia Batrak a Madeleine Warburton yn cynrychioli'r Deyrnas Unedig yng nghystadlaethau WorldSkills 2026 yn Shanghai, Tsieina.

“Mi ddechreuodd y daith hon dair blynedd yn ôl gyda breuddwyd... mae'n teimlo'n wirioneddol anhygoel gweld y freuddwyd honno'n yn cael ei gwireddu.” - Yuliia

Dewch i wybod mwy
Y tri myfyriwr yn sefyll gyda'u tiwtor yn y seremoni wobrwyo.

Myfyrwyr o Goleg Llandrillo yn torri tir newydd i Gymru gyda Buddugoliaeth Ddwbl yn Zest Quest Asia

Nid yn unig y daeth tri myfyriwr Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol o Goleg Llandrillo'r tîm cyntaf o golegau Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth goginio Zest Quest Asia yn ddiweddar, ond daethant â dwy wobr adref hefyd.

Dewch i wybod mwy

Pagination