Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cwmni Rehau yn Cefnogi Myfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor i Baratoi at Gystadleuaeth Rasio STEM Gogledd Cymru

Mae cyfle unigryw wedi'i estyn i fyfyrwyr peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor wrth iddynt baratoi at Gystadleuaeth Rasio STEM Gogledd Cymru, a arferai gael ei galw'n Gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion. Mae tîm 'Rasio D.A.F.A.D' wedi cael cefnogaeth hael gan gwmni Rehau ym Mlaenau Ffestiniog i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn Ninbych fis Chwefror, ac mae campws CaMDA y coleg y tu ôl iddynt bob cam o'r ffordd. ⁠

Mewn ymweliad â'r coleg cyflwynodd Delyth Roberts, Swyddog Profi, Hyfforddi a Chyfathrebu ffatri Rehau ym Mlaenau Ffestiniog, siec o £500 i dîm D.A.F.A.D. i'w cynorthwyo gyda'r costau cystadlu. Aelodau'r tîm yw Lucas Bloor-Walsh, Leland Clews, a Daniel Ratcliffe, sy'n cael ei adnabod fel 'STIG Cymru', ac am y tro cyntaf byddant yn cynrychioli campws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau yn y Dosbarth Proffesiynol.

Mynegodd Emlyn Evans, Tiwtor Arweiniol y rhaglen F1 mewn Ysgolion yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, ei frwdfrydedd dros allu'r gystadleuaeth i ysbrydoli peirianwyr ifanc:

"Cefais fy nghyflwyno i'r gystadleuaeth yn gynnar yn fy ngyrfa fel athro ac rydw i wedi gweld â fy llygaid fy hun sut mae'n tanio diddordeb myfyrwyr mewn peirianneg. Dros y blynyddoedd, mae ein myfyrwyr wedi cyrraedd y brig yn gyson yn y gystadleuaeth, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwnnw. Eleni, rydyn ni'n cefnogi pum tîm o ysgolion lleol ynghyd â sawl tîm o'r coleg, ac maen nhw i gyd yn gweithio'n galed i ddatblygu ceir rasio arbennig sy'n perfformio i'r safonau uchaf posibl."

Mae cystadleuaeth Rasio STEM yn rhoi profiadau dysgu ymarferol gwerthfawr tu hwnt i'r myfyrwyr. Mae pob tîm yn gyfrifol am reoli pob elfen o'r ras, gan gynnwys rheoli prosiect, marchnata, dylunio, gwaith peirianneg a gweithgynhyrchu, ac agweddau ariannol. Rhaid i'r myfyrwyr weithio ar y cyd i greu car rasio, brandio'r tîm, a sicrhau nawdd i dalu am gystadlu.

Mae tîm Rasio D.A.F.A.D eisoes wedi dechrau dylunio eu car rasio, a thra bod y manylion yn dal i fod yn gyfrinachol, cafodd Delyth Roberts o gwmni Rehau ragolwg o'u cynllun cyffrous.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at dderbyn replica o'r car pan fydd y cystadlu ar ben. Bydd yn bleser cael ei arddangos yn ein ffatri," meddai Delyth.

Rehau Ltd yw un o brif gynhyrchwyr ffenestri PVCu y Deyrnas Unedig, a bydd y nawdd o £500 yn helpu'r myfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor i sicrhau bod ganddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i lwyddo.

"Rydyn ni'n hynod ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Rehau," meddai Emlyn Evans. "Heb gefnogaeth noddwyr fel Rehau byddai costau ariannol cefnogi ein naw tîm i gystadlu yn rhy uchel o lawer. Mae'r bartneriaeth yn tanlinellu'r cysylltiad cryf sydd yna rhwng diwydiant ac addysg a bydd yn helpu i roi profiad go iawn i beirianwyr y dyfodol o ddisgwyliadau'r proffesiwn."

Mae Coleg Meirion-Dwyfor yn gwahodd rhagor o fusnesau lleol i noddi un o'r naw tîm Rasio STEM. Mae'r cyfleoedd noddi sydd ar gael yn cynnwys gosod logos cwmnïau’n amlwg ar flaen a chefn y ceir.

Ychwanegodd Emlyn Evans, "Byddem wrth ein bodd yn clywed gan gwmnïau sydd â diddordeb mewn cefnogi ein myfyrwyr. Mae noddi tîm yn ffordd wych o hyrwyddo eich busnes tra hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar yrfaoedd peirianwyr ifanc y dyfodol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch yn uniongyrchol â mi evans12e@gllm.ac.uk. "

Yn ogystal â nawdd corfforaethol, gall unigolion gyfrannu hefyd drwy dudalen GoFundMe y timau: https://gofund.me/b3c4bbad7

Pagination