Sylfaen gadarn yn y coleg yn helpu Aled i ddatblygu gyrfa lwyddiannus yn Seland Newydd
Mae'r cyn-brentis Aled Wynne Hamilton bellach yn rhedeg dau fusnes ar ochr arall y byd gyda'i wraig Jess.
Dywed Aled Wynne Hamilton fod ei brentisiaeth drwy Goleg Meirion-Dwyfor wedi gosod y sylfeini ar gyfer rhedeg dau fusnes llwyddiannus yn Seland Newydd.
Yn wreiddiol o Fachynlleth, mae Aled bellach yn byw yn Paihia, sef y porth i draethau tywodlyd a mannau syrffio gwych y Bay of Islands.
Gyda mwy na dau ddegawd o brofiad yn y diwydiant adeiladu, mae Aled a'i wraig Jess yn gyd-berchnogion cwmni'r Bay of Islands Bricklaying, yn ogystal â'r cwmni gwyliau Elite Excursions.
Mae Aled yn credu bod ei gyfnod gyda Choleg Meirion-Dwyfor wedi rhoi'r dechrau gorau posibl iddo mewn gyrfa sydd wedi'i arwain ar draws y byd.
“Dechreuodd fy ngyrfa gyda phrentisiaeth NVQ Lefel 3 strwythuredig mewn gosod brics, a roddodd sylfaen gadarn o sgiliau trwy ddysgu yn y coleg a phrofiad ar y safle,” meddai.
“Ers cymhwyso, dw i wedi gweithio yn Llundain, ledled y DU, yn Awstralia a Seland Newydd, gan ennill ystod eang o brofiad ar draws prosiectau preswyl, masnachol a phensaernïol.
“Nid yn unig y gwnaeth fy hyfforddiant prentisiaeth hi’n haws i sicrhau gwaith yn rhyngwladol ond chwaraeodd ran allweddol hefyd wrth gael fy nhrwydded adeiladu a rhedeg busnesau’n llwyddiannus yn Seland Newydd.”
Mae Aled yn teimlo bod prentisiaethau’n rhoi cyfle i bobl wella eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol, gan ddweud: “Dros y blynyddoedd dw i wedi bod yn falch o fentora prentisiaid a chrefftwyr iau, gan drosglwyddo’r un wybodaeth ymarferol a’r arweiniad a helpodd fi’n gynnar yn fy ngyrfa.
“Dw i’n credu’n gryf mai prentisiaethau yw un o’r llwybrau gorau i bobl ifanc sy'n ymuno â’r diwydiant adeiladu. Maent yn cynnig llwybr strwythuredig a chytbwys - gan gyfuno dysgu yn y swydd ag addysg yn yr ystafell ddosbarth - i ddatblygu gallu technegol a hyder.
“Mae llawer o weithwyr ifanc sy’n mynd yn syth i safleoedd mewn perygl o gael eu cyfyngu i waith ailadroddus neu di-grefft, heb lawer o gyfle i dyfu. Mae prentisiaethau, ar y llaw arall, yn caniatáu i hyfforddeion ennill profiad ymarferol gydag arweiniad priodol, gan sicrhau eu bod yn meithrin sgiliau crefft hanfodol yn gynnar.”
Sefydlodd Aled a'i wraig gwmni'r Bay of Islands Bricklaying yn 2021, a'r llynedd fe wnaethon nhw fanteisio ar gryfderau Jess mewn gwasanaethau i gwsmeriaid a lletygarwch i sefydlu Elite Excursions, menter dwristiaeth sy'n cynnig profiad o olygfeydd godidog y Bay of Islands i ymwelwyr.
Mae'n argymell y llwybr prentisiaeth i unrhyw un sy'n gobeithio cael eu busnes adeiladu eu hunain ryw ddydd, gan ddweud: “Ar ôl elwa’n bersonol o brentisiaeth, dw i’n annog pobl ifanc i gymryd y llwybr hwn.
“Nid yn unig y mae’n rhoi sylfeini gyrfa cadarn ond mae hefyd yn cynnig cyfleoedd ledled y byd ac yn darparu’r profiad sydd ei angen i redeg eu busnes eu hunain yn y diwydiant adeiladu yn y pen draw.”
Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant adeiladu? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau o Lefel 1 hyd at lefel gradd, gan gynnwys prentisiaethau. Dysgwch ragor yma neu ewch i gllm.ac.uk/courses/cy/construction-and-the-built-environment