Medalau i ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn rowndiau terfynol Worldskills UK
Enillodd chwech o ddysgwyr o Goleg Menai, Coleg Llandrillo a Busnes@LlandrilloMenai fedalau yn rowndiau terfynol WorldSkills UK yn ne Cymru.
Dyfarnwyd medalau arian ac efydd i'r myfyrwyr Peirianneg o'r Rhyl, Zac Arnold a McKenzie Goodwin-Cottrill, a oedd ill dau yn cystadlu yn y categori Ynni Adnewyddadwy.
Yn y categori Electroneg Ddiwydiannol, enillodd Iwan Nicklin fedal efydd, tra bod Robat Jones a Lowri Hughes wedi rhannu’r fedal efydd yng nghystadleuaeth y Technegydd Cyfrifeg.
Derbyniodd Kayleigh Blears o Goleg Llandrillo, 'Ganmoliaeth Uchel' yn y gystadleuaeth trin gwallt.
Cawsant eu dewis ar ôl gorffen ymhlith yr wyth uchaf mewn rowndiau rhanbarthol a gynhaliwyd ledled y Deyrnas Unedig.
Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:
"Rydym yn falch iawn o gyflawniad pob un o'n dysgwyr yn rowndiau terfynol Worldskills UK.
Mae cyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol yn gyflawniad yn ei hun, ac yn brawf o'u hymroddiad a'u gwaith caled, o safon yr addysg maen nhw'n ei gael gyda Grŵp Llandrillo Menai ac o'r gefnogaeth arbennig gan eu darlithwyr.
Mae'r ffaith bod chwech o'n dysgwyr wedi ennill medalau ar lefel genedlaethol yn rhagorol. Da iawn bawb”
Mae Rowndiau Terfynol WorldSkills UK yn uchafbwynt i naw mis o waith caled a hyfforddi i'r bobl ifanc oedd yn cymryd rhan ynddynt. Mae'r cystadlaethau'n asesu'r nodweddion mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt ac yn cynnwys sgiliau ymarferol, y gallu i weithio o dan bwysau, i feddwl yn feirniadol a sgiliau cyfathrebu.
Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK:
“Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yng nghystadlaethau cenedlaethol WorldSkills UK. Mae'r dysgwyr wedi dangos eu sgiliau ar y lefel uchaf ac mae'r bobl ifanc eithriadol hyn yn cynrychioli dyfodol ein heconomi. Nhw ydy'r genhedlaeth newydd o bobl lwyddiannus fydd yn rhoi mantais gystadleuol i gyflogwyr y Deyrnas Unedig. Mae ein cystadlaethau, sy'n seiliedig ar safonau byd-eang, yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu'r sgiliau a fydd yn sbarduno buddsoddiad, yn creu swyddi, ac yn tanio twf economaidd.”