Pedwar o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn llysgenhadon dros y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cyhoeddi enwau llysgenhadon blwyddyn academaidd 2025-26, bydd Lilly-May Adams yn Llysgennad Cenedlaethol dros Addysg Bellach a thri arall o'r coleg yn llysgenhadon Addysg Bellach.
Mewn partneriaeth â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd y llysgenhadon yn codi ymwybyddiaeth o fanteision addysg a hyfforddiant dwyieithog ymysg eu cyd-ddisgyblion yn y coleg ac yn y gymuned yn ehangach. Yn ogystal â hyn, bydd mi fyddant yn annog eu cyd-fyfyrwyr i barhau i ddefnyddio'u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Bydd y llysgennad cenedlaethol hefyd yn cynrychioli myfyrwyr addysg bellach ar lefel genedlaethol.
Ein tîm newydd yma yn Grŵp Llandrillo Menai fydd Lilly-May Adams, Llysgennad Cenedlaethol Addysg Bellach, ac Elen Evans, Mark Hughes ac Elliw Jones, llysgenhadon Addysg Bellach yn y coleg.
Dywedodd Lilly-May: "Dw i'n falch iawn ac yn hynod gyffrous fy mod i wedi cael fy newis i fod yn llysgennad dros y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Edrychaf ymlaen at gyfrannu at hyrwyddo, cryfhau a dathlu'r Iaith Gymraeg gyda myfyrwyr yn y coleg."
Ychwanegodd Elan Evans: "Dw i'n edrych ymlaen at fod yn Llysgennad yn y Coleg, bydd yn gyfle i ddatblygu ac ehangu fy sgiliau Cymraeg ar fy nghwrs."
Bydd y llysgenhadon yn cynrychioli'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Grŵp Llandrillo Menai mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau, yn creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol ac yn cynnig syniadau i hyrwyddo'r Gymraeg yn y coleg. Yn ogystal â hyn, bydd y llysgennad cenedlaethol yn cynrychioli myfyrwyr addysg bellach ar lefel genedlaethol ac yn cyflwyno eu barn a'u syniadau yng nghyfarfodydd bwrdd academaidd y Coleg.
Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys cyfleoedd amrywiol i lysgenhadon fagu hyder a datblygu eu sgiliau ymhellach, a bod yn rhan o gymuned Cymraeg y coleg.
Dywedodd Mark Hughes: "Dw i'n edrych ymlaen at fod yn llysgennad dros y coleg, bydd cyfle i ddatblygu fy sgiliau Cymraeg ac i annog myfyrwyr eraill i siarad a defnyddio'r iaith bob dydd.
Dywedodd Elliw Jones: "Dwin edrych yn mlaen i fod yn Llysgennad oherwydd dwi'n meddwl bod o'n pwysig hyrwyddo yr iaith Gymraeg"
Dywedodd Siân Pritchard, Rheolwr Sgiliaith, Datblygu Dwyieithog a Chydraddoldeb:
"Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r llysgenhadon newydd yn ein colegau i godi ymwybyddiaeth o'r addysg ddwyieithog sydd ar gael a'r manteision o ddefnyddio'u Cymraeg."
I gael gwybod rhagor am y llysgenhadon ac i ddilyn gwaith y cynllun yn ystod y flwyddyn, dilynwch y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y cyfryngau cymdeithasol:
Tik Tok, Instagram, X a Facebook: @colegcymraeg