Llwyddiant i Nyrsys Deintyddol Gogledd Cymru
Mae Busnes@LlandrilloMenai yn dathlu'n dilyn eu llwyddiant yng Ngwobrau Cymdeithas Nyrsys Deintyddol Prydain a gafodd eu cynnal ym Manceinion y penwythnos hwn.
Enillodd Nicola Jones y wobr am 'Yrfa Hir', Fiona Morris-Wanklyn y wobr am 'Fentora/Goruchwylio', a chafodd Ezme Knight-Morris sy'n brentis ym Mhractis Deintyddol Bod Heulog yn y Rhyl ganmoliaeth uchel yn y categori i nyrsys deintyddol sy'n 'Fyfyrwyr neu'n Dechrau ar eu Gyrfa'.
Wrth sôn am ei llwyddiant, edrychodd Nicola Jones yn ôl ar ei gyrfa. Cafodd ei blas cyntaf ar y diwydiant yn 14 oed pan aeth ar brofiad gwaith at ddeintydd lleol, ac fe ddatblygodd pethau o hynny i'r yrfa sydd ganddi'n awr.
Dywedodd Nicola:
"Rydw i'n lwcus iawn i gael gweithio mewn practis deintyddol sydd wedi rhoi'r cyfle i mi lwyddo yn fy ngyrfa. Mae hi hefyd yn fraint cael gweithio gyda'r tîm Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn Busnes@LlandrilloMenai i gefnogi prentisiaid ym maes nyrsio deintyddol."
Busnes@LlandrilloMenai oedd y darparwr hyfforddiant cyntaf yng ngogledd Cymru i gynnig y brentisiaeth mewn Nyrsio Deintyddol, ac mae'n parhau i fod yr unig ddarparwr sy'n gwneud hynny. Ym mis Ebrill 2022 y dechreuwyd darparu'r hyfforddiant, ac ers hynny mae nifer y cofrestriadau wedi cynyddu bob blwyddyn.
Dywedodd Amy Thomas, Rheolwr Dysgu Seiliedig ar Waith ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
"Mae ennill y gwobrau hyn mewn digwyddiad cenedlaethol mor bwysig yn gamp aruthrol. Mae'n anodd credu mai tair blynedd yn unig sydd yna ers i ni ddechrau cynnig y brentisiaeth mewn nyrsio deintyddol.
"Mae'r galw wedi cynyddu'n arw, ac oherwydd hynny rydyn ni wedi gorfod cynyddu maint y tîm. Yn ystod y tair blynedd ddiwethaf rydyn ni wedi hyfforddi 29 nyrs ddeintyddol, ac mae dros 60 prentis arall yn cael eu hyfforddi ar hyn o bryd.
"Mae hyn yn enghraifft ardderchog o sut y gall hyfforddiant seiliedig ar waith fodloni anghenion busnesau iechyd a gofal yng ngogledd Cymru. Rydyn ni'n gobeithio parhau i ddiwallu anghenion ein diwydiant gan gynyddu maint ein darpariaeth lle mae hynny'n bosib."
Mae'r brentisiaeth mewn nyrsio deintyddol yn gymhwyster a ddatblygwyd mewn partneriaeth â'r corff dyfarnu, Agored Cymru, Prifysgol Bangor a Grŵp Llandrillo Menai yn 2022.
Os ydych chi am wybod rhagor am y brentisiaeth neu os hoffech chi drafod recriwtio nyrs ddeintyddol yn eich practis, cysylltwch â ni ar 08445 460 460, neu anfonwch neges e-bost i prentisiaethau@gllm.ac.uk.