Grŵp Llandrillo Menai a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cryfhau eu partneriaeth strategol i wella sgiliau, gyrfaoedd a chyfleoedd yng ngogledd Cymru
Ddoe (4 Rhagfyr 2025), llofnododd Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd, gan atgyfnerthu'r cydweithio sy'n digwydd rhyngddynt i ddarparu gwell hyfforddiant, sgiliau, a llwybrau gyrfa i bobl yng ngogledd Cymru.
Mae'r Memorandwm yn datblygu'r berthynas sydd wedi bodoli ers blynyddoedd rhwng sefydliad iechyd mwyaf Cymru ac un o golegau addysg bellach ac addysg uwch mwyaf llwyddiannus y Deyrnas Unedig.
Trwy sicrhau bod llwybrau addysg a hyfforddiant yn cyd-fynd ag anghenion gweithwyr gofal iechyd y rhanbarth, bydd y bartneriaeth yn canolbwyntio ar swyddi y mae galw mawr amdanynt ac sy'n anodd eu llenwi, yn ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg, ac yn cefnogi gwasanaethau allgymorth mewn cymunedau gwledig.
Bydd Grŵp Llywio Strategol newydd yn goruchwylio'r cytundeb, gan sicrhau bod y camau a gymerir yn arwain at fuddion mesuradwy i bobl a chymunedau gogledd Cymru.
Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:
"Mae'r cytundeb hwn yn cryfhau ac yn cyflymu'r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud gyda'n gilydd ers blynyddoedd lawer. Trwy gyfuno ein harbenigedd a'n hadnoddau, gallwn greu hyd yn oed mwy o gyfleoedd i bobl yng ngogledd Cymru i ennill sgiliau a chymwysterau, ac i fagu'r hyder sydd ei angen arnynt i ffynnu mewn swyddi hanfodol. Mae'n ymwneud â chreu gweithlu sy'n diwallu anghenion ein cymunedau ac yn eu gwasanaethu'n iawn."
Meddai Dr Griff Jones, Cadeirydd Bwrdd Llywodraethwyr Grŵp Llandrillo Menai:
"Mae'r coleg wedi ymroi i gefnogi iechyd a ffyniant ein rhanbarth. Mae'r bartneriaeth hon yn sicrhau bod gan ein dysgwyr – yn ymadawyr ysgol, yn brentisiaid, ac yn oedolion – lwybrau clir a chefnogol i'w dilyn i swyddi fydd yn rhoi diogelwch a boddhad iddynt gyda BIPBC. Mae hyn yn fuddsoddiad ar y cyd yn ein pobl, ein hiaith, a'n dyfodol."
Meddai Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Rydyn ni yn y Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi addysg a chyfleoedd datblygu i bobl ifanc yng ngogledd Cymru. Mae gennym ni weithlu mawr ac amrywiol a thrwy weithio'n agosach gyda Grŵp Llandrillo Menai gallwn helpu i hyfforddi a chyflogi mwy o bobl o'n cymunedau ein hunain i gefnogi gwasanaethau yn y dyfodol."
Meddai Dyfed Edwards, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
"Mae'r cytundeb hwn â Grŵp Llandrillo Menai yn dangos ein hymrwymiad i weithio gyda'n partneriaid i wella cyfleoedd hyfforddiant a chyflogaeth i bobl yr ardal. Bydd y bartneriaeth hon yn agor drysau i bobl leol, gan roi mynediad iddynt i addysg o ansawdd uchel, profiad ymarferol, a gyrfaoedd gwerth chweil yn y Gwasanaeth Iechyd. Mae'n fuddsoddiad yn ein cymunedau ac yn ein dyfodol."