Buddsoddi yn Nhalentau'r Dyfodol: ‘Academi’ Newydd yn Agor Llwybrau i'r maes Gofal, Therapi a Gwaith Cymdeithasol
Dan arweiniad y cyngor mae Cyngor Gwynedd a Busnes@LlandrilloMenai yn gweithio gyda'i gilydd ar gynllun cyffrous newydd sy'n hyfforddi unigolion i fod yn Rheolwyr Gofal, Therapyddion Galwedigaethol neu Weithwyr Cymdeithasol.
Mae Academi Gofal Gwynedd yn galluogi Cyngor Gwynedd i ddatblygu talentau'r dyfodol yn y proffesiwn gofal cymdeithasol drwy roi contract tair blynedd i unigolion i weithio yn y rheng flaen mewn lleoliadau gofal gan ennill cymwysterau dysgu seiliedig ar waith craidd yr un pryd. Yna gall yr hyfforddeion fynd ymlaen i astudio am gymwysterau pellach gan ddatblygu gyrfa ym maes rheoli gofal, therapi galwedigaethol neu waith cymdeithasol.
Ar hyn o bryd mae Academi Gofal Gwynedd yn gweithio gyda'r criw cyntaf o chwe dysgwr, a bydd y broses recriwtio ar gyfer yr ail griw yn agor yn Rhagfyr 2025.
Dwedodd Menna Trenholme – Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd Cyngor Gwynedd:
“Cyngor Gwynedd yw un o brif ddarparwyr gwasanaethau gofal yr ardal, ac mae'n cynnig cefnogaeth ar draws y gwasanaethau i blant, y gwasanaethau i oedolion ag anableddau dysgu, a'r gwasanaethau gofal preswyl a gofal yn y cartref. Golyga ehangder y ddarpariaeth ein bod yn gallu cynnig cyfleoedd gyrfa gwerth chweil i'r rhai sy'n frwd dros ofalu gan eu bod yn ymuno â ni ar gontract cychwynnol o dair blynedd. Ar yr un pryd maen nhw'n ennill cymwysterau cydnabyddedig, yn ennill cyflog, ac yn gweithio tuag at gael swyddi arbenigol yn y sector Gofal.
“Mae pawb yn gwybod bod darparu gofal i berson yn ei iaith gyntaf yn arwain at well canlyniadau. Felly rydyn ni'n falch o gynnig cyfleoedd hyfforddiant i bobl leol, gan ein galluogi i barhau i ddarparu gwasanaethau o safon uchel i aelodau mwyaf bregus ein cymunedau drwy gyfrwng y Gymraeg.”
Ar hyn o bryd mae'r hyfforddeion yn gweithio mewn sefydliadau amrywiol sy'n cynnwys Glynllifon, Canolfan y Gwystl, Cynllun Cymunedol Caernarfon, Plas Hedd, Hafan y Sêr a Than y Marian
Dywedodd Zara Jones, sy’n hyfforddai gydag Academi Gofal Gwynedd:
“Dw i ar leoliad gyda Chynllun Cymunedol Caernarfon, ac mae AGG wedi rhoi'r cyfle i mi weithio gyda'r Tîm Anableddau Dysgu mewn lleoliad gofal addas sy'n fy ngalluogi i wneud y math o waith dw i'n ei fwynhau.”
Ychwanegodd Sion Adams:
“Dw i'n mwynhau gweithio yng Nglynllifon a Chanolfan y Gwystl. Mae'r gwaith yn rhoi boddhad i mi a'r hyfforddiant yn fy helpu i adeiladu sylfaen gref ar gyfer fy ngyrfa.”
Mae Busnes@LlandrilloMenai yn gweithio gyda chyflogwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ledled gogledd Cymru i ddatblygu gweithwyr proffesiynol medrus a hyderus a all ddiwallu anghenion cynyddol y sector. Drwy gynnig cymwysterau dysgu seiliedig ar waith achrededig a hyfforddiant wedi'i deilwra mae Busnes@LlandrilloMenai yn helpu sefydliadau i gryfhau eu gweithlu ac yn cefnogi unigolion i ddatblygu gyrfaoedd gwerth chweil ym maes gofal, iechyd a llesiant.
Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr – Datblygiadau Masnachol:
“Y tîm Dysgu Seiliedig ar Waith yw un o'n prif asedau. Mae ein holl hyfforddwyr ac aseswyr yn weithwyr gofal proffesiynol a phrofiadol sydd bellach yn hyfforddi yn y gweithle ac yn defnyddio eu gwybodaeth am y sector a'u brwdfrydedd dros y maes gofal i roi'r gefnogaeth orau posib i'r dysgwyr. Maen nhw'n deall gofynion gofal rheng flaen ac wedi ymroi i helpu unigolion i feithrin y sgiliau a magu'r hyder sydd eu hangen arnynt i ddatblygu yn y diwydiant.
“Mae gan Busnes@LlandrilloMenai a Chyngor Gwynedd brofiad o weithio gyda'i gilydd i ddarparu hyfforddiant ymarferol o safon uchel sy'n diwallu anghenion ein cymunedau. Mae Academi Gofal Gwynedd yn adeiladu ar y bartneriaeth hon, gan greu llwybrau clir i yrfaoedd a ddaw â boddhad i'r dysgwyr ac a fydd yn eu helpu i gymryd eu camau cyntaf tuag at ddyfodol gwerth chweil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.”
Mae croeso i unrhyw un fynegi diddordeb yn y cyfleoedd a gynigir trwy Academi Gofal Gwynedd unrhyw bryd. Bydd y broses ymgeisio i fod yn rhan o'r criw nesaf o ddysgwyr yn agor ym mis Rhagfyr. Os ydych chi'n ystyried gyrfa ym maes gofal, ceir rhagor o wybodaeth ar-lein: www.gwynedd.llyw.cymru/AcademiGofalGwynedd
Nid oes angen profiad blaenorol i wneud cais; rhaid i'r ymgeiswyr fod yn frwdfrydig am helpu eraill a bod â'r awydd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Dylent fod yn 17+, bod a gradd C neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg a phasio gwiriad DBS.