Yn ddiweddar dychwelodd Morgandie Harrold i gampws Hafan Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli i rannu'r profiad o gael secondiad chwe mis gyda chwmni gwyliau Sunsail yn Dubrovnik, Croatia.
Newyddion
Darllenwch y straeon newyddion diweddaraf
Yn ddiweddar aeth myfyrwyr cyrsiau Amaeth a Thechnoleg Diwydiannau'r Tir yng Nglynllifon ar daith addysgol i Agritechnica yn Hannover yn yr Almaen i un o brif ddigwyddiadau peirianneg amaethyddol y byd.
Mae Prifysgol Wrecsam a Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU), mewn ymgais i gryfhau addysg a datblygu sgiliau, ehangu cyfranogiad a gwella cyfleoedd bywyd i bobl ifanc o bob rhan o Ogledd Cymru a thu hwnt.
Mae cyfle unigryw wedi'i estyn i fyfyrwyr peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor wrth iddynt baratoi at Gystadleuaeth Rasio STEM Gogledd Cymru, a arferai gael ei galw'n Gystadleuaeth F1 mewn Ysgolion. Mae tîm 'Rasio D.A.F.A.D' wedi cael cefnogaeth hael gan gwmni Rehau ym Mlaenau Ffestiniog i gymryd rhan yn y gystadleuaeth yn Ninbych fis Chwefror, ac mae campws CaMDA y coleg y tu ôl iddynt bob cam o'r ffordd.
Ddoe (4 Rhagfyr 2025), llofnododd Grŵp Llandrillo Menai (GLlM) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd, gan atgyfnerthu'r cydweithio sy'n digwydd rhyngddynt i ddarparu gwell hyfforddiant, sgiliau, a llwybrau gyrfa i bobl yng ngogledd Cymru.
Dan arweiniad y cyngor mae Cyngor Gwynedd a Busnes@LlandrilloMenai yn gweithio gyda'i gilydd ar gynllun cyffrous newydd sy'n hyfforddi unigolion i fod yn Rheolwyr Gofal, Therapyddion Galwedigaethol neu Weithwyr Cymdeithasol.
Mae Grŵp Llandrillo Menai wedi cyhoeddi enwau llysgenhadon blwyddyn academaidd 2025-26, bydd Lilly-May Adams yn Llysgennad Cenedlaethol dros Addysg Bellach a thri arall o'r coleg yn llysgenhadon Addysg Bellach.
Enillodd chwech o ddysgwyr o Goleg Menai, Coleg Llandrillo a Busnes@LlandrilloMenai fedalau yn rowndiau terfynol WorldSkills UK yn ne Cymru.
Mae Busnes@LlandrilloMenai yn dathlu'n dilyn eu llwyddiant yng Ngwobrau Cymdeithas Nyrsys Deintyddol Prydain a gafodd eu cynnal ym Manceinion y penwythnos hwn.
Mae'r cyn-brentis Aled Wynne Hamilton bellach yn rhedeg dau fusnes ar ochr arall y byd gyda'i wraig Jess.
Pagination
- Tudalen 1 o 106
- Nesaf