Guy Davies, un o’n cyn-fyfyrwyr Peirianneg, yn dangos pŵer llwybrau coleg
Mae un o gyn-ddysgwyr Coleg Llandrillo wedi bod ar daith broffesiynol drawiadol ers gorffen astudio, gan gymhwyso'r sgiliau a'r wybodaeth a gafodd yn ystod ei gyfnod yng Ngholeg Llandrillo i symud ymlaen o fewn y diwydiant peirianneg.
Mae Guy Davies, cyn-fyfyriwr Peirianneg Fecanyddol, yn enghraifft wych o sut y gall addysg mewn coleg agor drysau i yrfa beirianneg amrywiol a chyffrous.
Astudiodd Guy gwrs Peirianneg Fecanyddol Lefel 3 yn y coleg cyn symud ymlaen i gwrs HNC. Disgrifiodd amgylchedd y coleg fel trobwynt yn ei addysg a'i ddatblygiad proffesiynol.
Yn fwy diweddar, dychwelodd i'r coleg i gyflwyno her beirianneg i ddisgyblion Blwyddyn 9 Ysgol Uwchradd y Rhyl. Ysbrydolodd y genhedlaeth nesaf drwy eu hannog i ddatrys problemau ymarferol a chynnig golwg ar y diwydiant yn y byd go iawn.
“Dydych chi ddim yn cael eich trin fel plentyn yn y coleg,” eglura Guy. “Eich cyfrifoldeb chi ydy eich cynnydd, oherwydd rydych chi eisiau llwyddo. “Roedd y meddylfryd hwnnw'n siwtio’r ffordd dw i'n dysgu.”
Mae'n tynnu sylw at werth tiwtoriaid rhyngweithiol a ddaeth â gwybodaeth a phrofiad o'r diwydiant i'r ystafell ddosbarth, gan wneud y dysgu'n fwy ymarferol a pherthnasol na'i addysg yn yr ysgol. Roedd yr amgylchedd hamddenol, ond penodol ar gyfer y pwnc, yn caniatáu iddo ddysgu ar ei gyflymder ei hun wrth ddatblygu hyder, annibyniaeth a sgiliau datrys problemau.
Ochr yn ochr â'i astudiaethau, enillodd Guy ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy yn ystod ei gyfnod yn y coleg ac mewn gwahanol swyddi. Arweiniodd hyn at ddatblygu gyrfa drawiadol ac amrywiol. Dechreuodd ei fywyd gwaith yn Qipotic, gan gynnal gwasanaeth mecanyddol ar offer optegol, cyn symud i fyd ymchwil a datblygu meddygol, lle dysgodd am y broses gynhyrchu lawn, gan gynnwys profi, dadansoddi, dogfennu ac adrodd yn dechnegol.
Y sector awyrofod oedd y cam nesaf yn ei yrfa, lle'r oedd yn gweithio gyda thechnolegau sgraffiniol. Yn dilyn hyn daeth rôl mewn cwmni dadansoddi petrocemegol yng Nghonwy, yn dadansoddi samplau olew i ganfod problemau mecanyddol.
Yn ddiweddarach ymunodd Guy ag Atlas fel Technegydd Ymchwil a Datblygu. Yno gweithiodd ar ddatblygu ac asesu dyluniadau modurol newydd ar gyfer gweithgynhyrchwyr byd-enwog gan gynnwys Porsche, Ferrari, Bentley, Mercedes, Tesla, a McLaren.
“Roedd yn waith hynod ddiddorol,” meddai. “Rydych chi ar flaen y gad, yn datrys problemau go iawn ac yn cael effaith wirioneddol.”
Mae Guy bellach yn gweithio ym maes rheoli ansawdd, gan gysylltu â pheirianwyr mewnol a chwmnïau allanol wrth reoli prosesau ansawdd mewnol — cam arall sy'n adeiladu ar y sylfaen ymarferol a ddatblygodd yn y coleg.
Wrth edrych yn ôl ar ei daith, mae Guy yn credu bod y coleg yn chwarae rhan hanfodol wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer y gweithle.
“Mae'r coleg yn datblygu’r meddylfryd sydd ei angen arnoch chi. O 'mhrofiad i, y bobl sy'n dod trwy'r coleg ydy'r rhai mwyaf ymarferol a brwdfrydig yn aml, oherwydd eu bod wedi arfer rheoli eu hunain. Rydych chi'n dysgu sut i gymryd cyfrifoldeb, ac mae hynny'n eich paratoi ar gyfer y byd gwaith.”
Mae Guy yn frwd dros newid sut caiff peirianneg ei weld hefyd, yn enwedig o ran rhywedd yn y maes.
“Mae angen mwy o ferched ym maes peirianneg,” meddai. “Pan o'n i yn y coleg, roedd un ddynes yn y grŵp o 30. Mae sgiliau merched yn aml yn well ar gyfer peirianneg —maen nhw'n well am drefnu'u hamser, yn well am drefnu, ac yn well am roi sylw i fanylion. Mae peirianneg yn defnyddio'r un set o sgiliau creadigol â chelf, ond dydi pobl ddim yn sylweddoli hynny.”

Mae taith Guy yn dangos sut y gall addysg yn y coleg, ynghyd ag uchelgais a dysgu mewn ffordd ymarferol, arwain at yrfa beirianneg werth chweil ar draws sawl sector. Mae hefyd yn dangos pam mae angen i'r diwydiant fod yn fwy cynhwysol yn y dyfodol.
I gael gwybod rhagor am ein cyrsiau Peirianneg ewch i https://www.gllm.ac.uk/cy/cour...