Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Rhoi sylw i Brentis: McKenzie

Mae McKenzie yn brentis gyda chwmni RWE ac yn astudio yn y Gweithdy Tyrbinau Gwynt yn y Ganolfan Beirianneg ar ein campws yn y Rhyl. Trwy ei brentisiaeth, mae McKenzie yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn ynni adnewyddadwy â phrofiad mewn diwydiant yn y byd go iawn, gan ddatblygu'r sgiliau technegol a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa yn y sector peirianneg fecanyddol a thrydanol. ⁠

Beth wnaeth i ti ddewis prentisiaeth?

Mi wnes i ddewis prentisiaeth oherwydd ro'n i eisiau mynd i weithio'n syth yn hytrach nag aros mewn addysg amser llawn. Dw i'n dysgu'n llawer gwell mewn amgylchedd ymarferol ac mae'n well gen i ddysgu trwy wneud. Mi wnes i ddewis y diwydiant mecanyddol a thrydanol oherwydd fy mod i'n mwynhau gweithio gyda fy nwylo a deall sut mae pethau'n gweithio. Mae prentisiaeth yn caniatáu i mi ennill profiad ymarferol tra hefyd yn datblygu fy ngwybodaeth a'm cymwysterau, sef y llwybr gorau i fy ngyrfa yn y dyfodol.

Beth oeddet ti'n ei wneud cyn dechrau dy brentisiaeth?

Cyn dechrau fy mhrentisiaeth, ro'n i'n astudio cyrsiau TGAU yn Academi Syr Robert Pattinson, gan astudio pynciau yn cynnwys daearyddiaeth, busnes, lletygarwch ac arlwyo, ac addysg gorfforol. Y tu allan i'r ysgol, ro'n i'n gadet awyr gyda Sgwadron 1237 Gogledd Hykeham ac yn chwarae rygbi i Glwb Rygbi Pêl-droed Lincoln.

Pa sgiliau newydd wyt ti wedi'u datblygu ers dechrau?

Ers dechrau fy mhrentisiaeth, dw i wedi datblygu ystod eang o sgiliau newydd, yn enwedig mewn gwaith mecanyddol a thrydanol. Dw i wedi dysgu sut i ddefnyddio offer yn ddiogel ac yn gywir, dw i wedi datblygu dealltwriaeth o systemau mecanyddol a thrydanol, ac wedi gwella fy sgiliau datrys problemau drwy ddysgu sut i adnabod a thrwsio namau. Dw i hefyd wedi magu hyder, a dw i'n fwy cyfforddus yn gofyn cwestiynau a chymryd rhan mewn tasgau rŵan.

Pa gyfleoedd mae'r brentisiaeth wedi eu cynnig i ti?

Y cyfle mwyaf oedd cystadlu yn WorldSkills UK. Mi wnes i gymryd rhan yn y gystadleuaeth Ynni Adnewyddadwy genedlaethol rhwng 25–29 Tachwedd, gan gwblhau wyth tasg heriol dros ddau ddiwrnod caled. Roedd cystadlu ar lefel genedlaethol yn brofiad gwych, a dw i'n falch o fod wedi dod yn drydydd. Dw i'n gyffrous i weld pa gyfleoedd ddaw nesaf.

Pa gyngor fyddet ti'n ei roi i rywun sy'n ystyried gwneud prentisiaeth?

Os wyt ti eisiau dysgu wrth weithio, byddwn i'n bendant yn argymell prentisiaeth. Rwyt ti'n cael profiad go iawn wrth weithio tuag at gymhwyster. Hyd yn oed os nad oes gen ti lawer o brofiad i ddechrau, manteisia ar y cyfle. Os wyt ti'n barod i wrando, gofyn cwestiynau a gweithio'n galed, cer amdani! Oes gennych chi ddiddordeb mewn prentisiaeth?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn prentisiaeth?

Dysgwch ragor am ein rhaglenni prentisiaeth a chymerwch y cam cyntaf tuag at yrfa ymarferol.

Pagination