Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru

Mae Busnes@LlandrilloMenai wedi dathlu Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau drwy gydnabod cyflawniadau 18 o brentisiaid a chyflogwyr yn ystod Gwobrau Prentisiaethau Gogledd Cymru, a gynhaliwyd ar 4 Chwefror 2026 yn Venue Cymru.

Mae'r gwobrau blynyddol yn uchafbwynt y flwyddyn i Busnes@LlandrilloMenai, adran fasnachol Grŵp Llandrillo Menai, sy'n gyfrifol am brentisiaid, dysgu seiliedig ar waith a hyfforddiant diwydiannol a masnachol.

Mae'r gwobrau'n cydnabod rhagoriaeth mewn dysgu seiliedig ar waith a chyfraniad hanfodol prentisiaethau wrth ddatblygu sgiliau, cefnogi cyflogwyr, a chryfhau'r economi ranbarthol.

Mae'r enillwyr yn cynrychioli ystod eang o sectorau, oedrannau a chyfnodau gyrfa, gan ddangos y gall dysgu a datblygiad proffesiynol ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod gyrfa. Mae'r gwobrau'n tynnu sylw at sut mae prentisiaethau'n cynnig llwybrau ymarferol a hyblyg i ennill cymwysterau wrth barhau i weithio a chyfrannu yn y gweithle.

Mae fideos byr o bob un o enillwyr y gwobrau i'w gweld ar YouTube, yn disgrifio eu teithiau prentisiaeth a'r effaith y mae dysgu seiliedig ar waith wedi'i chael ar eu gyrfaoedd a'u busnesau.

Enillwyr Gwobrau 2026

Mally Tidswell – Prentis y Flwyddyn Rheoli

Kristin Parry – Prentis y Flwyddyn Cyfrifyddiaeth

Angharad Kellett – Prentis y Flwyddyn Gweinyddu Busnes, Manwerthu a Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Jen Small – Prentis y Flwyddyn Rheoli Iechyd a Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad

Simone Baldwin – Prentis y Flwyddyn Creadigol a Digidol

Nicola Joynson – Prentis y Flwyddyn Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Georgia Rimell – Prentis y Flwyddyn Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Lola Morris – Prentis y Flwyddyn Gofal Plant

Katie Baldwin – Prentis y Flwyddyn Lletygarwch

Lucy Edgeley – Prentis y Flwyddyn Hyfforddi Chwaraeon a Mentora

Catrina Scheltinga – Prentis y Flwyddyn Diwydiannau Tir

Elgan Jones – Prentis y Flwyddyn Peirianneg a Gweithgynhyrchu

Guto Williams – Prentis y Flwyddyn Adeiladu a Gwasanaethau Adeiladu

Anya Roberts – Prentis y Flwyddyn Cyflogadwyedd

Sian Eleri Morgan – Prentis y Flwyddyn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rheinallt Jones – Gwobr y Noddwr – Babcock

Dion Owen perchennog Moduron Felinheli – Gwobr y Cyflogwr Busnesau Bach a Chanolig

Darren Morris ar ran Cyngor Sir y Fflint – y Ddarpariaeth Ieuenctid Integredig, Addysg ac Ieuenctid - Gwobr y Cyflogwr

Pagination