Myfyriwr Chwaraeon o Goleg Llandrillo wedi'i ddewis i chwarae criced yn yr Uwch Gynghrair Anabledd
Mae Josh Brown, myfyriwr ar y cwrs Lefel 3 mewn Hyfforddi Chwaraeon yng Ngholeg Llandrillo a chricedwr brwd, wedi cael ei ddewis i chwarae criced yn Uwch Gynghrair Anabledd 2026.
Mae'r paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth eisoes ar droed, gyda Josh yn cymryd rhan mewn pedwar penwythnos hyfforddi rhwng Ionawr a Mawrth.
“Mae’n braf iawn cael cymryd rhan, a dw i'n falch o gynrychioli'r Uwch Gynghrair Anabledd,” meddai Josh, sy’n awtistig.
“Dw i wedi bod yn chwarae ers rhai blynyddoedd bellach, felly mae cael y cyfle hwn yn arbennig,” ychwanegodd.
Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) sy'n trefnu'r gystadleuaeth a chaiff 60 o chwaraewyr rhagorol o bob cwr o Gymru a Lloegr eu dewis ar gyfer pedwar tîm. Mae’r timau hyn wedyn yn cystadlu dros dair rownd i gyrraedd y rownd derfynol ar faes criced proffesiynol Hampshire ym mis Medi 2026.
Mae'r timau yn yr Uwch Gynghrair Anabledd yn gymysgedd o athletwyr ag anableddau dysgu, anableddau corfforol neu amhariad ar y clyw. Mae'r twrnamaint yn cael ei ystyried yn llwybr i garfan anabledd Lloegr, a dyma'r lefel ddomestig uchaf yn y byd o griced i'r anabl!
“Bod yn y tîm cenedlaethol ydi'r nod. Dyna’r cam nesaf i mi, a byddai’n anhygoel cyflawni hynny ryw ddydd,” eglurodd Josh.
Myfyriwr deunaw oed ar flwyddyn gyntaf y cwrs Lefel 3 dwy flynedd mewn Hyfforddi Chwaraeon ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos yw Josh ac mae wedi mwynhau cael y cyfle i chwarae criced yn y coleg. “Mae’n gamp eithaf arbenigol ymhlith myfyrwyr,” eglurodd. “Mae fy nhiwtoriaid wedi bod yn gefnogol iawn ac wedi rhoi amser i’n helpu ni. Maen nhw'n dangos diddordeb go iawn yn yr hyn rydyn ni'n ei wneud."
Mae astudio yn y coleg wedi rhoi'r hyder oedd ei angen ar Josh i ddilyn ei freuddwyd o ddod yn gricedwr proffesiynol.
“Mae’r cwrs wedi gwella llawer ar fy hyder a fy sgiliau cymdeithasol. Mae hynny'n gallu bod yn heriol i bobl ag awtistiaeth, ac mae wedi fy helpu i fod yn fwy rhagweithiol,” meddai.
“Fy nghyngor i unrhyw un ag anabledd sy’n ystyried cymryd rhan mewn chwaraeon fyddai i fynd amdani a rhoi cynnig ar beth bynnag yr hoffech chi ei wneud. Peidiwch â bod yn swil – mae pobl yn groesawgar iawn. Os byddwch chi'n rhoi cynnig arni, byddwch chi mewn lle da i ddod o hyd i rywbeth rydych chi wir yn ei fwynhau.”
“Peidiwch â phoeni bod eich anabledd am eich rhwystro – fydd o ddim.”
Os hoffech chi ddysgu rhagor am gyrsiau chwaraeon Grŵp Llandrillo Menai a'r cyfleoedd gyrfa y gallant eu cynnig, ewch i: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/sport-and-outdoor-education