Cyn-fyfyrwyr peirianneg forol yn cynllunio teithiau gyrfa proffidiol
Mae myfyrwyr diweddar bellach ar eu ffordd i gymhwyso fel swyddogion, neu'n gweithio ar longau hwylio ysblennydd ledled y byd
Mae myfyrwyr diweddar y cwrs Peirianneg Forol ar eu ffordd i yrfaoedd proffidiol a gwerth chweil, diolch i'r sgiliau a ddatblygwyd ganddynt yng Ngholeg Llandrillo.
Mae'r cyn-fyfyrwyr bellach yn dilyn cadetiaethau fydd yn arwain at gymhwyso fel swyddogion dec, swyddogion peirianneg neu swyddogion electrodechnegol, ac mae rhai yn anelu at fod yn gapteiniaid yn ennill hyd at £100,000 y flwyddyn!
Mae eraill yn gweithio ar longau hwylio ysblennydd, yn teithio'r byd wrth ennill profiad a chymwysterau ychwanegol fydd yn rhoi hwb i'w gyrfaoedd.
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n cynnig cyrsiau Peirianneg Forol ar Lefel 2 ac ar Lefel 3 sy'n paratoi myfyrwyr ar gyfer cyfleoedd diderfyn o fewn y sector.
Mae'r ddau gwrs yn datblygu sgiliau fel peirianneg forol, adeiladu cychod, cynnal a chadw cychod hwylio, a mordwyo, yn ogystal â chynnig y cyfle i ennill rhestr hir o gymwysterau safonol y diwydiant yn ychwanegol, gan gynnwys cymwysterau cydnabyddedig RYA ar gyfer gyrru cychod modur a chychod hwylio.
Yma, mae tri o gyn-fyfyrwyr diweddar o gyrsiau Peirianneg Forol Coleg Llandrillo yn siarad am sut y gwnaeth y Coleg helpu i'w rhoi ar lwybrau gyrfaoedd eu breuddwydion.
Sarah Langton (cadét swyddog dec)
Mae Sarah Langton yn ei hail flwyddyn o gadetiaeth swyddog dec gyda British Petroleum (BP). Mae hi ar ei ffordd i gymhwyso fel trydydd swyddog dec, ac yn gobeithio gweithio ei ffordd i fyny i fod yn gapten un diwrnod.
Gall trydydd swyddog dec ennill tua £40,000 y flwyddyn - ac nid oes rhaid i'r rhan fwyaf dalu treth ar eu henillion, tra bod capteiniaid yn gallu ennill cyflogau o fwy na £100,000.
Ar ôl penderfynu newid cyfeiriad yn llwyr o'i chwrs prifysgol, roedd Sarah yn teithio o Benbedw i gampws Llandrillo-yn-Rhos dridiau'r wythnos ar gyfer ei chwrs Peirianneg Forol Lefel 2 a 3.
Meddai: “Mi wnes i gwrs ddylunio mewnol yn y brifysgol ond do'n i ddim yn ei fwynhau, ac mi wnes i adael ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Mi welais i'r cwrs yng Ngholeg Llandrillo pan ddaeth i fyny ar hap wrth i mi sgrolio. Ro'n i'n arfer bod eisiau gweithio ar longau mordeithio gan fy mod i eisiau teithio, felly dyma fi'n meddwl, 'Mi ro' i gynnig arni'.
“Yn ystod yr wythnos gyntaf ro'n i'n meddwl 'Be dw i'n ei wneud?' ond o fewn ychydig ddyddiau ro'n i wrth fy modd hefo pob munud.”
Canmolodd Sarah y darlithydd a'r arweinydd rhaglen Andy White, y goruchwyliwr sgiliau Jim Lehane, a'r technegydd/asesydd Fraser Longbone, am fwydo ei brwdfrydedd.
“Roedd gan Andy, Jim a Fraser brofiadau gwahanol a gwybodaeth wahanol, ond roedden nhw i gyd yn angerddol am ddŵr a chychod, ac mae'r angerdd hwnnw yn trosglwyddo i chi,” ychwanegodd.
“Roedd y tri yn buddsoddi eu hamser ynoch chi, ac roedden nhw’n croesawu camgymeriadau fel rhan o’r broses ddysgu.”
Dywedodd Sarah fod y sgiliau a ddysgodd yn Llandrillo-yn-Rhos wedi rhoi mantais iddi o gymharu â rhai o'i chyfoedion ar ddechrau ei chadetiaeth.
“Er fy mod i wedi mynd ar y dec yn hytrach nag i'r ochr beirianneg, mae’r sgiliau rydw i wedi’u dysgu wedi bod yn werthfawr iawn i mi,” meddai.
“Roedd rhai pobl yn dechrau'r cwrs heb wybod dim byd, ond ro'n i eisoes wedi dysgu llawer o’r derminoleg, pensaernïaeth forwrol ac ati. Rydyn ni wedi gwneud uned ar beirianneg oherwydd mae'n rhaid i ni wybod am hynny o hyd, felly roedd gen i'r sylfaen wybodaeth honno eisoes, ac mae wedi bod yn gam da iawn ymlaen.”
Craig Parry (cadét peiriannydd iau)
Mae Craig Parry, o Lysfaen ym Mae Colwyn, yn gadet peiriannydd iau gyda chwmni rheoli llongau Anglo-Eastern, a noddir gan y cwmni llongau Unity.
Sicrhaodd ei gadetiaeth yn 18 oed ar ôl cwblhau cyrsiau Peirianneg Forol Lefel 2 a Lefel 3 yng Ngholeg Llandrillo. Bellach yn 20 oed, bydd yn fuan wedi cymhwyso fel Pedwerydd Peiriannydd gyda chyflog cychwynnol deniadol.
“Mae'r bechgyn dw i’n eu hadnabod yn ennill £34,000 ar ôl cymhwyso, ac mi allwch chi wneud hyn mor ifanc â 21, 22,” meddai. “Dw i ar longau môr dwfn, ac oherwydd ein bod ni’n treulio chwe mis allan o’r wlad dydych chi ddim yn talu treth incwm.
“Yn ystod y gadetiaeth, rydych chi'n cael lwfans hyfforddi o £600 y mis. Ar y llong mae popeth wedi'i gynnwys - eich rhent, eich bwyd ac ati. Felly rydych chi'n cael eich talu digon i fwyta'n eithaf cyfforddus a bod yn hapus - mae'n bendant yn werth chweil.”
Yn ystod ei gyfnod fel cadét, mae Craig wedi manteisio i'r eithaf ar ei gyfnod ar y lan, gan ddweud: “Dw i wedi bod yn lwcus iawn. Rydw i wedi bod ar swmpgludwyr y rhan fwyaf o'r amser yn cludo glo - roedden ni'n dilyn y cyhydedd felly roedd hi'n boeth ac yn llaith drwy'r amser ac roedd gennym ni lawer o amser i ffwrdd ar y lan.
“Es i o Lerpwl i Singapore i Fietnam, ac i dair talaith yn Awstralia. Mi ges i gyfanswm o fis a hanner i ffwrdd oddi ar y llong yn Awstralia. Mi ges i gyfle i fynd ar y lan yn Seland Newydd hefyd, a dringo Mynydd Maunganui - llosgfynydd marw a safle cysegredig Maori.
“Roedd hynny i gyd yn ystod fy mhum mis cyntaf ar y môr - a ro'n i ar longau araf. Mae rhai pobl yn dyblu'r cyflymder ac yn gweld hyd yn oed mwy o'r byd.”
Cafodd Craig ei gyflwyno i Beirianneg Forol am y tro cyntaf trwy'r rhaglen Lefel 1, gan dreulio un diwrnod yr wythnos yn y coleg tra roedd yn dal yn yr ysgol.
Dywedodd: “Y dewis oedd gosod brics, plastro a pheirianneg forol, a dewisais i beirianneg forol.
“Roedd y cwrs yn wych. Mae Jim a Fraser ill dau yn sêr. Ro'n i'n fachgen eithaf direidus yn yr ysgol ond fe wnaeth Jim fy nghywiro i!"
Yna ymunodd â'r rhaglen amser llawn, gan astudio Lefelau 2 a 3 dros ddwy flynedd.
“Do' i ddim yn hoffi ystafelloedd dosbarth ond ro'n i'n mwynhau gydag Andy,” meddai. “Y gweithgareddau rydych chi'n eu gwneud, y profiad ymarferol - mi wnaethon nhw bopeth o fewn eu gallu i'w wneud mor ddiddorol â phosibl.”
“Y ffordd mae'r cwrs wedi’i drefnu, peirianneg forol ydy o, ond rydych chi’n gwneud popeth – gwaith siartiau, llanw… yr holl bethau sydd eu hangen arnoch chi os ydych chi’n mynd i fod yn swyddog dec a gyrru’r llong. Felly rydych chi'n cael syniad da o bopeth i'ch helpu chi i benderfynu beth rydych chi am ei wneud.”
Harri Would (decmon a gyrrwr lansio)
Ers gorffen yn y coleg ddwy flynedd yn ôl, mae Harri Would wedi gweithio fel decmon ar longau hwylio ysblennydd o gwmpas Môr y Canoldir. Pan nad yw ar y môr, mae'r dyn 21 oed hefyd yn gweithio fel gyrrwr lansio i Glwb Hwylio Caergybi.
Astudiodd Harri Beirianneg Forol Lefel 2, ac fel rhan o'r cwrs cafodd y cyfle i gwblhau cymwysterau eraill yn y diwydiant fel tystysgrif Lefel 2 Cymdeithas Hwylio Frenhinol (RYA) mewn Cychod Modur.
“Y dystysgrif Cychod Modur Lefel 2 wnaeth sicrhau fy swydd i mi yma yn y clwb hwylio, tra bod fy swydd gyntaf ar gwch hwylio oherwydd eu bod nhw’n cydnabod y cymhwyster City & Guilds mewn Peirianneg Forol,” meddai. “Mae’r cwrs yn ddechrau gwych i bobl sydd eisiau gweithio ar gychod, ac fe agorodd ddrysau.”
Mae Harri yn falch ei fod wedi cymryd y cam cyntaf a chofrestru yng Ngholeg Llandrillo, er ei fod yn golygu taith o 88 milltir o'i gartref yng Nghaergybi i gampws Llandrillo-yn-Rhos ac yn ôl, dridiau'r wythnos.
“Ro'n i wedi gwneud fy mlwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth, ond do'n i ddim yn mwynhau,” eglurodd. “Daeth fy nhad, sy’n gweithio yn y diwydiant, o hyd i’r cwrs a’i awgrymu i mi.
“Roedd yn ddrud oherwydd fy mod i’n teithio o Gaergybi, ond roedd yn werth chweil. Dysgais lawer ac roedd yn amgylchedd da i fod ynddo. Mi wnes i fwynhau bod yno'n fawr iawn. Mi ges i'r swydd yn y clwb hwylio drwy fod ar y cwrs, oherwydd bod Andy wedi dweud eu bod nhw'n chwilio am rywun yn y marina.”
Fel decmon, gall Harri ennill hyd at £3,000 y mis, ac nid oes rhaid iddo dalu am fwyd na llety.
“Mae’n anhygoel,” ychwanegodd. “Dw i’n cael teithio’r byd a hynny mewn moethusrwydd. Gwaith ydy o, nid gwyliau, ond rydw i wedi bod yn Barcelona, Gibraltar, yr Eidal, Cyprus, Gwlad Groeg, Croatia, Montenegro, a Malta.”
Mae Harri wedi ychwanegu nifer o gymwysterau hwylio at ei CV ac mae hefyd wedi cymhwyso fel uwch sgwba-ddeifiwr.
Dywedodd: “Fy nghynllun i ydy dringo’r ysgol o weithio ar y dec, a gobeithio bod yn gapten un diwrnod.”
Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau Peirianneg Forol ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos ac ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor ym Mhwllheli. Dysgwch ragor yma neu ewch i www.gllm.ac.uk/cy/courses/marine-technology