Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr arlwyo o Goleg Menai yn pobi pitsas yn y Swistir

Cafodd Ruben Schlegel Evans, myfyriwr ar y cwrs Lefel 1 mewn Arlwyo a Lletygarwch ar gampws Coleg Menai ym Mangor, brofiad gwaith gwerthfawr mewn bwyty Eidalaidd yn y Swistir dros wyliau'r Nadolig.

Roedd Ruben, o Gaernarfon, yn gweithio yn Degustibus Cosa Nostra, y pizzeria hynaf yn nhref Mels, canton St Gallen, sydd wedi bod yn gwasanaethu'r gymuned leol ers dros 30 mlynedd. Yn y bwyty, mae pizzeria 22 sedd a trattoria 26 sedd, gyda chegin ganolog.

Dan arweiniad y prif gogydd Tabitha, paratôdd Ruben does pitsa ffres ar gyfer tua 150 o bitsas, gan ddysgu pwyso, cymysgu, tylino a rhannu'r toes yn ddognau i'w weini bob dydd. Cynhyrchodd tua 300 o dwmplenni gnocchi o'r un maint ar gyfer bwydlenni cinio a gyda'r nos y trattoria hefyd, gan ennill profiad o safonau cegin broffesiynol mewn lleoliad rhyngwladol.

Meddai Ruben:

“Mi wnes i fwynhau’r profiad yn Degustibus Cosa Nostra yn arw, gan weithio gyda Tabitha a’r tîm, a gweld sut maen nhw’n paratoi gyda chynhwysion ffres bob dydd, i goginio prydau bwyd anhygoel. Roedd y sylw i fanylion yn y gegin ac wrth weini o'r radd flaenaf, maen nhw'n gwybod sut i ofalu am eu cwsmeriaid.”

Tra oedd yno, cyfarfu Ruben hefyd â pherchennog y bwyty, neb llai na Danilo Sangrigoli, sydd wedi bod yn bencampwr y byd am bobi pitsas fwy nag unwaith. Mae Danilo wir yn gwybod sut i ddewis y cynhwysion gorau, gwneud y toes perffaith, a siapio a phobi'r pitsas i berffeithrwydd.

Meddai Ruben: “Dw i wedi bod yn gweithio yn y Black Rock Beach Club ym Morfa Bychan dros yr haf, a dw i wedi mwynhau’n arw. Mae'r tîm yn y Black Rock Beach Club, dan arweiniad y cogydd Dan Mayers sydd wedi ennill gwobrau am ei waith fel cogydd, wedi bod yn groesawgar iawn. Dw i wir wedi mwynhau'r profiad, roedd yn wych gweld sut mae'r gegin yn perfformio i safon uchel o dan arweiniad Dan, sydd wedi dilyn llwybr tebyg i'r un yr hoffwn ei ddilyn ac wedi gweithio i’r Gordon Ramsay Group, Manchester City FC Tunnel Club a Grand Prix Prydain. Dw i'n edrych ymlaen at fod nôl yn y gegin gyda'r tîm pan fyddan nhw'n agor ar ôl y gaeaf .

“Gweithio yn y Black Rock Beach Club oedd fy nghyfle cyntaf i weithio mewn cegin broffesiynol. Roedd fy nyletswyddau cyntaf yn cynnwys coginio llawer o bitsas dros yr haf yn y popty pitsa awyr agored a hefyd yn y gegin. Felly, roedd cael y cyfle i ehangu fy ngwybodaeth am bobi pitsas mewn Pizzeria a Trattoria Eidalaidd traddodiadol yn gam gwych i mi ddysgu hyd yn oed mwy.”

Yn y llun uchod, o'r chwith i'r dde, Ruben, David, Jamie, Dan, Brenig a Leaire.

Ychwanegodd Ruben, “Roedd fy niddordeb mewn coginio wedi ei gyfyngu i goginio cartref tan eleni, dw i’n hoffi cofnodi fy ymdrechion ar fy nhudalen Instagram “Ruben Loves to Cook”. Ond mae profiad yng ngheginau proffesiynol y Black Rock Beach Club a Degustibus Cosa Nostra ac yn y Caban ar gampws Coleg Menai wedi tanio fy angerdd dros goginio hyd yn oed yn fwy.

Dw i'n mwynhau'r her a'r cyfle i allu dysgu a datblygu fy sgiliau coginio ymhellach yn y coleg. Dw i wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi ymgartrefu yn y coleg gyda fy nghyd-fyfyrwyr a'r criw yn y gegin.

Os hoffech chi gael gyrfa yn y Diwydiant Lletygarwch ac Arlwyo, ewch i'n gwefan i gael gwybod rhagor am y cyrsiau sydd ar gael: https://www.gllm.ac.uk/cy/courses/hospitality-and-catering

Pagination