Grŵp Llandrillo Menai ar y Blaen wrth Ddatblygu Addysg Ddwyieithog yng Nghymru
Mae adnoddau a chynlluniau hyfforddi newydd yn cyfrannu at gyrraedd targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2025.
Grŵp Llandrillo Menai, mewn partneriaeth ag Addysg Oedolion Cymru, Coleg Gwent, Coleg Pen-y-bont, Coleg y Cymoedd, a Choleg Merthyr Tudful, sy'n arwain y prosiect addysgu dwyieithog sy'n helpu i lunio dyfodol addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghymru.
Mae'r adnoddau newydd, a lansiwyd heddiw, wedi'u hanelu at ddarlithwyr ym maes Teithio a Thwristiaeth, Lletygarwch, a Gwallt a Harddwch ym mhob cwr o Gymru. Dyma ben llanw sawl blwyddyn o gydweithio a ariannwyd drwy'r Gronfa Dysgu Proffesiynol (PLF). Bwriad y llyfrynnau yw codi hyder darlithwyr i addysgu'n ddwyieithog, hyd yn oed y rhai hynny nad ydynt yn siaradwyr Cymraeg rhugl.
Mae Grŵp Llandrillo Menai'n flaenllaw ym maes addysg ddwyieithog ac wedi bod ar flaen y gad wrth hyrwyddo dwyieithrwydd yn y sector addysg bellach yng Nghymru. Fel arweinydd y prosiect, mae'r sefydliad wedi bod yn allweddol wrth gefnogi targed uchelgeisiol Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2025.
"Rydyn ni'n falch eithriadol o'r cynnydd sydd wedi'i wneud drwy'r cynllun," meddai Angharad Roberts, Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd Grŵp Llandrillo Menai. "Mae'r prosiect wedi bod yn enghraifft ardderchog o gydweithio ac arloesi, gan rymuso addysgwyr ledled Cymru i ymgorffori'r Gymraeg yn eu harferion addysgu. Rydyn ni'n edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol a gaiff y llyfrynnau hyn ar ein haddysgwyr, ein dysgwyr, a'r gymuned Gymraeg ehangach."
Meddai Michelle Kerswell, Pennaeth Cwricwlwm ac Ansawdd Addysg Oedolion Cymru,
"Mae Addysg Oedolion Cymru yn falch iawn o gael gwahoddiad i ymuno â'r lansiad heddiw. Mae'r prosiect PLF, dan arweiniad Grŵp Llandrillo Menai, wedi galluogi ein sefydliadau i gydweithio ar waith hollbwysig i gefnogi Cymraeg 2050.
"Mae'r cydweithio wedi golygu y bydd gan ein staff addysgu ystod o adnoddau cyd-destunol i helpu i gefnogi eu hymarfer dwyieithog wrth ddysgu oedolion. Mae'r digwyddiad hwn yn enghraifft arall o waddol y prosiect a'r hyn y gellir ei gyflawni drwy weithio ar y cyd a rhannu arferion da. Rydyn ni'n hynod falch o gael bod yn rhan o'r holl beth."
Meddai Arwel Rees-Taylor, Rheolwr Datblygu Dwyieithrwydd Coleg Gwent,
"Mae Coleg Gwent yn falch ei fod wedi bod yn rhan o'r cynllun partneriaeth pwysig hwn a arweiniwyd gan GLlM. Mae'r prosiect wedi ein galluogi i ddatblygu ein dulliau addysgu dwyieithog ymhellach mewn ffordd sy'n rhoi cefnogaeth wirioneddol i'n staff a'n dysgwyr. Drwy rannu arbenigedd a chreu adnoddau ymarferol rydyn ni wedi gallu adeiladu hyder staff i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn eu gwersi. Dyma waith sy'n dangos sut y gall cydweithio rhwng sefydliadau gael effaith ymarferol a pharhaol. Mae'r prosiect wedi meithrin cymuned ymarferol sy'n dal i ddatblygu, ac edrychwn ymlaen at ei gweld yn parhau i gael dylanwad ar y sector."
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf crëwyd hefyd 13 o gyrsiau e-ddysgu i gynyddu sgiliau addysgol ac ymwybyddiaeth ieithyddol, cynhaliwyd cwrs preswyl pwrpasol yng Nglan-llyn, a rhoddwyd cyfleoedd ar waith i staff allu rhannu eu harferion da.
Esboniodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:
"Mae'r gwaith wedi cael effaith ymarferol ar y ffordd y mae addysgwyr yn mynd ati i addysgu'n ddwyieithog. Yn ôl y tiwtoriaid mae ganddyn nhw fwy o hyder i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u myfyrwyr ac maen nhw wedi newid sut maen nhw'n cynllunio ac yn cyflwyno eu gwersi. Ar ben hynny, mae diwylliant o gydweithio a rhannu arferion da rhwng sefydliadau wedi cael ei sefydlu.
“Mae'r prosiect eisoes yn cael effaith ar y sector. Drwy'r rhwydwaith gydweithio, mae addysgwyr wedi meithrin cysylltiadau parhaol ac wedi datblygu adnoddau a fydd yn parhau i gefnogi staff addysgu ymhell ar ôl i'r prosiect ddod i ben yn swyddogol."
Cewch wybod rhagor am Sgiliaith a'r adnoddau sydd ar gael yma: gllm.ac.uk/sgiliaith