Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentis o Ogledd Cymru'n Ennill Gwobr Prentis y Flwyddyn 2026

Yng Ngwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru, a gynhaliwyd yn Venue Cymru ar 4 Chwefror, cyhoeddwyd mai Malcolm Tidswell o Wasanaethau Hamdden Ffit Conwy oedd enillydd Gwobr Prentis y Flwyddyn 2026.

Mae'r gwobrau'n dathlu rhagoriaeth ym maes prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith a daw cyflogwyr, prentisiaid, noddwyr a darparwyr hyfforddiant o bob cwr o'r rhanbarth at ei gilydd i gyflwyno 18 gwobr i ddathlu cyflawniad, ymroddiad ac effaith yn y gweithle.

Tra hefyd yn gweithio'n llawn amser enillodd Malcolm gymhwyster Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli:

"Mae fy mhrentisiaeth wedi cael effaith go iawn ar y ffordd rydw i'n gweithio. Roedd gallu rhoi'r hyn roeddwn i'n ei ddysgu ar waith yn y gweithle yn fy helpu i fagu hyder, i gryfhau fy sgiliau arwain, ac i feddwl yn fwy strategol am sut roeddwn i'n rheoli timau a gwasanaethau.

"Yn fy swydd yn Ffit Conwy mae'r brentisiaeth wedi fy helpu i ddatblygu cynlluniau strategol ac i gefnogi fy nghydweithwyr yn well i ddatblygu a chael hyfforddiant pellach. Mae wedi bod yn brofiad gwerthfawr, yn broffesiynol ac yn bersonol. Yn sicr byddwn yn annog eraill i ystyried gwneud prentisiaeth fel ffordd o ddatblygu fel arweinydd ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y gwaith."

Wrth siarad yn y gwobrau dywedodd Gwenllian Roberts, Uwch Gyfarwyddwr – Datblygiadau Masnachol Busnes@LlandrilloMenai: ⁠

"Prentisiaid yn meithrin sgiliau, hyder a'r gallu proffesiynol i lwyddo yn y gweithle sydd wrth galon y gwobrau hyn. Dibynna eu llwyddiant ar gyflogwyr sy'n cefnogi prentisiaid i ddatblygu ac i ysgwyddo cyfrifoldebau go iawn yn eu swyddi. Mae'r bartneriaeth rhwng unigolion, busnesau a darparwyr hyfforddiant yn ffordd i fusnesau gadw pobl dalentog a datblygu eu capasiti. Yn ei dro mae hyn yn creu'r gweithlu medrus sydd ei angen i gefnogi twf yn economi gogledd-orllewin Cymru."

Cefnogir Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru gan Babcock, eu prif noddwr, ynghyd â'r noddwyr lleol Carelink Homecare Services Ltd, Snowdonia Leisure (perchnogion y Royal Oak, Betws-y-coed), Heler Foods Ltd, Portmeirion, Arlwyo a Glanhau NEWydd, CITB, Dŵr Cymru, Adra, Cartrefi Conwy, Rehau, Cwmni Egino, Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru'n cydnabod llwyddiant unigolion, y cyflogwyr sy'n cefnogi dysgu seiliedig ar waith, a'r darparwyr hyfforddiant sy'n darparu prentisiaethau ledled y rhanbarth, gan gynnwys Busnes@LlandrilloMenai, Achieve More Training a COPA.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn prentisiaethau neu ddysgu seiliedig ar waith fe hoffem ni glywed gennych chi – manylion bellach ar gael yma: www.gllm.ac.uk/prentisiaethau

Pagination