Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Prentisiaeth Tyrbinau Gwynt cyntaf y DU!

Mae prentis Trwsio Llafnau Tyrbinau Gwynt cyntaf y DU wedi dechrau ar ei hyfforddiant yn unig Ganolfan Hyfforddi Tyrbinau Gwynt Cymru, wedi ei lleoli ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Bydd Niall Mirza, sy'n 27 oed ac o Fae Colwyn (WTG Offshore) yn treulio blwyddyn gyntaf o dair ei brentisiaeth yn hyfforddi ar safle'r coleg, cyn torri ei ddannedd yn gweithio ar dyrbinau gwynt ar y môr - ffynhonnell ynni adnewyddadwy fwyaf Cymru - am y ddwy flynedd sy'n weddill.

Ef yw'r myfyriwr cyntaf i astudio am y brentisiaeth hon y DU... ac efallai'r byd! Dywedodd Niall: "Rwy'n hynod gyffrous i fod y person cyntaf i astudio am y brentisiaeth hon yn y DU. Mae'n wych bod yn rhan o ddiwydiant sydd mor bwysig, yn enwedig ar hyn o bryd."

Ymunodd wyth prentis Tyrbinau Gwynt (gweithredu a chynnal a chadw) o RWE â Niall yn y ganolfan ynni adnewyddadwy arbenigol yr wythnos hon, gan ddod â chyfanswm yr holl brentisiaid i 31. Bydd pedwar o recriwtiaid newydd eleni wedi eu lleoli yng Ngwastadeddau'r Rhyl yn y pen draw, a phedwar arall yn Grimsby.

Yn dilyn menter gydweithredol rhwng Grŵp Llandrillo Menai a WTG Offshore dros y chwe mis diwethaf, mae’r brentisiaeth Trwsio Llafnau wedi dod yn realiti, a bydd nawr yn cael ei chynnal ochr yn ochr â phrentisiaeth Technegydd Tyrbinau Gwynt grŵp y colegau sydd eisoes yn hynod lwyddiannus.

Esboniodd Mike Hodgson, sylfaenydd WTG Offsore a Phrif Weithredwr cangen yr UDA: “Bydd Niall yn brentis am y tair blynedd nesaf. Bydd yn treulio rhan fwyaf o'i flwyddyn gyntaf yn yr ystafell ddosbarth yn dysgu hanfodion allweddol: o drwsio llafnau, i lunio adroddiadau, ac iechyd a diogelwch. Bydd yn symud i weithio yn y maes yn ystod ei ail a’i drydedd flwyddyn, ac yn rhoi'r wybodaeth y mae wedi’i dysgu yn y dosbarth i ddefnydd ymarferol gan gynnal asesiadau atgyweirio ar lafnau amrywiol.”

Meddai hyfforddwr ac aseswr Coleg Llandrillo ym maes Tyrbinau Gwynt, Marc McDonough: “Rydym yn falch iawn o groesawu Niall i’r ganolfan, ac yn dymuno’r gorau iddo ar gyfer y dyfodol. Rydym hefyd yn falch iawn o gael parhau i weithio mewn partneriaeth â RWE Renewables i hyfforddi pobl ifanc ar gyfer y diwydiant ynni adnewyddadwy hwn sy'n prysur dyfu. Mae gennym raglen brentisiaeth lwyddiannus ar gyfer ynni hydro, ynni gwynt ar y môr ac ynni gwynt ar y tir ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'n partneriaid yn y diwydiant am lawer o flynyddoedd eto."

Lansiodd Prif Weinidog Cymru, y Gwir Anrhydeddus Carwyn Jones AC, y rhaglen brentisiaeth gyntaf yn y wlad i dechnegwyr ym maes tyrbinau gwynt ym mis Rhagfyr 2012, ynghyd â chanolfan hyfforddi bwrpasol ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Am ragor o wybodaeth am y prentisiaethau ym maes Tyrbinau Gwynt a gynigir yng Ngholeg Llandrillo, cysylltwch â thîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y Coleg ar 01492 542 338.

Gwefan: www.gllm.ac.uk

E-bost: ymholiadau.llandrillo@gllm.ac.uk