Myfyrwyr Ffilm a Theledu yn Mynychu Dosbarth Meistr BBC
Cafodd myfyrwyr ar gampws Coleg Menai yn Llangefni yn ddiweddar y pleser o dderbyn dosbarth meistr dau ddiwrnod gan gomisiynwyr teledu BBC Cymru Wales
Arweiniwyd y sesiynau gan y Pennaeth Comisiynu, Nick Andrews, ynghyd â'r Comisiynwyr Siân Harries a Sorelle Neil.
Ar ddiwrnod un cafwyd cyflwyniad i'r broses gomisiynu yn BBC Cymru Wales, lle cafodd y myfyrwyr ganllawiau ynglŷn ag ennill comisiwn. Gorffennodd y gweithdy gyda sesiwn Cwestiwn ac Ateb, lle roedd myfyrwyr yn medru holi'r comisiynwyr ynglŷn a'r diwydiant Ffilm a Theledu, a gweithio yn y BBC.
Roedd yr ail sesiwn yn edrych mewn dyfnder ar y strategaeth y tu hwnt i "A killing in Tiger Bay", cyfres ddogfen ar lofruddiaeth a ddigwyddodd yng Nghaerdydd. Rhoddwyd cyfle hefyd i'r myfyrwyr i holi cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn hwn.
Eglurodd Paul Edwards, Arweinydd Maes Rhaglen y Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Menai:
"Diolch i chi BBC Cymru Wales am ymweld â'n myfyrwyr a chyflwyno'r sesiynau rhyngweithiol hyn. Roeddent yn ddau ddiwrnod diddorol tu hwnt ac yn cynnig mewnwelediad i'r maes, ac rydym yn edrych ymlaen at gyd weithio".
Ychwanegodd, "Dyma un o'r nifer o weithgareddau ac ymweliadau a gynlluniwn ar gyfer ein myfyrwyr ar hyd y flwyddyn, mewn ymgais i'w hysbrydoli i gyflawni eu potensial llawn".
Dywedodd Nick Andrews, Pennaeth Comisiynu BBC Cymru Wales,
"Rydym yn awyddus i gael pobl ifanc, leol i'r diwydiant ffilm a theledu yma yng Nghymru. Mae BBC Cymru Wales bob amser yn chwilio am ffyrdd o gynyddu cynulleidfaoedd a chreu argraff, felly roedd wir yn ddiddorol i siarad gyda'r myfyrwyr i glywed yr hyn roedd ganddynt i'w ddweud".
"Diolch i Goleg Menai am y croeso cynnes - roedd siarad gyda'r myfyrwyr cynhyrchu Ffilm a Theledu yn gyfle gwych i ysbrydoli gwneuthurwyr ffilm a rhaglenni teledu'r dyfodol yng Nghymru".
I gael rhagor o wybodaeth am y cwrs Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau (Teledu a Ffilm) a gyflwynir yng Ngholeg Menai, cliciwch yma.
Y DIWEDD