Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

'Myfyrwyr Coleg Glynllifon - perfformiad nodedig'

Mae’n bleser gan staff a myfyrwyr Coleg Glynllifon rannu bod dysgwyr eleni, oedd wedi sefyll arholiadau wedi eu dyfranu’n allanol wedi cyflawni graddau sy’n uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Yn wir, derbyniodd 56% o’r holl fyfyrwyr a astudiodd gyrsiau Amaethyddol a Diwydiannau’r Tir yng Ngholeg Glynllifon radd rhagoriaeth, tra bod 57% o’r myfyrwyr a astudiodd Reolaeth Cefn Gwlad a Choedwigaeth yn derbyn gradd rhagoriaeth, ffigurau a oedd ymhell uwchlaw’r cyfartaledd cenedlaethol. sydd fel arfer yn 10-20%.

Wrth fyfyrio ar y canlyniadau eleni, dywedodd Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd-Amaeth Grŵp Llandrillo Menai: “Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr. Maent wedi dangos gwydnwch a phenderfyniad mawr wrth gyflawni canlyniadau eithriadol yn ystod y gyfres gyntaf o arholiadau haf ac asesiadau ffurfiol mewn tair blynedd. Rydym yn hynod falch o’r canlyniadau a gyflawnwyd gan ein dysgwyr ac yn dymuno llwyddiant parhaus iddynt i gyd ar gyfer y dyfodol.”

Parhaodd: “Mae’r canlyniadau hyn yn dangos llwyddiant academaidd eithriadol a chyflawniad personol a fydd yn galluogi ein dysgwyr i gymryd eu camau nesaf i brifysgol, prentisiaethau neu gyflogaeth”.

Mae'r canlyniadau rhagorol hyn yn adeiladu ar lwyddiannau diweddar eraill yng Ngholeg Glynllifon. Eglurodd Gerwyn Williams, Rheolwr Maes Rhaglen Diwydiannau’r Tir, ‘Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, mae Coleg Glynllifon wedi agor cyfleuster gofal anifeiliaid newydd sbon gwerth £1.6 m, ac mae ein myfyrwyr wedi rhagori mewn nifer o gystadlaethau cenedlaethol, gyda’r enillwyr yn cael eu cadarnhau gan y Gymdeithas Goedwigaeth Frenhinol a Lantra. Cydnabuwyd tîm y fferm hefyd am fod â’r fuches groesi Pro canolig orau yn y DU.”

Meddai Morgan Clwyd, cyn-fyfyriwr Coleg Glynllifon: “Roedd fy amser fel myfyriwr yn astudio Amaethyddiaeth yng Ngholeg Glynllifon yn wych. Roedd y cyfleoedd a lefel y gefnogaeth a gynigiwyd i ni yn wirioneddol ryfeddol. Roeddwn yn ddigon ffodus i ennill gwobr Lantra yn ystod fy amser yn y coleg, diolch yn bennaf i ymroddiad y staff.

“Rydw i nawr yn dilyn prentisiaeth ar stad Cefn Amlwch yn Nhudweiliog ym Mhen Llyn, yn gweithio ar sawl prosiect arloesol sydd ganddyn nhw ar y stad. Rwy’n 100% yn sicr y bydd yr addysg a gefais tra’n astudio yng Nglynllifon yn fy helpu i adeiladu fy ngyrfa yn y dyfodol.”

Eleni rhagorwyd ar dargedau recriwtio myfyrwyr yng Ngholeg Glynllifon, sy'n newyddion gwych i'r sector diwydiannau'r tir yng Nghymru.

Ceir rhagor o fanylion am y cyrsiau Tir sydd ar gael yng Ngholeg Glynllifon yn www.gllm.ac.uk