Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Osian yw darlithydd peirianneg diweddaraf Coleg Menai

Mae enillydd medal aur WorldSkills UK wedi mynd o fod yn brentis i fod yn athro, ac mae myfyrwyr yn elwa ar ei arbenigedd mewn gweithgynhyrchu â chymorth cyfrifiadur

Osian Roberts, enillydd medal aur WorldSkillsUK, yw darlithydd peirianneg diweddaraf Coleg Menai.

Enillodd Osian y categori Turnio CNC yn rowndiau terfynol WorldSkills UK ym mis Tachwedd, tra oedd yn astudio un diwrnod yr wythnos yn y coleg fel rhan o’i brentisiaeth gyda chwmni gweithgynhyrchu IAQ.

Erbyn hyn, mae’n trosglwyddo ei sgiliau i’r genhedlaeth nesaf ar ôl ymuno â’r staff addysgu yn y Ganolfan Ynni yn Llangefni.

“Dw i’n mwynhau,” meddai Osian. “Dw i’n ddiolchgar o'r cyfle a dw i'n teimlo'n gyffrous am y dyfodol. Mae'n newid byd bod yr ochr arall i'r ddesg. Y peth pwysig yw ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf - does dim byd tebyg.

“O ran fi fy hun, mae'n gyfle i wella a rhoi’r cyfle i’r myfyrwyr. Rhoi’r etheg waith dda sydd gen i o fyd gwaith ar waith, a pharhau â gwerthoedd y coleg.”

Mae Osian yn dysgu dylunio gyda chymorth cyfrifiadur a gweithgynhyrchu gyda chymorth cyfrifiadur - yn enwedig y defnydd o beiriannau CNC.

Ystyr CNC yw Rheolaeth Rhifiadol Cyfrifiadurol ac mae'n cyfeirio at broses weithgynhyrchu a arweinir gan raglen gyfrifiadurol.

Datblygodd Osian arbenigedd yn y maes hwn wrth weithio fel gweithredwr canolfan durnio CNC i gwmni IAQ yn ei dref enedigol, Caernarfon.

Tra oedd yn gweithio gyda IAQ, cwblhaodd ei Ddiploma Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Fecanyddol cyn symud ymlaen i Dystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Gyffredinol – y ddau gwrs yng Ngholeg Menai, lle mae’r criw presennol bellach yn elwa o’i wybodaeth.

Dywedodd Bryn Jones, Arweinydd Rhaglen Peirianneg Fecanyddol/Gweithgynhyrchu Lefel 3: “Rydyn ni wrth ein boddau yn croesawu Osian i’r tîm peirianneg.

“Gydag arbenigedd mewn melino a thurnio CNC, mae dyfodiad Osian wedi creu ton newydd o frwdfrydedd ac arloesedd yn yr adran. Does dim syndod bod y myfyrwyr eisoes yn elwa o'i sesiynau craff.

“Dyma groesawu persbectif newydd a gwthio ffiniau’r hyn sy’n bosibl yn ein maes. Croeso i'r tîm!"

Mae Osian yn cymryd lle Iwan Roberts, a fu’n diwtor personol iddo ac a’i ddysgodd i ddefnyddio pecyn dylunio gyda chymorth cyfrifiadur Autodesk360 ar gyfer cystadlaethau WorldSkills.

Ef yw’r ail gyn-fyfyriwr i ymuno â staff addysgu’r adran beirianneg yn ddiweddar, ar ôl i Eva Voma hefyd gael ei phenodi’n ddarlithydd y tymor diwethaf.

Enillodd Eva, a astudiodd o Lefel 3 hyd at lefel prentisiaeth gradd yn y coleg, y fedal efydd mewn gweithgynhyrchu ychwanegion yn rowndiau terfynol WorldSkills UK y llynedd, a gallai gael y cyfle i gystadlu yn WorldSkills 2024 yn Lyon ar ôl cael ei henwi yn sgwad y DU.

A hoffech chi ddysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg? I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Mae'r broses ymgeisio ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024 wedi agor.