Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyn-fyfyriwr yn dychwelyd i Goleg Menai fel darlithydd

Enillodd Eva Voma nifer o wobrau yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Menai, ac mae hi ar fin dychwelyd i'r coleg i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr

Mae'r cyn-fyfyriwr o Goleg Menai, a enillodd nifer o wobrau yn ystod ei chyfnod yma, yn dychwelyd i'r coleg fel darlithydd peirianneg.

Bydd Eva Voma yn dechrau yn ei swydd darlithio ar gampws Llangefni yn ystod mis Tachwedd - ac mi fydd hi hefyd yn cynrychioli'r coleg yn rownd derfynol Worldskills Uk yn ystod yr un mis.

Dechreuodd Eva, 21 oed o Fangor, ddilyn y cwrs Diploma lefel 3 mewn Peirianneg yng Ngholeg Menai yn 2018 cyn llamu ymlaen i ddilyn cwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch wedi i'w gwaith caled a'i hagwedd wneud argraff ar ei darlithwyr.

Enillodd brentisiaeth gydag International Safety Components (ISC), cwmni o Landygai ger Bangor sy'n darparu offer diogelwch i weithio ar uchder i gwmnïau ar draws y byd.

Aeth ymlaen i ddilyn cwrs prentisiaeth gradd gyda'r cwmni gweithgynhyrchu a graddio eleni gyda gradd dosbarth cyntaf BEng mewn Systemau Mecanyddol Uwch o Brifysgol Bangor.

Mae hi'n canolbwyntio rŵan ar drosglwyddo ei gwybodaeth ac ar ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr yng ngogledd orllewin Cymru.

"Mae'n gylch cyflawn, dyma ble cychwynnais i arni, felly dw i'n teimlo fy mod i'n rhoi rhywbeth yn ôl," meddai Eva.

"Mi wnes i fwynhau'r cwrs yma. Roedd yn gwrs eang iawn ac yn trafod yr holl wybodaeth angenrheidiol, yn enwedig terminoleg y gweithle - roedd hynny o gymorth mawr.

Mi ddechreuais i ddilyn y cwrs Lefel 3 mewn peirianneg a chymryd diddordeb mawr mewn Cynllunio gyda Chyfrifiadur (CAD). Mi ges i gyfle i gystadlu yn Sgiliau Cymru, ac yn 2019 es i mor bell â'r rownd derfynol genedlaethol, felly dw i wedi cael cyfleoedd gwych."

Un o'r cyfleoedd hynny oedd cyfle i weithio fel prentis peiriannydd gweithgynhyrchu gyda ICS, a arweiniodd at gyfle i ddilyn cwrs gradd heb dalu ffioedd dysgu.

"Mi ddechreuais i yn yr adran ddatblygu yn gwneud gwaith dylunio, cyn symud ymlaen i'r ochr gynhyrchu," meddai. "Ar ddiwedd hynny, roeddwn i'n dal i deimlo bod gen i ragor i'w ddysgu, felly mi ddilynais gwrs prentisiaeth gradd, wedi'i ariannu gan y Llywodraeth.

"Mi faswn i'n argymell y llwybr hwn, rydych yn ennill cymhwyster heb dalu amdano, yn cael cyflog am weithio mewn swydd, ac yn cael blaen eich troed yn y diwydiant."

Enillodd Eva wobr Prentis y Flwyddyn gyda Grŵp Llandrillo Menai yn 2021, a medal arian yng nghategori CAD yn y gystadleuaeth UK Skills.

Bydd cyfle iddi ychwanegu gwobr arall at ei chasgliad pa fydd hi'n cystadlu yng nghategori Gweithgynhyrchu Haen-wrth-Haen yn rownd derfynol Worldskills UK ym Manceinion, ble bydd aelodau'r garfan i gynrychioli Prydain yn Lyon y flwyddyn nesaf yn cael eu dewis.

Bydd gofyn i Eva sganio darn ffisegol a defnyddio meddalwedd penodol i greu model 3D ohono. Bydd gofyn iddi hefyd fesur darn ffisegol go iawn a'i fodelu gan ddefnyddio meddalwedd CAD.

Gofynnwyd i Eva am ei chyngor i unrhyw un sy'n meddwl dilyn cwrs peirianneg a dywedodd: “Bachwch ar bob cyfle, oherwydd does wybod ble bydd yn eich arwain.

"Mi faswn i hefyd yn cadw meddwl agored am beirianneg - dim ceir ydy'r cwbl! Pan dw i'n dweud wrth bobl fy mod i'n beiriannydd, maen nhw bob amser yn meddwl mod i'n gweithio gyda cheir, ond mae'n eang iawn. Mi allai fod yn awyren, roced, ysbyty, cynhyrchion fferyllol - mi allai fod yn unrhyw beth."

⁠I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Peirianneg Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma. Mae'r broses ymgeisio ar gyfer mynediad ym mis Medi 2024 yn agor fis Tachwedd. Cynhelir nosweithiau agored ar gampysau Grŵp Llandrillo Menai yn ystod mis Tachwedd - i weld rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.