Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gwenllian Pyrs yn barod i wynebu her Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

Mae’r cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo wedi cael ei henwi yn nhîm Cymru. Yn ystod y tymor hwn mae 30 o sêr rygbi Grŵp Llandrillo Menai wedi cynrychioli Cymru ac RGC mewn gemau allweddol

Bydd y gyn-fyfyrwraig, Gwenllian Pyrs, yn dechrau i dîm Merched Cymru yn eu gêm agoriadol ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn erbyn Yr Alban, dydd Sadwrn Mawrth 23.

Mae Gwenllian, o Badog ger Betws-y-coed, yn chwarae i Bristol Bears a bydd yn chwarae yn safle prop pen rhydd ym Mharc yr Arfau, Caerdydd (y gic gyntaf am 4.45pm).

Mae bron i 30 o fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai wedi cynrychioli Cymru neu RGC dros yr wythnosau diwethaf mewn gemau allweddol.

Cynhaliwyd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y tîm hŷn a'r tîm dan 20 yn ystod mis Chwefror a mis Mawrth, ynghyd â gemau rhyngwladol cyfeillgar paratoadol ar gyfer cystadleuaeth y Chwe Gwlad y tîm dan 18, a galwyd saith unigolyn sydd wedi dod trwy rengoedd y coleg i gynrychioli eu gwlad.

Chwaraeodd Tal Taylor, Celt Ffrancis Roberts a Patrick Nelson, cyn-fyfyrwyr o Goleg Llandrillo i dîm dynion dan 20 Cymru yn ystod eu hymgyrch ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Chwaraeodd dysgwyr presennol Llandrillo, Dylan Alford a Greg Thomas, i fechgyn dan 18 Cymru yn eu gemau rhyngwladol cyfeillgar, a chafodd myfyrwyr Coleg Menai, Leah Stewart a Begw Ffransis Roberts, eu galw i chwarae i dîm dan 18 Cymru.

Bydd y pedwar yn gobeithio bod yn rhan o gystadlaethau Chwe Gwlad y tîm dan 18 yn ddiweddarach y mis hwn. Mae cystadleuaeth Chwe Gwlad y merched dan 18 oed yn cael ei chynnal ym Mae Colwyn rhwng Mawrth 29 ac Ebrill 7, a’r digwyddiad cyfatebol i fechgyn yn cael ei gynnal yn Parma, yn yr Eidal rhwng Mawrth 30 ac Ebrill 7.

Chwaraeodd Leah a Begw i dîm merched dan 18 RGC, y tîm cyntaf o Ogledd Cymru erioed i ennill cystadleuaeth Graddau Oedran Rhanbarthol URC.

Cawsant eu coroni'n bencampwyr ar 4 Chwefror ar ôl mynd yn ennill pob gêm yn y pum rownd.

Ymunodd Saran Griffiths, Sara Mai-Jones, Ella Basinger (Coleg Menai), Cadi Edwards (Coleg Glynllifon), Rhian Williams a Cari Evans (Coleg Llandrillo) â Leah a Begw yn nhîm dan 18 y rhanbarth.

Chwaraeodd Dylan a Greg dros dîm dan 18 RGC hefyd yn ddiweddar ynghyd â Cian Owen, Robert Jones, Oliver Roe, Tom Farrington, William Kellett, Charlie Jones, Osian Moore, Aron Bown, Rhodri J Jones, Rhodri Ll Jones, Osian Woodward, Gwern Doherty, Ben Senior a Rory Williams o Academi Llandrillo.

Dywedodd Ollie Coles, Swyddog Ymgysylltu Rygbi Grŵp Llandrillo Menai ac Undeb Rygbi Cymru: “Fel Grŵp, rydym yn hynod o falch o gyflawniadau’r holl ddysgwyr presennol a'r cyn- ddysgwyr.

“Mae’r nifer enfawr sydd wedi cael eu cynnwys yn y timau hyn yn dyst nid yn unig i waith caled y chwaraewyr eu hunain, ond hefyd i ymroddiad amrywiol aelodau o staff ar draws y Grŵp i gefnogi’r dysgwyr.

“Rhaid rhoi clod arbennig i Andrew Williams sy’n arwain ein Hacademi Rygbi gwrywaidd yng Ngholeg Llandrillo, ac i Eon Williams sy’n datblygu cyfleoedd rygbi ar draws Coleg Meirion-Dwyfor.

“Mae’r cyflawniadau hyn yn dangos y cyfraniad sylweddol y mae Grŵp Llandrillo Menai yn ei wneud i ddatblygu chwaraewyr ar gyfer timau RGC a Chymru.”

Diddordeb mewn astudio Chwaraeon yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau. I gael rhagor o wybodaeth am Academi Rygbi Coleg Llandrillo, cliciwch yma.