Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Osian Roberts ac Yuliia Batrak yn ennill medalau aur yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkillsUK

Roedd yna hefyd fedalau efydd i Eva Voma ac Adam Hopley wrth i Grŵp Llandrillo Menai ddod yn bedwerydd yn erbyn colegau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig

Enillodd Yuliia Batrak ac Osian Roberts o Grŵp Llandrillo Menai fedalau aur yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkillsUK.

Daeth llwyddiant i ran Eva Voma ac Adam Hopley hefyd wrth iddynt ennill medalau efydd yn eu cystadlaethau ac i Grŵp Llandrillo Menai orffen yn bedwerydd yn erbyn colegau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Yn awr bydd gan enillwyr y medalau gyfle i gael eu dewis i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn y Gystadleuaeth WorldSkills fydd yn cael ei chynnal yn Lyon, Ffrainc rhwng y 10fed a 15fed o Fedi'r flwyddyn nesaf, sef y 47fed tro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal, neu'r Gystadleuaeth WorldSkills ganlynol yn Shanghai, China yn 2026.

Mae Yuliia o Fae Colwyn yn dilyn cwrs Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol yng Ngholeg Llandrillo ac enillodd fedal aur yn y gystadleuaeth Gwasanaethau Bwyty ym Manceinion gan guro'r pum cystadleuydd arall oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Enillodd Osian Roberts o Gaernarfon y gystadleuaeth Turnio CNC. Mae Osian yn astudio ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Gyffredinol yng Ngholeg Menai fel rhan o'i brentisiaeth gyda chwmni gweithgynhyrchu IAQ.

Daeth Adam yn drydydd yn y gystadleuaeth Electroneg Ddiwydiannol, a thrydydd oedd Eva hefyd yn y gystadleuaeth Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen.

Un o Fangor yw Eva ac yn ddiweddar mae wedi dechrau gweithio fel darlithydd peirianneg yng Ngholeg Menai, ar ôl graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Systemau Mecanyddol Cymhwysol.

Cyn hynny, cwblhaodd gwrs Diploma Lefel 3 a Thystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg yng Ngholeg Menai, cyn cwblhau ei phrentisiaeth gradd tra oedd yn gweithio i gwmni International Safety Components yn Llandygai.

Mae Adam, o Aberdyfi, yn mynychu Coleg Menai fel rhan o'i brentisiaeth gradd mewn peirianneg gyda Nimbus Foods.

Myfyriwr arall o Grŵp Llandrillo Menai a wnaeth argraff ym Manceinion oedd Holly Whitehouse, a gafodd 'Gymeradwyaeth Uchel' yn y rownd Trin Gwallt derfynol. Dilynodd Holly o Abergele gwrs Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt yng Ngholeg Llandrillo'r llynedd.

Cafodd enillwyr Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkillsUK eu cydnabod mewn seremoni yn Neuadd Bridgewater ym Manceinion nos Wener.

Roedd hyn yn dilyn dau ddiwrnod o gystadlu brwd mewn lleoliadau ym Manceinion a’r cyffiniau, a chwe mis o ragbrofion lleol a rhanbarthol.

Bu myfyrwyr a phrentisiaid yn cystadlu mewn disgyblaethau'n amrywio o beirianneg, technoleg ddigidol a gweithgynhyrchu i gelfyddydau creadigol, busnes ac iechyd a lletygarwch.

Daeth Grŵp Llandrillo Menai'n bedwerydd, y tu ôl i New College Lanarkshire, Southern Regional College a City of Glasgow College.

I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys rhestr lawn o'r enillwyr, ewch i www.worldskillsuk.org