Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni, Y Rhyl, Dolgellau - CaMDA (Adeiladu a Pheirianneg)
  • Dull astudio:
    Rhan amser
  • Hyd:

    2 flynedd

Gwnewch gais
×

HNC Peirianneg Gyffredinol

Graddau (Addysg Uwch)

Rhan Amser

Os ydych yn gwneud cais i astudio'n rhan-amser gallwch gyflwyno cais uniongyrchol i'r campws o'ch dewis.

Dolgellau
Llangefni

Disgrifiad o'r Cwrs

Os ydych yn gweithio yn y diwydiant peirianneg, neu os oes gennych brofiad yn y maes bydd y cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu eich gyrfa neu i astudio ar lefel gradd.

Mae'n addas ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn peirianneg fecanyddol, peirianneg electronig a pheirianneg drydanol mewn meysydd megis dylunio systemau, gweithgynhyrchu a gwasanaethau technegol. Mae hefyd yn addas os ydych wedi cwblhau cymhwyster Lefel 3 ac yn dymuno datblygu eich sgiliau ymhellach er mwyn gweithio yn y diwydiant peirianneg.

Mae'r wyth uned gyntaf yn cynrychioli'r isafswm o gredydau sydd eu hangen i gael Tystysgrif Genedlaethol Uwch. Mae'r unedau hyn wedi'u rhannu'n gyfartal rhwng unedau craidd gorfodol, unedau Trydanol/Electronig ac unedau Peirianneg.

Er mwyn datblygu i fod yn Beiriannydd cyflawn, mae'r pedair uned arall sydd wedi'u rhestru wedi cael eu cynnwys i roi gwell profiad i'r myfyriwr o ran gwybodaeth Peirianneg a chyflawniad academaidd / ysgolheigaidd.

Er na fyddai'r unedau hyn ond yn cael eu cyflwyno pe bai yna ddigon o ddiddordeb, argymhellir yn gryf y dylai myfyrwyr eu cyflawni fel unedau ychwanegol dewisol gan dalu cost bresennol uned ychwanegol.

Ynghyd â llwybrau ychwanegol arbenigol (yn amodol ar y nifer o geisiadau):

Ar gael ar gampws Dolgellau:

• HNC Peirianneg Gyffredinol

Ar gael ar gampws Llangefni:

Mae Llangefni yn cynnig y teitl Peirianneg Gyffredinol i fyfyrwyr ond gydag unedau Trydanol NEU Mecanyddol ar gael i'w dewis, yn dibynnu ar statws cyflogaeth.

Nid yw Llangefni yn cynnig unedau ychwanegol sydd angen taliadau ychwanegol.

Ar gael ar gampws Y Rhyl:

• HNC Peirianneg Gyffredinol

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae gwybodaeth fanylach am Fodiwlau yn yr adran 'Gwybodaeth Ychwanegol yn ôl Campws/Cwrs'.

Ffioedd

Ewch i'n tudalen ffioedd cyrsiau i gael gwybodaeth am ffioedd ein cyrsiau gradd llawn amser a rhan-amser.

Cymorth Ariannol

Ewch i'n tudalen cymorth ariannol i gael gwybodaeth am yr ystod o gefnogaeth sydd ar gael.

Costau Ychwanegol Gall costau ychwanegol fod yn gysylltiedig â'r canlynol:

  • Teithio sy'n gysylltiedig â mynychu'r rhaglen a phrofiad gwaith, ymweliadau allanol, teithiau maes, dillad addas ar gyfer gwaith/lleoliad, argraffu ychwanegol dros lwfans, cof bach, costau eraill sy'n gysylltiedig â deunydd ysgrifennu.
  • Efallai y bydd hefyd yn fanteisiol, ond nid yn ofynnol, i brynu cynhyrchion meddalwedd amrywiol a ddefnyddir ar y cwrs. Bydd gofynion meddalwedd o'r fath yn cael eu trafod yn ystod y broses gyfweld.
  • Weithiau bydd ymweliadau allanol â chwmnïau, digwyddiadau / sioeau ac ati, a dylai'r myfyriwr gyllidebu ar gyfer hyn

Cewch wybodaeth fanylach yn eich cyfweliad ac yn y ddogfen dilysu rhaglen am gostau eraill sy'n gysylltiedig â'ch cwrs a'ch lleoliad/profiad gwaith (os yw hynny'n berthnasol).

Dyddiad cychwyn

Mis Medi

Gofynion mynediad

Gofynion ieithyddol:

  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf
  • Dylai unrhyw raddau, diplomâu neu dystysgrifau cymwys fod wedi'u haddysgu a'u hasesu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, neu
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 4, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 5.5 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.0)
  • Yn achos ymgeiswyr o dramor, i gael mynediad ar Lefel 5 neu uwch, dylid bod yn rhugl yn y Saesneg hyd at safon IELTS 6 neu uwch (ni ddylai unrhyw elfen fod yn llai na 5.5)

Gofynion academaidd:

O leiaf 32 pwynt UCAS, gydag o leiaf 16 pwynt yn dod o gymhwyster Lefel A llawn neu gymhwyster lefel 3 cyfwerth.

  • Cymhwyster Lefel 3 BTEC mewn pwnc perthnasol neu Lefel A Llawn mewn pwnc STEM angenrheidiol
  • Proffil TAG Safon Uwch sy'n dangos perfformiad cryf mewn pwnc perthnasol neu berfformiad digonol mewn mwy nag un pwnc TAG. Dylai'r proffil hwn gael ei gefnogi gan TGAU graddau A* - C/4 (neu gyfwerth)
  • TGAU gradd C/4 neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Sgiliau Allweddol/Hanfodol ar lefel gyfwerth. Bydd gofyn i ymgeiswyr nad oes ganddynt y cymwysterau hyn ddangos tystiolaeth i gadarnhau bod safon eu rhifedd yn bodloni gofynion y rhaglen.
  • Cymwysterau Lefel 3 perthnasol eraill
  • Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch berthnasol gan sefydliad addysg bellach a gymeradwywyd
  • Profiad gwaith perthnasol
  • Cymhwyster rhyngwladol sy'n gyfwerth â'r uchod

Croesewir ceisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt yn bodloni'r gofynion mynediad safonol ond sydd â phrofiad perthnasol. Mewn achosion o'r fath caiff ymgeiswyr eu cyfweld, ac ystyrir teilyngdod pob cais yn unigol yn unol â pholisi Grŵp Llandrillo Menai.

Croesewir myfyrwyr aeddfed ac asesir addasrwydd yn y cam cyfweld.

Mewn rhai achosion bydd BTEC L3 mewn Peirianneg yn cael ei gynnig fel cwrs pontio am 1 flwyddyn academaidd.

Os nad yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad a restrir ar daflen y cwrs, byddem yn parhau i'ch annog i gyflwyno cais am y cwrs sydd o ddiddordeb i chi, gan y bydd llawer o'n cyrsiau yn ystyried dysgwyr ar sail eu profiad gwaith a'u sgiliau blaenorol yn hytrach na'u cymwysterau.

Cyflwyniad

Cyflwynir y cwrs drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Darlithoedd
  • Tiwtorialau
  • Gweithdai
  • Gwaith labordy
  • Dysgu myfyriwr ganolog
  • Amgylchedd dysgu rhithwir (MOODLE)

Amserlen

Rhan-amser: 2 flynedd, 1 diwrnod yr wythnos

Cyswllt:

Gydag ymholiadau am gyrsiau penodol, cysylltwch â:

Eurfon Davies (Arweinydd Rhaglen - Menai): davies2e@gllm.ac.uk

Emlyn Evans (Arweinydd Rhaglen - Meirion-Dwyfor): evans12e@gllm.ac.uk

Grace Gregson (Gweinyddiaeth - Llandrillo): gregso1g@gllm.ac.uk

Gydag ymholiadau cyffredinol am ein cyrsiau gradd, cysylltwch â: degrees@gllm.ac.uk

Asesiad

Ar y cwrs, cewch eich asesu drwy gyfuniad o'r dulliau a ganlyn:

  • Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg
  • Cyflwyniadau
  • Aseiniadau ymarferol
  • Portffolio

Adborth

Caiff asesiadau eu marcio a'u dychwelyd i fyfyrwyr gydag adborth adeiladol a datblygiadol pan fo hynny'n berthnasol. Mae adborth effeithiol yn cyfuno gwybodaeth sy'n galluogi myfyrwyr i ddeall cryfderau a chyfyngiadau eu perfformiad blaenorol, a gwybodaeth sy'n eu galluogi i ddeall sut y gellid gwella eu perfformiad yn y dyfodol. Bydd myfyrwyr yn derbyn adborth yn brydlon a bydd yr adborth hwn yn cyfiawnhau sut y dyfarnwyd y radd. Caiff myfyrwyr gyfle i fyfyrio ar yr adborth a gawsant ac i nodi eu cryfderau, pethau a fu'n heriol iddynt a meysydd y mae angen eu datblygu, er mwyn gwella eu hasesiad nesaf. Bydd yr adborth yn cynnwys cysylltu tystiolaeth â meini prawf asesu, er mwyn dangos sut y bydd y myfyriwr wedi bodloni'r canlyniadau dysgu.

Dilyniant

Datblygwyd Diplomau Cenedlaethol Uwch BTEC mewn Peirianneg Gyffredinol fel eu bod yn cynnig datblygiad gyrfaol ac yn cael eu cydnabod gan gyrff proffesiynol.

Mae'n hanfodol bod dysgwyr yn cael y budd mwyaf o'u rhaglen astudio. Datblygwyd y cymhwyster ar sail trafodaethau/cyhoeddiadau perthnasol yr Enginneering Council UK (EC (UK)) a SEMTA (Science, Engineering and Manufacturing Technologies Alliance).

Yn dilyn cwblhau y cwrs yn llwyddiannus gallwch fod yn gymwys i wneud cais am fynediad Blwyddyn 2 ar y rhaglen Prentisiaeth Gradd a ariennir neu barhau â'u hastudiaethau tuag at Ddiploma Cenedlaethol Uwch lefel 5 ar gampws Llandrillo yn Rhos.

Gwybodaeth campws Dolgellau

Rhaglen astudio arbenigol yn gysylltiedig â byd gwaith yw'r cwrs HNC mewn Peirianneg Gyffredinol, ac mae'n ymdrin â'r wybodaeth allweddol a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector peirianneg. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ganolbwyntio ar faes arbenigol drwy ddewis penodol o unedau. Fel arfer caiff y cymwysterau eu cwblhau gan ddysgwyr rhan-amser sy'n astudio dros gyfnod o ddwy flynedd. Mewn rhai sectorau ceir cyfleoedd i gwblhau rhaglen astudio ddwys dros gyfnod llai o amser. Ceir cyfleoedd ariannu eraill ar gyfer y cwrs hwn os ydych yn cael eich cyflogi am dros 16 awr yr wythnos mewn lleoliad galwedigaethol perthnasol.

Modiwlau Lefel 4

Dylunio ym maes Peirianneg (15 credyd, craidd)
Nod yr uned hon yw cyflwyno myfyrwyr i'r drefn mae peirianwyr yn ei dilyn wrth greu cynhyrchion a phrosesau gweithredol; o friff dylunio i'r gwaith, a'r camau sy'n rhan o adnabod a chyfiawnhau datrysiad i angen peirianyddol. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol; Portffolio)

Mathemateg ym maes Peirianneg (15 credyd, craidd)
Nod yr uned hon yw meithrin sgiliau myfyrwyr o ran yr egwyddorion a'r theorïau peirianyddol sy'n greiddiol i'r cwricwlwm peirianneg. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddulliau mathemategol a thechnegau ystadegol er mwyn gallu dadansoddi a datrys problemau yng nghyd-destun peirianneg. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg)

Gwyddoniaeth ym maes Peirianneg (15 credyd, craidd)
Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i ddeddfau a chymwysiadau sylfaenol y gwyddorau ffisegol mewn peirianneg a sut i gymhwyso'r wybodaeth hon i ganfod datrysiadau i broblemau peirianegol.

Ymysg y pynciau sy'n rhan o'r uned hon mae: system ryngwladol o unedau, dehongli data, grymoedd statig a dynamig, mecaneg hylifol a thermodynameg, priodweddau a methiant deunyddiau, a theorïau cylchedau cerrynt eiledol/cerrynt union. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol; Portffolio)

Rheoli Prosiect Peirianneg Proffesiynol (15 credyd, craidd)
Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i'r technegau a'r arferion gorau sydd eu hangen i greu a rheoli'n llwyddiannus brosiect peirianneg a fwriadwyd i adnabod a datrys angen peirianyddol. Wrth weithio ar y prosiect hwn bydd myfyrwyr yn ystyried rôl a swyddogaeth peirianneg yn ein cymdeithas, y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau proffesiynol sydd ar beirianwyr ynghyd â'r ymddygiadau sy'n gysylltiedig â'u gweithredoedd. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol; Portffolio)

Arferion mewn Gweithdai Mecanyddol (15 credyd, gorfodol)
Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i'r defnydd effeithiol o wybodaeth destunol, rifol a graffigol, y ffyrdd orau o dynnu a dehongli gwybodaeth o luniadau peirianneg, a'r technegau peiriannu sy'n gysylltiedig â thurnio a melino mewn gweithdy.

Rheoli ym maes Peirianneg (15 credyd, craidd)
Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i egwyddorion ac arferion rheoli ym maes peirianneg, a'u gweithrediad strategol. Ymysg y pynciau sy'n rhan o'r uned hon mae: prif gysyniadau a damcaniaethau rheoli ac arweinyddiaeth, hanfodion rheoli risg, rheoli gweithredol, damcaniaethau ac adnoddau rheoli prosiectau a gweithrediadau, mesurau allweddol llwyddiant strategaethau rheoli, ac adnoddau cynllunio.

Peirianneg Cynhyrchu ar gyfer Gweithgynhyrchu (15 credyd, gorfodol)
Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i'r broses gynhyrchu ar gyfer mathau allweddol o ddeunyddiau; y mathau amrywiol o beiriannau a ddefnyddir i gynhyrchu nwyddau a'r gwahanol ffyrdd o drefnu systemau cynhyrchu i wneud y defnydd gorau posibl o'r broses gynhyrchu. Ystyrir sut mae mesur effeithlonrwydd system gynhyrchu yng nghyd-destun cyffredinol y system weithgynhyrchu ac edrychir ar sut mae peirianneg cynhyrchu'n cyfrannu at sicrhau gweithgynhyrchu diogel a dibynadwy.

Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD) ym maes Peirianneg (15 credyd, gorfodol)
Bwriad yr uned yw rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr feithrin eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth o'r rhaglenni meddalwedd CAD a ddefnyddir mewn peirianneg, a'r sgiliau ymarferol i ddefnyddio’r dechnoleg yn eu gwaith creadigol eu hunain.

Gwybodaeth campws Llangefni

Mae Llangefni yn cynnig y teitl Peirianneg Gyffredinol i fyfyrwyr ond gydag unedau Trydanol neu Fecanyddol ar gael i'w dewis, yn dibynnu ar statws cyflogaeth.

Am bob 10 credyd, dylai myfyrwyr ymgysylltu â thua 100 awr dybiannol o ddysgu.Bydd hyn oddeutu 30% o ddysgu uniongyrchol cyswllt 70% dysgu myfyrwyr annibynnol.

Modiwlau Lefel 4:

Dylunio Peirianneg (15 credyd, craidd) (pob safle)

Nod yr uned hon yw cyflwyno myfyrwyr i'r camau trefnus y mae peirianwyr yn eu defnyddio wrth greu cynhyrchion a phrosesau swyddogaethol; o friff dylunio i'r gwaith, a'r camau sy'n gysylltiedig â nodi a chyfiawnhau datrysiad i angen peirianyddol penodol. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol; Portffolio)Mathemateg Peirianneg (15 credyd, craidd) (pob safle)Nod yr uned hon yw datblygu sgiliau myfyrwyr yn yr egwyddorion a'r damcaniaethau mathemategol sy'n sail i'r cwricwlwm peirianneg. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddulliau mathemategol a thechnegau ystadegol er mwyn dadansoddi a datrys problemau o fewn cyd-destun peirianneg. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg)

Gwyddoniaeth Peirianneg (15 credyd, craidd) (pob safle)

Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i gyfreithiau a chymwysiadau sylfaenol y gwyddorau ffisegol mewn peirianneg a sut i gymhwyso'r wybodaeth hon i ddod o hyd i atebion i amrywiaeth o broblemau peirianneg. Ymhlith y pynciau a gynhwysir yn yr uned hon mae: system ryngwladol o unedau, dehongli data, grymoedd statig a deinamig, mecaneg hylif a thermodynameg, priodweddau materol a methiant, ac A.C. /D.C. damcaniaethau cylched. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol; Portffolio)

Rheoli Prosiect Peirianneg Broffesiynol (15 credyd, craidd) (pob safle)

Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i'r technegau a'r arferion gorau sy'n ofynnol i greu a rheoli prosiect peirianneg yn llwyddiannus sydd wedi'i gynllunio i nodi datrysiad i angen peirianneg. Wrth gyflawni'r prosiect hwn bydd myfyrwyr yn ystyried rôl a swyddogaeth peirianneg yn ein cymdeithas, y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau proffesiynol a ddisgwylir gan beirianwyr ynghyd â'r ymddygiadau sy'n cyd-fynd â'u gweithredoedd. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol; Portffolio)

Wedi'i ddilyn gan 4 uned arall o restr benodol o unedau arbenigol:

(Sylwch fod unedau arbenigol yn destun adolygiad, i ateb galw'r diwydiant, argaeledd a galluoedd staffio - bydd dewis a darpariaeth uned yn cael ei gadarnhau yn ystod y cam cyfweld).

Deunyddiau, Priodweddau a Phrofi (15 credyd)

Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i strwythur atomig deunyddiau a'r ffordd y mae'n effeithio ar briodweddau, natur gorfforol a nodweddion perfformiad deunyddiau gweithgynhyrchu cyffredin; sut mae'r eiddo hyn yn cael eu profi, a'u haddasu gan amrywiol driniaethau prosesu; a phroblemau sy'n codi a all achosi i ddeunyddiau fethu yn y gwasanaeth. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Aseiniadau ymarferol)

Egwyddorion Mecanyddol (15 credyd)

Nod yr uned hon yw cyflwyno myfyrwyr i'r egwyddorion mecanyddol hanfodol sy'n gysylltiedig â chymwysiadau peirianneg. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol)Rheoli Peirianneg (15 credyd) Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i egwyddorion ac arferion rheoli peirianneg a'u gweithrediad strategol. Y pynciau a gynhwysir yn yr uned hon yw: prif gysyniadau a damcaniaethau rheoli ac arwain, hanfodion rheoli risg, rheoli gweithredol, damcaniaethau ac offer rheoli prosiectau a gweithrediadau, mesurau llwyddiant allweddol strategaethau rheoli, ac offer cynllunio. (Aseiniadau Ysgrifenedig)

Egwyddorion Trydanol ac Electronig (15 credyd)

Mae peirianneg drydanol yn ymwneud yn bennaf â symud egni a phŵer ar ffurf drydanol, a'i gynhyrchu a'i ddefnyddio. Mae electroneg yn ymwneud yn bennaf â thrin gwybodaeth, y gellir ei chaffael, ei storio, ei phrosesu neu ei throsglwyddo ar ffurf drydanol. Mae'r ddau yn dibynnu ar yr un set o egwyddorion corfforol, er bod eu cymwysiadau'n amrywio'n fawr. Mae astudiaeth o beirianneg drydanol neu electronig yn dibynnu i raddau helaeth ar yr egwyddorion sylfaenol hyn; mae'r rhain yn sail i unrhyw gymhwyster yn y maes, a nhw yw sylfaen yr uned hon. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol)

Peiriannau Trydanol (15 credyd)

Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i nodweddion a pharamedrau gweithredol ystod o beiriannau wedi'u pweru electromagnetig a ddefnyddir mewn amrywiaeth o gymwysiadau. Ymhlith y pynciau a gynhwysir yn yr uned hon mae: egwyddorion sy'n sail i weithrediad ac adeiladwaith trawsnewidyddion, moduron sefydlu, peiriannau cydamserol transducers electromagnetig, actiwadyddion a generaduron; a nodweddion gweithredu peiriannau trydanol fel foltedd, cerrynt, cyflymder gweithredu, sgôr pŵer, ymyrraeth electromagnetig (EMI) ac effeithlonrwydd. (Aseiniadau Ysgrifenedig)

Egwyddorion Digidol (15 credyd)

Mae'r uned yn cyflwyno dwy brif gangen electroneg ddigidol, cyfun a dilyniannol. Felly mae'r myfyriwr yn ennill cynefindra yn elfennau sylfaenol cylchedau digidol, yn arbennig gwahanol fathau o gatiau rhesymeg a bistables. Mae'r technegau ar gyfer dadansoddi cylchedau o'r fath yn cael eu cyflwyno a'u defnyddio, gan gynnwys Tablau Gwirionedd, algebra Boole, Mapiau Karnaugh, a Diagramau Amseru. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg)

Cynnal a Chadw Peirianneg (15 credyd)

Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i bwysigrwydd rhaglenni cynnal a chadw offer, y buddion y mae offer a gynhelir yn dda yn eu cynnig i sefydliad a'r ffactorau risg y mae'n eu hwynebu os nad yw rhaglenni a phrosesau cynnal a chadw yn cael eu hystyried na'u gweithredu. Y pynciau a gynhwysir yn yr uned hon yw: rheoliadau statudol, gofynion diogelwch sefydliadol, strategaethau cynnal a chadw, technegau gweithio a chynnal a chadw diogel. (Aseiniadau Ysgrifenedig).

Ynni Adnewyddadwy (15 credyd)

Nod yr uned hon yw cyflwyno myfyrwyr i adnoddau a thechnolegau ynni adnewyddadwy, gan gynnwys technolegau storio a chynhyrchu cyfredol, ac archwilio eu manteision a'u cyfyngiadau. (Aseiniadau Ysgrifenedig)


Gwybodaeth campws Y Rhyl

Rhaglen astudio arbenigol yn gysylltiedig â byd gwaith yw'r cwrs HNC mewn Peirianneg Gyffredinol, ac mae'n ymdrin â'r wybodaeth allweddol a'r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i weithio yn y sector peirianneg. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ganolbwyntio ar faes arbenigol drwy ddewis penodol o unedau. Fel arfer caiff y cymwysterau eu cwblhau gan ddysgwyr rhan-amser sy'n astudio dros gyfnod o ddwy flynedd. Mewn rhai sectorau ceir cyfleoedd i gwblhau rhaglen astudio ddwys dros gyfnod llai o amser. Ceir cyfleoedd ariannu eraill ar gyfer y cwrs hwn os ydych yn cael eich cyflogi am dros 16 awr yr wythnos mewn lleoliad galwedigaethol perthnasol.

Mae Llangefni yn cynnig y teitl Peirianneg Gyffredinol i fyfyrwyr ond gydag unedau Trydanol neu Fecanyddol ar gael i'w dewis, yn dibynnu ar statws cyflogaeth.

Modiwlau Lefel 4

Dylunio ym maes Peirianneg (15 credyd, craidd) (pob safle)

Nod yr uned hon yw cyflwyno myfyrwyr i'r drefn mae peirianwyr yn ei dilyn wrth greu cynhyrchion a phrosesau gweithredol; o friff dylunio i'r gwaith, a'r camau sy'n rhan o adnabod a chyfiawnhau datrysiad i angen peirianyddol. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol; Portffolio)

Mathemateg ym maes Peirianneg (15 credyd, craidd) (pob safle)

Nod yr uned hon yw meithrin sgiliau myfyrwyr o ran yr egwyddorion a'r theorïau peirianyddol sy'n greiddiol i'r cwricwlwm peirianneg. Bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i ddulliau mathemategol a thechnegau ystadegol er mwyn gallu dadansoddi a datrys problemau yng nghyd-destun peirianneg. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg)

Gwyddoniaeth ym maes Peirianneg (15 credyd, craidd) (pob safle)

Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i ddeddfau a chymwysiadau sylfaenol y gwyddorau ffisegol mewn peirianneg a sut i gymhwyso'r wybodaeth hon i ganfod datrysiadau i broblemau peirianegol.

Ymysg y pynciau sy'n rhan o'r uned hon mae: system ryngwladol o unedau, dehongli data, grymoedd statig a dynamig, mecaneg hylifol a thermodynameg, priodweddau a methiant deunyddiau, a theorïau cylchedau cerrynt eiledol/cerrynt union. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol; Portffolio)

Rheoli Prosiect Peirianneg Proffesiynol (15 credyd, craidd) (pob safle)

Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i'r technegau a'r arferion gorau sydd eu hangen i greu a rheoli'n llwyddiannus brosiect peirianneg a fwriadwyd i adnabod a datrys angen peirianyddol. Wrth weithio ar y prosiect hwn bydd myfyrwyr yn ystyried rôl a swyddogaeth peirianneg yn ein cymdeithas, y dyletswyddau a'r cyfrifoldebau proffesiynol sydd ar beirianwyr ynghyd â'r ymddygiadau sy'n gysylltiedig â'u gweithredoedd. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol; Portffolio)

Egwyddorion Mecanyddol (15 credyd, gorfodol) (Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau) (Llwybr mecanyddol, Llangefni)

Nod yr uned hon yw cyflwyno myfyrwyr i'r egwyddorion mecanyddol hanfodol sy'n gysylltiedig â gweithrediadau peirianyddol. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol)

Systemau Electro, Niwmatig a Hydrolig (15 credyd, gorfodol) (Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau)

Nod y modiwl hwn yw datblygu gwybodaeth a gwerthfawrogiad myfyrwyr o'r defnydd o systemau ynni hylifol mewn diwydiannau modern. Bydd myfyrwyr yn ymchwilio ac yna'n dylunio systemau niwmatig, hydrolig, electro-niwmatig ac electro-hydrolig. Mae'r uned hon yn rhoi cyfle i fyfyrwyr archwilio priodweddau cydrannau ynni hylifol ac i werthuso arferion seiliedig ar waith a'r ffordd mae'r systemau hyn yn cael eu defnyddio. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Aseiniadau ymarferol)

Systemau Trydanol a Chanfod Namau (15 credyd, gorfodol) (Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau)

Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i briodweddau a pharamedrau gweithredol ystod o gydrannau systemau trydanol sy'n cael eu defnyddio mewn amrywiaeth o gymwysiadau; a sut i ganfod nam pan aiff pethau o chwith. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol)

Egwyddorion Trydanol ac Electronig (15 credyd, gorfodol) (Llandrillo-yn-Rhos, Dolgellau)(Llwybr Trydanol/Electronig, Llangefni)

Mae peirianneg drydanol yn ymwneud yn bennaf â symudiadau ynni a phŵer ar ffurf drydanol, a'r ffordd mae'n cael ei gynhyrchu a'i ddefnyddio. Mae electroneg yn ymwneud yn bennaf a'r ffordd mae gwybodaeth yn cael ei thrin, a gall y wybodaeth hon gael ei chasglu, ei storio, ei phrosesu neu'i throsglwyddo ar ffurf drydanol. Mae'r ddau'n dibynnu ar yr un set o egwyddorion ffisegol, er bod eu cymwysiadau'n wahanol iawn. Mae astudio peirianneg drydanol neu electronig yn dibynnu i raddau helaeth iawn ar yr egwyddorion creiddiol hyn; dyma sylfaen unrhyw gymhwyster yn y maes a dyna hefyd sylfaen yr uned hon. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Cyflwyniadau; Aseiniadau ymarferol)

Egwyddorion Digidol (Llwybr Trydanol/Electronig, Llangefni)

Mae'r uned hon yn cyflwyno dwy brif gangen electroneg ddigidol sef cyfunol a dilyniannol. Felly mae myfyrwyr yn dod yn gyfarwydd ag elfennau sylfaenol cylchedau digidol, yn bennaf y gwahanol fathau o adwyon rhesymeg a deusadau. Mae'r technegau ar gyfer dadansoddi cylchedau o'r fath yn cael eu cyflwyno a'u cymhwyso, yn cynnwys Gwirlenni, Algebra Boole, Mapiau Karnaugh a Diagramau Amseru. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg)

Cylchedau a Dyfeisiau Electronig (Llwybr Trydanol/Electronig, Llangefni)

Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i'r defnydd o ddata electroneg gweithgynhyrchwyr i ddadansoddi perfformiad cylchedau a dyfeisiau, priodweddau gweithredol cylchedau mwyaduron, y mathau o adborth a'r effeithiau ar berfformiad cylchedau a gweithrediad a chymhwysiad osgiliaduron. Byddant hefyd yn cael eu cyflwyno i sut mae cymhwyso gweithdrefnau profi i ddyfeisiau a chylchedau electronig, a sut i ddefnyddio canfyddiadau profion i werthuso eu gweithrediad. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Aseiniadau ymarferol)

Egwyddorion Trydanol, Electronig a Digidol Pellach (Llwybr Trydanol/Electronig, Llangefni)

Bydd pwyslais yr uned hon ar ddatblygu dulliau strwythuredig o ddadansoddi cylchedweithiau ynni cerrynt eiledol sengl a thri cham. Bydd hyn yn helpu i gael y datrysiad mwyaf effeithiol, a'r tebygolrwydd mwyaf o fod yn gywir. Yn ogystal, bydd myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i'r defnydd cynyddol o gyfrifiaduron, ac yn defnyddio meddalwedd arbenigol i ddatrys cylchedau trydanol, electronig a digidol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu hyder a gallu mewn pedwar maes allweddol sef technegau mathemategol, dadansoddi cylchedau, efelychu cylchedau a gwaith ymarferol mewn labordy. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Aseiniadau ymarferol)

Cynllunio gyda Chymorth Cyfrifiadur / Gweithgynhyrchu gyda Chymorth Cyfrifiadur (CAD/CAM) (Llwybr Mecanyddol, Llangefni)

Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i holl gamau'r broses CAD/CAM ac i'r broses o fodelu cydrannau gan ddefnyddio meddalwedd CAD sy'n addas i'w drosglwyddo i feddalwedd CAM. Ymysg y pynciau sy'n rhan o'r uned hon mae: dulliau rhaglennu, gosod cydrannau, offeru, modelu solet, trin geometreg, lluniadu cydrannau, mewnosod modelau solid, efelychiadau gweithgynhyrchu, trosglwyddo data, mathau o beiriannau CNC ac archwiliadau. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Portffolio)

Deunyddiau, Priodweddau a Phrofi (Llwybr mecanyddol, Llangefni)

Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i strwythur atomig deunyddiau a'r ffordd mae'n effeithio ar briodweddau, natur ffisegol a nodweddion perfformio deunyddiau gweithgynhyrchu cyffredin; sut mae'r priodweddau hyn yn cael eu profi, a'u haddasu gan wahanol driniaethau prosesu; a'r problemau a all achosi i ddeunyddiau fethu. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Aseiniadau ymarferol)

Peirianneg Cynhyrchu ar gyfer Gweithgynhyrchu (Llwybr mecanyddol, Llangefni)

Mae'r holl gynhyrchion wedi'u gweithgynhyrchu a ddefnyddiwn yn feunyddiol, o fwyd wedi'i brosesu i ddillad a cheir, yn ganlyniad i beirianneg cynhyrchu. Rhaid i beirianwyr cynhyrchu wrth wybodaeth a dealltwriaeth gynhwysfawr o'r holl dechnolegau cynhyrchu sydd ar gael, eu manteision a'u hanfanteision, gofynion a gweithrediad y system gynhyrchu a'r rhyngweithio sy'n digwydd rhwng cydrannau amrywiol y system gynhyrchu. Mae'r uned hon yn cyflwyno myfyrwyr i'r broses gynhyrchu ar gyfer mathau allweddol o ddeunyddiau; y mathau amrywiol o beiriannau a ddefnyddir i gynhyrchu cynnyrch a'r gwahanol ffyrdd o drefnu systemau cynhyrchu i wneud y defnydd gorau posibl o'r broses gynhyrchu; ystyriaeth i sut mae mesur effeithlonrwydd system gynhyrchu yng nghyd-destun cyffredinol y system weithgynhyrchu; ac archwiliad o sut mae peirianneg cynhyrchu'n cyfrannu at sicrhau diogelwch a dibynadwyedd mewn gweithgynhyrchu. (Aseiniadau ar ffurf adroddiadau Peirianneg; Aseiniadau ymarferol)

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Graddau (Addysg Uwch)

Lefel: 4

Maes rhaglen:

  • Peirianneg
  • International

Sefydliad dyfarnu: Edexcel

Dwyieithog:

Yn dibynnu ar y campws, efallai y bydd myfyrwyr yn gallu cyrchu elfennau o'r rhaglen yn Saesneg ac yn Gymraeg trwy sicrhau bod rhai deunyddiau dysgu rhaglen ar gael yn ddwyieithog.

Rhoddir manylion i chi yn y cyfweliad.

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith

Sefydliad dyfarnu