Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Carmen Smith, cyn-fyfyrwraig o’r coleg, yn dod yn aelod ieuengaf Tŷ'r Arglwyddi

Astudiodd Y Farwnes Smith o Lanfaes yng Ngholeg Menai rhwng 2013 a 2015, a bu'n Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn y coleg

Mae Carmen Smith, cyn-fyfyrwraig o Goleg Menai, wedi’i phenodi i Dŷ’r Arglwyddi, gan ddod yn un o'r arglwyddi am oes ieuengaf erioed.

Astudiodd Carmen, sy'n 28 oed ac yn aelod o Blaid Cymru, gwrs Lefel 3 mewn Gweinyddiaeth Fusnes yng Ngholeg Menai rhwng 2013 a 2015, a bu'n Llywydd Undeb y Myfyrwyr yn y coleg.

Cyflwynwyd hi i Dŷ'r Arglwyddi fel y Farwnes Smith o Lanfaes, gan ddewis ei theitl er mwyn “taflu goleuni ar brofiadau pobl mewn ardaloedd fel fy un rhai i”.

Cyflwynwyd hi i'r Tŷ gan Dafydd Wigley, cyn-arweinydd Plaid Cymru, a Natalie Benner, cyn arweinydd y Blaid Werdd, ac fe dyngodd llw yn y Gymraeg.

Cyn iddi gael ei chyflwyno i Dŷ’r Arglwyddi, dywedodd: "Wrth i mi gael fy nghyflwyno i Dŷ’r Arglwyddi fel ei aelod ieuengaf heddiw, byddaf yn hynod ymwybodol o’r cyfrifoldeb unigryw sydd gennyf i fod yn llais dros fy nghenhedlaeth.

“Fel gofalwraig ifanc i fy niweddar dad, fe brofais y math o drafferthion y mae cymaint o bobol yn eu hwynebu bob dydd – yr un rhwystrau, yr un rhagfarnau. Fel rhywun a fagwyd mewn ardal wledig, ddifreintiedig, cefais brofiad o’r diffyg cysylltedd a’r diffyg seilwaith sy’n wynebu cymaint o’n cymunedau o hyd.

"Dewisais 'Llanfaes' fel fy nheitl gan fy mod eisiau anfon neges. Roeddwn eisiau taflu goleuni ar brofiadau pobl mewn ardaloedd fel fy rhai i.”

Dywedodd Liz Saville Roberts AS, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan: “Rydw i wrth fy modd bod Carmen Smith yn ymuno â thîm bach ond gweithgar Plaid Cymru yn San Steffan. Gwn y bydd yn sefyll yn ddygn dros Gymru, dros bobl ifanc, a thros fenywod.

“Mae arnom angen pobl gydag amrywiaeth eang o brofiadau fel bod ein gwleidyddiaeth yn cynrychioli cymdeithas yn well. Alla i ddim aros i weld Carmen yn rhoi 'sgytwad i’r lle ac yn dod â chwa o awyr iach i ail siambr San Steffan.”