Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Manylion Allweddol

  • Ar gael yn:
    Llangefni
  • Dull astudio:
    Llawn Amser
  • Hyd:

    2 years

Gwnewch gais
×

Peirianneg Fecanyddol Lefel 3

Llawn Amser (Addysg Bellach)

Llangefni

Noder: Rydym yn argymell bod gennych liniadur neu Chromebook y gallwch ei ddefnyddio i gwblhau gwaith yn ddigidol yn eich cartref. Mae gennym Gronfa Cynhwysiant Digidol TG bwrpasol i gefnogi'r dysgwyr hynny nad oes ganddynt ddyfais ddigidol ac sy'n methu â phrynu un.

Disgrifiad o'r Cwrs

A oes gennych chi ddiddordeb mewn dilyn gyrfa gyffrous y maes Peirianneg Fecanyddol? Ar y cwrs hwn, cewch feithrin y sgiliau a'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i weithio mewn amrywiaeth o swyddi ym maes peirianneg, mewn diwydiannau sy'n cynnig gwasanaeth ac mewn diwydiannau gweithgynhyrchu.

Mae'r cwrs yn gysylltiedig â gwaith, a byddwch yn dysgu drwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a seiliwyd ar sefyllfaoedd realistig. Mae cyflogwyr a phrifysgolion yn rhoi gwerth ar y cymhwyster hwn, a bydd yn eich paratoi i wneud cynnydd proffesiynol ac addysgol.

Gofynion mynediad

I gael lle ar y cwrs hwn, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

  • 5 TGAU gradd A*- C gan gynnwys Saesneg neu Gymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg neu Rifedd a phwnc Gwyddoniaeth. Yn ddelfrydol Gradd B mewn Mathemateg (Haen Uwch)
  • Wedi cwblhau'r cwrs Peirianneg Lefel 2

Mae'r broses ymgeisio'n cynnwys cyfweliad.

Cyflwyniad

Cyflwynir y rhaglen drwy gyfuniad o’r dulliau a ganlyn:

  • Sesiynau ymarferol yn y gweithdy
  • Sesiynau yn y dosbarth
  • Gwaith â phwyslais ar y myfyriwr
  • Arddangosiadau
  • Trafodaethau
  • Tiwtorialau
  • Amgylchedd dysgu rhithwir
  • Bydd yn rhaid i chi gwblhau 150 awr o brofiad gwaith.

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ail-sefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
  • 'Mathemateg Safon UG' ym Mlwyddyn 1 a 'Mathemateg Safon Uwch' ym Mlwyddyn 2

Bydd eich rhaglen yn cynnwys cyfuniad o:

  • Cymwysterau Sgiliau Hanfodol a/neu
  • Ailsefyll TGAU a/neu
  • Bagloriaeth Cymru
Bagloriaeth Cymru

Mae Bagloriaeth Cymru'n gymhwyster gwerthfawr a astudir yn aml ochr yn ochr â chwrs llawn amser.

Caiff y cymhwyster, sy'n werth hyd at 120 pwynt UCAS, ei raddio A*–E a bydd yn rhoi i chi sgiliau personol a sgiliau busnes trosglwyddadwy. Mae prifysgolion a chyflogwyr yn ei ystyried yn gymhwyster gwerthfawr.

Yn rhan o'r cymhwyster, byddwch yn dysgu am Ddinasyddiaeth Fyd-eang, Mentergarwch a Chyflogadwyedd, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned ac yn mynd ar brofiad gwaith.

Sgiliau Hanfodol

Gall hyn gynnwys cyfuniad o Gymhwyso Rhif, Cyfathrebu, Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd Hanfodol.

Ailsefyll TGAU

Gall hyn gynnwys TGAU Rhifedd/Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg.

Mathemateg a Chymraeg/Saesneg

Os nad oes gennych radd C neu uwch mewn Mathemateg a/neu Gymraeg/Saesneg, byddwn yn eich cefnogi i ailsefyll y pynciau hyn yn rhan o'ch rhaglen astudio.

Asesiad

Ar y rhaglen, cewch eich asesu gan gyfuniad o'r canlynol:

  • Aseiniadau / aseiniadau ymarferol / ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios o waith
  • Perfformio ac arsylwi
  • Arddangos sgiliau ymarferol
  • Arholiad ar-lein

Dilyniant

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gennych nifer o ddewisiadau o ran beth i'w wneud nesaf gan gynnwys:

  • Cwblhau blwyddyn atodol er mwyn ennill Diploma Estynedig (yn cyfateb i 3 gradd Safon Uwch)
  • Prentisiaeth Lefel 3 mewn Peirianneg
  • Prentisiaethau
  • Prentisiaethau Uwch
  • Prentisiaethau Gradd
  • Mynd i'r Brifysgol

Mwy o wybodaeth

Math o gwrs: Llawn Amser (Addysg Bellach)

Lefel: 3

Maes rhaglen:

  • Peirianneg

Dwyieithog:

n/a

Peirianneg

Dewch i wybod mwy am y maes hwn ac i weld ein canllawiau lefelau:

Peirianneg

Myfyriwr Dolgellau yn defnyddio peirianwaith